Adrodd am dwyll, llwgrwobrwyo neu lygredd

Rydym yn hyrwyddo ymagwedd o ddim goddefgarwch tuag at dwyll, llygredd a llwgrwobrwyo o unrhyw fath.

Mae dyletswydd arnom i atal twyll a llygredd, boed yn ymgais gan rywun o fewn y Cyngor neu'r tu allan megis sefydliad arall, preswylydd, cyflogai, contractiwr neu gynghorydd.  

Os ydych yn meddwl bod rhywun yn cyflawni twyll yn erbyn y Cyngor, neu fod gweithiwr y Cyngor neu aelod etholedig yn euog o lwgrwobrwyo neu lygredd, gallwch ddweud wrthym am eich pryderon.

Sut i adrodd am bryderon

Y ffordd gyflymaf a hawsaf i adrodd am dwyll yw llenwi ein ffurflen adrodd ar-lein.

Bydd eich pryderon yn cael eu cyfeirio at ein Swyddog Atal Twyll pwrpasol.

Gellir cyflwyno eich pryderon yn ddienw.

Gallwch gysylltu â'n Swyddog Atal Twyll drwy yrru neges e-bost at counterfraud@pembrokeshire.gov.uk

Byddwn yn cadw'r holl wybodaeth a ddarperir yn gwbl gyfrinachol yn unol â'n Polisi Diogelu Data.

 

Enghreifftiau o'r math o ymddygiad y gallech fod yn dymuno adrodd amdano

  • Isosod neu beidio â byw yn ei dŷ cyngor
  • Hawlio gostyngiad person sengl ar ei dreth gyngor pan fo oedolion eraill yn byw yn y cartref
  • Peidio â datgan cynilion, incwm neu asedau ariannol er mwyn cael taliadau gofal cymdeithasol, grant neu ostyngiad yn y dreth gyngor
  • Swyddog cyngor / aelod etholedig yn cymryd llwgrwobr yn gyfnewid am fantais annheg
  • Swyddog cyngor / aelod etholedig yn ymgymryd â gwaith preifat neu waith arall yn ystod oriau gwaith y Cyngor
  • Contractiwr yn cyflawni twyll cyflenwr neu gontract, megis rigio cynigion neu drefnu prisiau'n annheg
  • Camddefnyddio gwybodaeth neu ddeunyddiau sy'n eiddo i'r Cyngor

Nid yw hon yn rhestr gyflawn, felly rhowch wybod i ni am unrhyw bryderon eraill sydd gennych fel y gallwn ymchwilio i'r mater ymhellach.

Noder: Gallwn ond ymchwilio i honiadau a gaiff eu gwneud yn erbyn pobl sy'n byw yn Sir Benfro neu sy'n gweithio i Gyngor Sir Penfro.

 

ID: 11134, adolygwyd 14/11/2023