Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022

Cynllun Gweithredu

1. Amcan 1 yn y CGAN: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.

 

Cymerwyd camau gweithredu i wneud y canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad:
    • Darparodd y Tîm Cadwraeth Seminar ar Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i Swyddogion ac Aelodau yn 2017 a 2022.
    • Ymgynghori ac ymgysylltu cynnar parhaus â swyddogion perthnasol mewn perthynas â chynlluniau/prosiectau/strategaethau.
    • Rhedeg seminarau neu ddarparu gwybodaeth i amlygu pwysigrwydd a gwerth bioamrywiaeth a sut yr ydym yn cyfrannu at weithredu fel sefydliad.
    • Cyfrannu at Gynulliad Blynyddol Partneriaeth Natur Sir Benfro (PNSB) a chynnwys gwahoddiadau i’r Aelod Cabinet a Chynghorwyr.
    • Ymgysylltu wyneb yn wyneb â swyddogion.
  • Mae proses ailadroddus gyda newidiadau cynyddrannol yn aml yn ei wneud yn anodd i’w feintioli.
  • Mae cynnydd mewn ymgyngoriadau a cheisiadau am Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol gan Adrannau wedi dwyn goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer Swyddogion Ecoleg.

 

2. Amcan 2 yn y CGAN: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well

Cymerwyd camau gweithredu i wneud y canlynol:

  • Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd arbennig sydd wedi’u cynnwys ar y rhestrau bioamrywiaeth adran 7, er enghraifft trwy:
    • Darparu cynefinoedd addas ac a reolir yn briodol i rywogaethau a warchodir lle y bo’n briodol – rheolaeth ar gyfer Pothellau Helyg, Clefyd Coed Cyll, Casgliad o Ffyngau Glaswelltir trwy gyswllt â Rhwydwaith Cofnodi Ffyngau Sir Benfro (2022), wedi ailargraffu a diweddaru “Llyfryn Arweiniad i Gapiau Cwyr yng Ngorllewin Cymru” sy’n cynnwys 57 o rywogaethau gan gynnwys ffyngau A7.
    • Mae Prosiect Bro Cleddau wedi cynnwys gosod 4 gwâl dyfrgwn artiffisial o amgylch Hwlffordd – cyswllt/cyngor gan The Otter Consultancy.
    • Gwella rheolaeth ar gynefinoedd, er enghraifft ar gyfer peillwyr trwy newidiadau Cynnal a Chadw Ardal i gyfundrefnau torri a chynlluniau plannu;
    • Defnyddio’r system gynllunio i “gynnal a gwella” rhywogaethau a chynefinoedd ar gyfer yr holl geisiadau cynllunio – e.e. Camau Lliniaru ar gyfer Ystlumod ar ffurf gwelliannau yn y fan a’r lle a darparu tai ystlumod ar eu pennau eu hunain.
    • Mapiau wedi’u datblygu ar gyfer rheoli Clefyd Coed Ynn lle ceir risg uchel ar gyfer hynny, croesfannau ffyrdd ystlumod trwyn pedol a hefyd Cymunedau Lobarion (cennau) (atodiad 1 A7).
    • Prosiect Maenordy Scolton i ddarparu cyfleoedd clwydo i anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac ystlumod trwy Dyfwr Coed yn gweithio ar goed yr effeithiwyd arnynt gan Glefyd Coed Ynn gan gadw boncyff y goeden mewn cyflwr diogel.
    • Ymwneud â Phrosiect PNSB i godi blychau Gwenoliaid a chwaraewyr MP3 ar Ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), gorsafoedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
    • Trafod y potensial ar gyfer gwybodaeth bellach am “laswelltir capiau cwyr” gyda phryderon ynghylch y posibilrwydd o golli safleoedd ffyngau pwysig i brosiectau “Plannu Coed Gwrthbwyso Carbon”.
    • Offeryn Cynllunio Defnydd Tir ar y we wedi’i ddeillio o Ddata Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru.
  • Cyfrannu at reoli safleoedd a rhywogaethau a warchodir:
    • Aelod o 3 Grŵp Awdurdodau Perthnasol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol (GAPACA, cadeirydd ar ddau grŵp); yn ymgysylltu’n llawn yn y broses hon, gan sicrhau bod y safleoedd hyn yn cael eu gwerthfawrogi mewn prosesau penderfynu a chyfrannu at eu rheoli lle y bo’n bosibl.
    • Ar hyn o bryd, ae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Cleddau ac Afon Teifi yn methu â chyrraedd targedau a ddiweddarwyd yn 2021 ar ffosffadau a sefydlwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae CSP yn ymrwymedig i fynd i’r afael â’r mater hwn ochr yn ochr â phartneriaid strategol eraill. Mae wedi sefydlu Bwrdd Rheoli Maethynnau Cleddau (Sy’n cael ei gadeirio gan yr Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai) ac mae hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli Maethynnau Teifi. Mae’r byrddau newydd hyn yn cynrychioli partneriaeth strategol a fydd yn datblygu Cynllun penodol i fynd i’r afael â dalgylchoedd sy’n methu.
    • Ymweliadau â safleoedd ACA i feithrin tîm gyda’r Tîm Cynllunio a Chadwraeth;
    • Cymorth i’r prosiect 3 blynedd “Llithrfa sy’n Glanhau Ei Hun” gan Fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe ar lithrfeydd CSP yn Aberdaugleddau.
    • Rheoli tir o amgylch safleoedd gwarchodedig i greu clustogfa a’u cydgysylltu fel rhan o rwydweithiau ecolegol cydnerth e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Somerton, Tiroedd yr Hen Felin a Phrosiect Bro Cleddau Hwlffordd.

Mesurau a/neu ddangosyddion a gaiff eu monitro neu eu casglu:

 

3. Amcan 3 yn y CGAN: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd

Cymerwyd camau gweithredu i wneud y canlynol:

  • Creu neu gyfrannu at Rwydweithiau Ecolegol Cydnerth3 er enghraifft trwy:
    • Adfer a/neu greu cynefinoedd drwy bolisi Ffermydd Sirol diwygiedig i ystyried Dyletswydd A6.
    • Cysylltu neu helaethu ardaloedd o gynefinoedd drwy Brosiect PLANT gyda'r GIG/Tir Coed yn darparu tir fferm sirol ar gyfer plannu coed.
    • Gwella rheolaeth a/neu amrywiaeth ardaloedd  o gynefinoedd a reolir gan CSP.
    • Cyfrannu tystiolaeth at broses y Datganiad Ardal – mae staff y Tîm Cadwraeth wedi mynychu sawl seminar leol.

Mesurau a/neu ddangosyddion a gaiff eu monitro neu eu casglu:

  • Asesiadau Seilwaith Gwyrdd[4];  
  • Prosiect Gwybodaeth Ddaearyddol diwygiedig wedi’i gyflawni yn 2022 – aeth Staff Cadwraeth gyda Land Use Consultants LUC ar gyfer asesiadau tref
  • Gwybodaeth ychwanegol: Cydweithio gyda Phrosiect Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol “Pwyth mewn Pryd” ACPAC.

 

4. Amcan 4 yn y CGAN: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd:

  • Mynd i’r afael â’r prif bwysau:
    • Lleihau neu lle y bo’n bosibl atal y defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr trwy weithio gyda rheolwyr cynnal a chadw ardaloedd.
    • Y gwasanaeth caffael yn treialu deunyddiau glanhau “Nad Ydynt yn Cynnwys Ffosffadau” i asesu eu heffeithiolrwydd a dadansoddi costau a budd – yn mynd rhagddo.
    • Lleihau’r ardal o rywogaethau anfrodorol goresgynnol trwy drin tir CSP sy’n llawn ohonynt a gweithio mewn partneriaeth gyda Phrosiect “Pwyth mewn Pryd” APCAP.
    • Adnoddau arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu – gweithdrefnau bellach yn eu lle i ailgylchu mwy o wastraff cartrefi.
    • Wedi datgan ei bod hi’n argyfwng ar yr hinsawdd.
    • Hysbysiad o Gynnig mewn perthynas â Newid Hinsawdd ar 6 Mehefin 2019.
    • Datganiad Caeredin wedi’i lofnodi ym mis Hydref 2021.
  • Defnyddio datrysiadau seiliedig-ar-natur bioamrywiol a brodorol lle bynnag y bo’n bosibl, er enghraifft trwy:
    • Roi anogaeth ar gyfer systemau draenio cynaliadwy (SDCau) – mae CSP yn Gorff Cymeradwyo SDCau (CCS).
    • Fe ymgynghorwyr â’r Tîm Cadwraeth ynghylch ceisiadau am Ganiatadau Cyrsiau Dŵr Cyffredin.
    • Defnyddio seilwaith gwyrdd a glas trefol bioamrywiol brodorol i reoli tymheredd, llif dŵr, erydiad pridd – gan gynnwys plannu coed, glaswelltiroedd a gwlypdiroedd – Prosiect Bro Cleddau sy’n cynnwys “gwyrddu” o fewn Canol Tref Hwlffordd.
    • Defnyddio mesurau atal llifogydd naturiol, megis pantiau a gwlypdiroedd ar Afon Solfach mewn partneriaeth gyda CNC.
    • Darparu mannau gwyrdd lleol i gymunedau ac ymwelwyr wella deilliannau iechyd a llesiant trwy;

a) Prosiect Bro Cleddau – Tiroedd yr Hen Felin a’r Halwyndir

b) Newidiadau o ran plannu peillwyr a thorri glaswellt

c) Rhos Wdig mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

d) Cefnogi Cynghorwyr a Grwpiau Amgylcheddol Cymunedol (e.e. Eco Dewi, Cymuned Ailnaturio Llanteg ac Amroth, Brynberian, Llandudoch).

Mesurau a/neu ddangosyddion a gaiff eu monitro neu eu casglu:

  • Annog adrannau i leihau’r defnydd o blaladdwyr, chwynladdwyr a chynhyrchion/arferion eraill sy’n achosi risg i fioamrywiaeth.
  • Prosiect peilot Gwasanaeth Caffael CSP sy’n defnyddio deunyddiau glanhau nad ydynt yn cynnwys ffosffadau yn Nepo Thornton.
  • Polisïau wedi’u cyflwyno i hybu cynaliadwyedd – manylion y Gweithgor Carbon Sero ar gael yn yr Hysbysiad o Gynnig ynghylch Newid Hinsawdd 6 Mehefin 2019.
  • Defnyddio datrysiadau seiliedig-ar-natur lle y bo’n briodol.
  • Ardal o Rywogaethau Anfrodorol Goresgynnol yn cael ei lleihau neu ei rheoli.

 

5. Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro:

  • Gwella’r defnydd o dystiolaeth wrth wneud penderfyniadau, er enghraifft trwy:
    • Gasglu a rhannu tystiolaeth trwy drafodaethau gyda swyddogion awdurdodau lleol cyfagos e.e. Gweithgor Clefyd Coed Ynn.
    • Defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael i wneud penderfyniadau, er enghraifft defnyddio data byw Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru mewn penderfyniadau cynllunio trwy ddatblygu Offeryn Cynllunio Defnydd Tir ar y we.
    • Ystyried y rhestr adran 7 o rywogaethau a chynefinoedd, yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal (mae Aelodau’r Tîm Cadwraeth wedi cyfrannu at nifer o weithdai a seminarau ar Ddatganiadau Ardal gan CNC).
    • Ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol/defnyddio mewnbwn arbenigwyr.
    • Adolygu’r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Bioamrywiaeth i gynnwys Goleuadau.
    • Adnabod bylchau o ran tystiolaeth.
    • Gwneud gwaith ymchwil trwy;

a)    GAPAGiau

b)    Grŵp Goruchwylio Amgylcheddol Dyfrffordd Aberdaugleddau

c)     Gwaith mewn partneriaeth i ddatblygu Prosiectau Ffyngau DNA gyda Rhwydwaith Cofnodi Ffyngau Sir Benfro/Kew/Prifysgol Aberystwyth.

d)    Mae Swyddog Bioamrywiaeth/Ecolegydd CSP yn aelod o Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Gwarchodedig Morol Llywodraeth Cymru gan gynrychioli CLlLC.

 

  • Rhannu tystiolaeth yn hygyrch, er enghraifft trwy
    • Trefnu bod data ar gael trwy Ganolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol.
    • Sicrhau bod tystiolaeth amgylcheddol yn hygyrch i gymunedau lleol trwy drafodaethau gyda grwpiau lleol a Chynghorwyr perthnasol.

Mesurau a/neu ddangosyddion a gaiff eu monitro neu eu casglu:

  • Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ei le gyda CGBGC.
  • Penderfyniadau cynllunio’n cael eu gwneud gan ddefnyddio tystiolaeth bioamrywiaeth a gaiff ei hasesu trwy ymgynghori/craffu gydag Ecolegydd Cynghori Arbenigol CSP ac, o fewn y CCA Bioamrywiaeth, datblygu’r elfen “gwella” ar gyfer y Ddyletswydd A6.

 

6. Amcan 6 yn y CGAN: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion

Camau gweithredu i:

  • Sicrhau llywodraethu ar gyfer bioamrywiaeth o fewn eich sefydliad, er enghraifft trwy:
    • Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Fioamrywiaeth sy’n sicrhau bod y ddyletswydd A6 yn berthnasol drwy’r Awdurdod i gyd.
  • Darparu capasiti ar gyfer bioamrywiaeth, er enghraifft trwy:
    • Sicrhau, lle y bo angen, y gellir manteision ar arbenigedd ecolegol, naill ai’n fewnol neu’n allanol trwy ddarpariaeth Tîm Cadwraeth CSP a chyswllt agos â Thimau CNC a Swyddogion perthnasol yn Llywodraeth Cymru.
    • Annog a chynorthwyo gwirfoddolwyr i gyfranogi mewn camau gweithredu ar gyfer bioamrywiaeth gan staff trwy’r Cynllun Gweithwyr yn Gwirfoddoli – Mae’r cynllun hwn yn caniatáu i gyflogeion gymryd hyd at dridiau neu amser cyfatebol (pro rata) â thâl o’r gwaith i wirfoddoli.
    • Annog a chynorthwyo gwirfoddolwyr i gyfranogi mewn camau gweithredu ar gyfer bioamrywiaeth gan gymunedau lleol trwy Brosiectau Adfywio Cymunedol.
    • Sicrhau bod y Ddyletswydd A6 yn cael ei monitro a’i hadolygu gyda chymorth Llywodraeth Cymru a CNC.
  • Cefnogi camau gweithredu bioamrywiaeth trwy gyllid a/neu bartneriaethau, er enghraifft trwy:
    • roi cyllid a chymorth gweinyddol i Bartneriaeth Natur Sir Benfro i hwyluso trefniadau gweithio ar draws sectorau.
    • mewn blynyddoedd blaenorol, mae cyfraniad mewn arian parod gan CSP i PNSB wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau cadwraeth lleol ac i gael cyllid ychwanegol. Mae cydnerthedd ecolegol yn thema graidd yn y prosiectau hyn.
    • Gweithio gyda PNSB a Phartneriaethau Natur Lleol yn yr ardal gyfagos i gydlynu Cynlluniau Gweithredu.
    • Cefnogi sefydliadau a phrosiectau amgylcheddol eraill y tu allan i PNSB – Gweithio gydag aelodau eraill y Bwrdd Gwasanaethau Lleol i gyflawni arfer gorau o ran gweithredu i gyflawni’r ddyletswydd A6. Enghraifft yw darparu data cadwraeth ar gyfer y gwasanaeth tân i oleuo penderfyniadau yn y fan a’r lle gan gomanderiaid digwyddiadau – Llwybr Peilot yng Ngogledd Orllewin Sir Benfro’n cael ei gyflwyno i isadrannau ychwanegol.
    • Cynorthwyo grwpiau amgylcheddol cymunedol i arolygu a rheoli bioamrywiaeth leol mewn modd cynaliadwy trwy Ddiwrnodau Cofnodi CGBGC a phrosiectau Bioamrywiaeth Gymunedol ar y cyd â PNSB.

Mesurau a/neu ddangosyddion a gaiff eu monitro neu eu casglu, er enghraifft:

  • Diwrnodau gwirfoddolwyr perthnasol a gwblhawyd.
  • Cynlluniau grantiau a buddsoddi a gefnogwyd trwy Grantiau PNSB.
  • Capasiti Perthnasol – mae staff cyfredol yn dal i gael eu cyflogi er gwaethaf y dirwasgiad economaidd.
  • grwpiau amgylcheddol lleol/cenedlaethol yr ymgysylltwyd â hwy/a gefnogwyd yn weithredol neu’n sylweddol e.e. Rhwydwaith Cofnodi Ffyngau Sir Benfro, Buglife, Plantlife, Cadwraeth Cacwn, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid a Grŵp Amffibiaid ac Ymlusgiaid y DU.
  • Cyswllt parhaus â Grwpiau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, CNC ac Adrannau Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun A6 yn ddogfen fyw a bydd yn cael ei ddiweddaru’n briodol pan gyfyd yr angen. Adroddir ar Ddyletswydd A6 y Cyngor bob tair blynedd, gyda’r adroddiad byr nesaf i gael ei baratoi yn 2025.

 

 



[1] Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru

[2] Ceir gwybodaeth am Adroddiadau Monitro Blynyddol ym mharagraff 6.2.12 Polisi Cynllunio Cymru (rhifyn 11)

[3] Rhywogaethau o gynefinoedd mewn cyflwr ecolegol da gan gydgysylltu safleoedd dynodedig a mannau eraill sy’n gyforiog o fioamrywiaeth i ddwyn y budd mwyaf i fioamrywiaeth a’n llesiant.

 

[4] Ceir gwybodaeth am Asesiadau Seilwaith Gwyrdd yn adran 6.2 

ID: 9521, adolygwyd 02/02/2023