Adroddiad Ansawdd Aer 6
Monitro hydrogen sylffid yn ddisymwth
4.1 Monitro gan ddefnyddio dadansoddwr Jerome
Mae’r dadansoddwr hydrogen sylffid Jerome® J605 wedi’i ddefnyddio ers 14 Mawrth 2024. Mae’r offeryn llaw yn cynnwys synhwyrydd â ffilm aur sy’n sensitif i hydrogen sylffid. I gymryd sampl, mae pwmp mewnol yn tynnu aer amgylchynol dros y synhwyrydd â ffilm aur. Mae’r synhwyrydd yn amsugno’r hydrogen sylffid sy’n bresennol yn y sampl ac yn gweld cynnydd mewn gwrthiant trydanol sy’n gymesur â’r màs hydrogen sylffid. Mae hyn yn caniatáu i’r offeryn gyfrifo ac arddangos y crynodiad mesuredig o hydrogen sylffid. Mae mesuriadau o dan 3ppb yn cael eu hadrodd fel sero ac ar 5ppb mae gan yr offeryn gywirdeb o ±1ppb a manwl gywirdeb o 10%. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod gwerth arddangos o 0ppb yn <3ppb ac mae gwerth adroddedig o 5ppb yn cyfateb i grynodiad gwirioneddol o ryw 4ppb i 6ppb. Mae’r dystysgrif graddnodi ar gyfer y Jerome a ddefnyddiwyd wedi’i chynnwys yn Atodiad 3.
Gan ddefnyddio’r offeryn Jerome, casglwyd data monitro gan ddefnyddio sawl dull gwahanol fel a ganlyn:
- Cofnodi hydrogen sylffid yn yr awyr am 30 munud bob pum munud. Yn y modd hwn mae’r offeryn yn cymryd mesuriad yn awtomatig bob pum munud.
- Cofnodi hydrogen sylffid yn yr awyr am 30 munud bob un munud o 17 Mehefin 2024. Yn y modd hwn mae’r offeryn yn cymryd mesuriad yn awtomatig bob un munud.
- 24 awr (neu ragor) o gofnodi hydrogen sylffid yn yr awyr bob un munud, pum munud a 15 munud.
- Lefelau ar hap – lle mae mesuriadau wedi’u gwneud mewn amser real mewn gwahanol leoliadau.
Cyflwynir y data hyn yn yr adroddiad hwn fel rhannau fesul biliwn (ppb).
Ar gyfer pob dull, mae’r un protocol wedi’i ddilyn gyda’r offeryn yn mynd trwy broses ‘adfywio’ 45 munud ar ddechrau a diwedd pob dydd, yn unol â dirlawnder y synhwyrydd. Ar ddechrau pob cyfnod monitro, mae trefn ‘gynhesu’ pum munud gyda hidlydd aer sero hefyd yn cael ei chynnal.
4.2 Monitro yn y gymuned
Mae atodiadau 4 a 5 yn cynnwys canlyniadau cofnodi 30 munud a wnaed o amgylch safle tirlenwi Withyhedge. Mae hyn yn cynnwys y safleoedd y cyfeirir atynt fel D1 i D12 a hefyd safleoedd eraill a nodir. Cynhwysir hefyd sylwadau sy’n ymwneud ag arsylwi aroglau ar adeg y monitro, gan gynnwys cyflymder y gwynt, cyfeiriad y gwynt, math/ffynhonnell arogl a dwyster canfyddedig.
Mae'r data'n datgelu ychydig iawn o achosion o lefelau canfyddadwy o hydrogen sylffid neu aroglau y canfyddir eu bod yn gysylltiedig â'r safle tirlenwi yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yn ogystal â’r mesuriadau 30 munud, mae hap-fesuriadau hefyd wedi’u cymryd a chyflwynir y data hyn yn Atodiad 6. Yn ystod y cyfnod monitro diweddaraf, cymerwyd mesuriadau ar hap mewn lleoliadau lle yr oedd gweithredwr y safle tirlenwi wedi cael cwynion. Cymerwyd mesuriadau hefyd mewn safleoedd eraill oddi ar y safle o amgylch y safle tirlenwi. Ym mhob un o’r safleoedd hyn, nododd y Jerome sero (<3ppb) ac eithrio am 11:58 a 12:20 ar 2 Medi pan gofnodwyd darlleniadau o 3.73 a 4.15 ppb yn ystod cyfnod samplu 35 munud yn agos at safle lle roedd y gweithredwr wedi cael cwyn am aroglau tirlenwi. Roedd arsylwadau ar y pryd yn nodi awel ysgafn o 0.4ms-1 yn chwythu tuag at safle tirlenwi Withyhedge (260 gradd). Yn ogystal, roedd arogl tail ceffyl amlwg.
4.2.1 Ysgol Spittal
Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Penfro wedi gosod offeryn monitro ansawdd aer safle sefydlog ar dir Ysgol Spittal, fel y dangosir yn llun 4-1.
Llun 4‑1 Monitor yn Ysgol Spittal
Gyda chaniatâd y cyngor, gosodwyd tiwb tryledu hydrogen sylffid yn union gerllaw’r offeryn ar 11 Gorffennaf 2024. Mae’r tiwb i’w weld ychydig i’r chwith o’r twndis coch sydd wedi’i wrthdroi yn llun 4-1, wedi’i glymu at y ffens sydd y tu ôl i’r uned fonitro. Fel y dangosir yn nhabl 3-2, methodd dadansoddiad o'r tiwb (SCH1) â chanfod hydrogen sylffid uwchlaw 0.06 ppb (adroddwyd <0.06 ppb).
O 13:25 ar 9 Awst i 08:30 ar 10 Awst, gosodwyd yr offeryn Jerome i gofnodi'n awtomatig bob 5 munud yn yr un safle â'r uned sefydlog. Ailadroddwyd hyn hefyd ar 13 Awst rhwng 13:49 a 14:22 ar 13 Awst bob un munud. Yn ystod y ddau gyfnod adroddwyd pob gwerth fel sero (<3 ppb).
Nododd monitro dro ar ôl tro o 17:33 ar 16 Awst i 17:31 ar 17 Awst bob un munud hefyd werth sero (<3 ppb) ac eithrio cyfnod byr rhwng 07:01 a 07:03 ar 17 Awst 2024 pan cafwyd tri chofnodo ddarlleniadau yn olynol o 3.29, 4.03 a 3.42 ppb, h.y. ychydig yn uwch na lefel canfod yr offeryn.
Bydd yr holl ddata hwn yn cael ei drafod mewn adroddiad yn y dyfodol os yw'r data o'r uned fonitro ar gael i'w cymharu.
4.3 Monitro yn safle tirlenwi Withyhedge
Ochr yn ochr â mesur hydrogen sylffid yn yr ardaloedd cymunedol, mae’r offeryn Jerome hefyd wedi’i ddefnyddio i gymryd hap-fesuriadau mewn mannau o amgylch y safle tirlenwi. Cyflwynir y data hyn hefyd yn Atodiad 6.
Drwy gydol y cyfnod monitro diweddaraf yn ystod mis Awst a dechrau mis Medi, disgynnodd lefelau hydrogen sylffid yn is na therfyn canfod yr offeryn (3ppb). Roedd dau achos nodedig lle nad oedd hyn yn wir ac roedd arogl tirlenwi i’w ganfod ar 16 Awst a 2 Medi, yn union gerllaw Cell 8. Er mwyn asesu'r crynodiadau a oedd yn bresennol ar y pryd, gosodwyd y Jerome i gofnodi bob un munud. Canfu canlyniadau'r monitro hwn lefelau hyd at 45 ppb, fel y dangosir yn siartiau 4-1 a 4-2.
Siart 4‑1 Canlyniadau wedi'u cofnodi ar safle P10 ar 16 Awst
Siart 4‑2 Canlyniadau wedi'u cofnodi ar safle P10 ar 2 Medi
4.4 Adolygiad o’r data
Gan fod y data o’r monitor Jerome yn cael eu casglu dros gyfnodau byr, ystyrir ei bod yn briodol, ar y cam hwn, i werthuso’r data yn erbyn meini prawf a fwriadwyd i alluogi asesu cysylltiad o’r fath yn y tymor byr, yn hytrach na’r meini prawf cysylltiad yn y tymor hwy a grynhoir yn nhabl 3-5. Weithiau cyfeirir at feini prawf tymor byr o’r fath fel meini prawf acíwt. Yn absenoldeb meini prawf penodol yn y DU, cyflwynir enghraifft o feini prawf o’r fath yn nhabl 4-1 a ddatblygwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Tabl 4‑1 Canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd
Canllaw ansawdd aer
|
Hydrogen sylffid -gwerth canllaw/ppb |
Nodyn: |
30 munud (cyfartaledd) |
5 |
Gwerth arogl tymor byr sy’n amddiffyn rhag lefelau tarfu y mae aroglau yn eu hachosi. Datblygwyd y canllaw gan banel o arbenigwyr yn dilyn adolygu’r wybodaeth sydd ar gael ac ystyried y trothwy aroglau ar gyfer hydrogen sylffid yr adroddwyd ei fod rhwng 0.5ppb a 130ppb ar sail astudiaethau arbrofol ar y pryd. |
24 awr (cyfartaledd) |
107 |
Deilliodd y gwerth hwn o astudiaethau o lid llygaid mewn pobl. |
Mae'r gwaith monitro yn y gymuned hyd yn hyn yn dangos bod sawl math gwahanol o arogleuon yn bresennol gan gynnwys aroglau yr amheuir eu bod yn dod o'r safle tirlenwi ac arogleuon yr amheuir eu bod yn gysylltiedig ag amrywiaeth o weithgareddau amaethyddol a cheffylau.
Mae llawer o’r darlleniadau o hydrogen sylffid a adroddwyd gan y dadansoddwr Jerome wedi bod yn agos at y terfyn canfod, neu’n is na hynny, yn ystod y cyfnod monitro diweddaraf. Yn ystod y gwaith monitro a wnaed rhwng 5 Awst a 4 Medi 2024 yn y gymuned, gan gynnwys monitro dros nos yn Ysgol Spittal a 99 o wiriadau ar hap yn yr ardal leol, cofnodwyd dros 2500 o fesuriadau o hydrogen sylffid gan y dadansoddwr Jerome. O’r gwerthoedd hyn, roedd pob un yn sero (<3ppb) ac eithrio wyth:
- 16 Awst - un mesuriad yn lleoliad D9 ac un yn D12 o rhwng 3 a 5 ppb yn ystod samplu bob un munud am gyfnod o 30 munud. Nid oedd arogl i'w ganfod.
- 17 Awst - cofnodwyd tri mesuriad rhwng 3 a 5 ppb yn ystod monitro awtomataidd yn Ysgol Spittal.
- 26 Awst - cofnodwyd un mesuriad o 5.83ppb yn D3 ac yna mesuriad o dan 5ppb un funud yn ddiweddarach. Roedd pob darlleniad un munud arall yn y lleoliad hwnnw yn sero (<3ppb) a'r cyfartaledd 30 munud yn llai na 5ppb. Roedd arogl y canfyddir ei fod yn gysylltiedig â slyri hefyd i'w ganfod ar adeg y monitro.
- 2 Medi - dau fesuriad o dan 4.15ppb yn ystod gwiriadau ar hap. Roedd arogl nodweddiadol o dail ceffyl i'w ganfod.
Mae lefelau llawer is o hydrogen sylffid hefyd wedi'u canfod ar y safle tirlenwi yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda'r mwyafrif o'r gwerthoedd wedi'u nodi fel sero (<3ppb) a'r uchafswm <45ppb.
Mae'n amlwg o'r defnydd mynych o'r Jerome a chofnodi arsylwadau aroglau ers mis Mawrth 2024 ar wahanol adegau o'r dydd dros sawl diwrnod ac wythnos yn olynnol nad yw arogleuon na hydrogen sylffid i’w canfod yn barhaus dros gyfnodau amser o'r fath. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mewn llawer o safleoedd monitro ar wahanol achlysuron, nid oedd y Jerome yn gallu canfod hydrogen sylffid uwchlaw lefel canfod yn y gymuned.
Dangosir yr holl ddata Jerome a gasglwyd hyd yma gyda'i gilydd yn siartiau 4-3 i 4-14. Yn y siartiau cyfres amser hyn cyflwynir yr holl ddata a gasglwyd yn D1 i D12 sy'n cynnwys y crynodiad uwch (117ppb) a adroddwyd yn D2 ar 21 Mawrth a'r gwerthoedd uwch a ddarganfuwyd yn D11 ar 19 Mehefin. Ystyriwyd bod y gwerthoedd olaf hyn yn gysylltiedig â nwyon cerbydau. Wrth ystyried y plot cyfres amser unigol ar gyfer pob safle, mae'n amlwg bod y Jerome wedi canfod crynodiadau uwch yn gynharach yn y flwyddyn, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf ychydig iawn o lefelau canfyddadwy o hydrogen sylffid a ddarganfuwyd. Ar yr un pryd, mae nifer y lefelau canfyddadwy o arogleuon yr ystyrir eu bod yn gysylltiedig â nwy tirlenwi wedi gostwng. Adlewyrchir y patrwm hwn hefyd yng nghyfanswm nifer y cwynion a gafwyd gan y gweithredwr, fel y nodir yn siart 4-15
Siart 4‑3 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D1 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑4 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D2 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑5 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D3 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑6 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D4 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑7 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D5 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑8 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D6 Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑9 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D7 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑10 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D8 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑11 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D9 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑12 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D10 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑13 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D11 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑14 Holl ddata Jerome a gasglwyd yn D12 ym mis Mawrth a Medi 2024
Siart 4‑15 Cyfanswm nifer y cwynion a gafwyd gan y gweithredwr
Dylai'r darllenydd nodi bod y cofnod o gwynion yn cael ei gasglu o ddata crai a gall gynnwys cwynion sy'n ymwneud â materion eraill ac nid amlder arogleuon yn unig. Mae’n bosibl bod cwynion eraill hefyd wedi’u gwneud i bartïon eraill fel y cyngor neu Cyfoeth Naturiol Cymru.