Adroddiad Ansawdd Aer 6
Crynodeb
Mae’r chweched adroddiad interim hwn wedi rhoi cyfle i adolygu’r holl ddata monitro a gasglwyd ers mis Chwefror 2024 i’w ystyried.
Mae'r crynodiadau a gofnodwyd o hydrogen sylffid a fesurwyd ym mhob tiwb tryledu a osodwyd yn y cymunedau cyfagos wedi parhau i gael eu cofnodi ymhell islaw gwerth y meini prawf cysylltiad oes o 1ppb. Mae'r lefelau a welir ar hyn o bryd yr un fath â'r rhai a geir mewn mannau eraill yn ne Cymru. Bydd y gwaith monitro tiwbiau tryledu hwn yn parhau.
Mae'n amlwg o'r defnydd cyson o'r offeryn Jerome ar wahanol adegau o'r dydd dros nifer o fisoedd nad oes modd canfod hydrogen sylffid yn barhaus dros gyfnodau amser o'r fath. Mewn llawer o safleoedd monitro ar wahanol achlysuron yn ystod y misoedd diwethaf, nid yw'r Jerome wedi dod o hyd i lefelau canfyddadwy o hydrogen sylffid. O ystyried bod lefelau mor isel bellach yn cael eu canfod, y cynllun ar hyn o bryd yw rhoi’r gorau i fonitro arferol gyda’r Jerome ddiwedd mis Medi 2024.
Yn ystod y cyfnod monitro hwn, defnyddiwyd tiwbiau tryledu unwaith eto i asesu presenoldeb cyfansoddion organig anweddol. Mae lefelau o grynodiad isel yn parhau i gael eu canfod, ac mae’n ymddangos bod hydrogen sylffid yn dal i fod y cyfansoddyn targed mwyaf defnyddiol ar gyfer ceisio canfod presenoldeb aroglau. Bydd y defnydd o'r tiwbiau hyn hefyd, felly, yn dod i ben.
Wrth symud ymlaen, bydd y rhaglen fonitro gymunedol felly’n canolbwyntio ar fesur hydrogen sylffid gan ddefnyddio tiwbiau tryledu yn D1 i D12 ynghyd â’r data a gasglwyd gan Gyngor Sir Penfro yn y monitor safle sefydlog a leolir yn Ysgol Spittal. Bydd y strategaeth hyblyg hon yn cael ei hadolygu'n barhaus.
Cyfeiriadau
Cyf 1. Adran Iechyd a Gwasanaethau Dynol UDA, Asiantaeth y Gofrestrfa Sylweddau Gwenwynig a Chlefydau (ATSDR), Proffil gwenwynegol hydrogen sylffid, 2006 – U.S. Department of Health and Human Services, Agency for Toxic Substances and Disease Registry (ATSDR), Toxicological profile for Hydrogen Sulphide, 2006.
Cyf 2. Crynodiad Cyfeirio Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd UDA ar gyfer Hydrogen Sylffid – U.S. Environmental Protection Agency Reference Concentration for Hydrogen Sulphide.
Cyf 3. EH40/2005 Terfynau cysylltiad yn y gweithle (Pedwerydd Argraffiad, 2020) – Workplace exposure limits (Fourth Edition 2020)
Diolchiadau
Diolch yn fawr i Gyngor Sir Penfro am hwyluso mynediad i Ysgol Spittal.