Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022
Uchafbwyntiau, Deilliannau Allweddol a Materion
- Ar draws yr Awdurdod mae cydweithio’n ei gwneud yn bosibl gweithredu ar fioamrywiaeth trwy godi ymwybyddiaeth a rhoi anogaeth i ymgynghori’n gynnar/llawn â’r Tîm Cadwraeth ar gyfer prosiectau a gwasanaethau CSP, sydd hefyd o gymorth i arbed costau ac yn osgoi oedi gyda’r prosiect.
- O ran effeithiau negyddol sy’n amlwg neu sy’n parhau, ystyrir bod Adnoddau (staffio/cyllid) yn rhwystrau i gyflawni camau gweithredu. Mae cyllid sydd wedi bod mewn cylchoedd o dair blynedd wedi darparu peth sicrwydd (cyllid Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles blaenorol ar gyfer y Bartneriaeth Natur, a’r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fwy diweddar). Mae CSP, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill, yn parhau i fod â phwysau ar i gyllideb ac yn ceisio arbed costau ar draws yr Awdurdod. Mae diffyg arian ar gyfer prosiectau/camau gweithredu bioamrywiaeth a'r adnoddau staffio y mae eu hangen i reoli a chyflawni'r prosiectau a'r camau gweithredu hyn yn broblem hefyd.
- Mae’r Tîm Cadwraeth yn cydweithio’n agos gyda’r Swyddog Coed Eiddo a’r Tîm Clefyd Coed Ynn i fynd ati’n barhaus i asesu cyflwr/diogelwch coed ac ystyried gwaith diogelwch i goed gan gadw’r boncyff lle mae’n ddiogel gwneud hynny.
- Mae CSP wedi bod yn gweithredu polisi torri ymylon ffyrdd ers 2013 i ddwyn bydd i rywogaethau sy’n blodeuo/mynd i had yn y gwanwyn yn debyg i gynigion cyfredol Plantlife. Rhoddir cyfundrefnau torri penodol ar waith ar gyfer gwarchodfeydd ymylon ffyrdd a chyda thrafodaethau parhaus gyda grwpiau cymunedol/amgylcheddol.
Mae Tîm Amwynder CSP yn treialu dull torri-a-chasglu gan ddefnyddio Grillo (gweler y ffotograff ar dudalen 13) o reoli mannau gwyrdd amwynder ar amryw safleoedd yn Hwlffordd gyda phlannu hadau a phlygiau yn creu ardaloedd o ddolydd ochr yn ochr ag ardaloedd amwynder a gaiff eu torri ar hyn o bryd.
ID: 9519, adolygwyd 02/02/2023