Adroddiad Ansawdd Aer 6

Monitro tiwbiau tryledu

3.1 Monitro hydrogen sylffid

Mae tiwbiau tryledu sy’n monitro hydrogen sylffid wedi’u gosod mewn 12 lleoliad oddi ar y safle i wahanol gyfeiriadau cwmpawd o amgylch safle tirlenwi Withyhedge, gyda thiwbiau ychwanegol ar y safle, fel y dangosir yn ffigurau 3-1 a 3-2. 

Mae’r tiwbiau wedi’u lleoli i ganiatáu aer i symud yn rhydd, diogelwch yn ystod y gwaith cynnal a chadw, ac i ystyried difrod, lladrad neu fandaliaeth bosibl.  Mae addasrwydd y sefyllfaoedd monitro yn cael ei adolygu wrth i'r rhaglen ddatblygu, felly, ar 4 Mehefin 2024, ychwanegwyd dau safle monitro ychwanegol at y rhwydwaith, sef D11 ym Mhrendergast a D12 yng Nghrundale. 

 

Fel yr amlygwyd yn adroddiad cryno 5, ar 11 Gorffennaf 2024 gosodwyd tiwb ychwanegol (y cyfeirir ato fel SCH1) wrth ymyl yr orsaf fonitro barhaol a osodwyd gan Gyngor Sir Penfro yn Ysgol Spittal. 

I gynorthwyo gyda rhoi canlyniadau D1 i D12 yn eu cyd-destun ehangach, gosodwyd tiwbiau tryledu hefyd mewn pedwar safle oddi ar y safle yn ystod y cyfnod monitro diweddaraf.  Y safleoedd hyn oedd:

  • Doc Penfro, rhwng archfarchnad Aldi a’r eglwys gyfagos (tiwb D13),
  • Tyddewi, yn agos at yr ysgol gynradd (tiwb D14)
  • Heol Saron, Rhydaman, ~100m i'r gorllewin o'r ysgol gynradd (tiwb D15)
  • Ffordd Coed Darcy, Llandarcy oddi ar gyffordd 43 yr M4 (tiwb D16)

 

Crynhoir manylion pob safle yn nhabl 3-1.

Yn ogystal â'r gwaith monitro oddi ar y safle, mae tiwbiau tryledu hefyd wedi'u gosod ar y safle yn safle tirlenwi Withyhedge. Crynhoir y safleoedd hyn yn nhabl 3-2 ac fe'u dangosir yn ffigur 3-2.

 

Tabl 3‑1  Safleoedd monitro oddi ar y safle

Lleoliadau monitro cymunedol
Ffigur 3-1 a 3-2 cyfeirnod
Disgrifiad o’r lleoliad
Safle
Uchder uwchlaw’r ddaear (metrau)

D1

Croesffordd Spittal Cross i’r gorllewin o Spittal

Celfi stryd ar y groesffordd

0.6 (safleoedd hen a newydd)

D2

Gerllaw Ysgol Spittal

Polyn lamp

2.1

D3

Cornel Spring Gardens a Castle Rise, Spittal. Gerllaw fferm

Polyn lamp

2.1

D4

Croesffordd y B4329 a Spring Gardens i’r dwyrain o Spittal

Celfi stryd

2

D5

Ffordd y B4329 rhwng Scolton a Bethlehem

Celfi stryd

2.2

D6

Ffordd y B4329 ym Methlehem

Polyn lamp

2.2

D7

Ar y ffordd tuag at y gorllewin o Poyston Cross

Polyn lamp

2.2

D8

Gerllaw eiddo yn Poyston Water

Polyn lamp

2.1

D9

Pont Rudbaxton Water

Ochr ogleddol y bont

1.2

D10

Gerllaw’r gyffordd â’r A40 ger tafarn Corner Piece

Polyn lamp

1.9

D11

Ffordd Llwynhelyg, Prendergast

Arwyddbost

1.8

D12

Ffordd y B4329 Crundale ger y gyffordd â Cross Lane

Arwyddbost

1.8

D13

Doc Penfro, rhwng Aldi a'r eglwys

Arwyddbost

1.8

D14

Tyddewi, gerllaw ysgol gynradd

Arwyddbost

1.8

D15

Saron, Rhydaman

Arwyddbost

1.8

D16

Llandarcy

Polyn lamp

1.8

SCH1

Gerllaw monitor y cyngor yn Ysgol Spittal

Ar y ffens wrth ymyl monitor mewnlif aer y cyngor

1.8


 

Tabl 3‑2  Safleoedd monitro

Lleoliadau monitro ar y safle
Ffigur 3-1 a 3-2 cyfeirnod
Disgrifiad o’r lleoliad
Safle
Uchder uwchlaw’r ddaear (metrau)

Ramp mynediad (WL1)

Ochr ddwyreiniol y ramp mynediad

Polyn metel

2.1

Pyst ffens dwyreiniol (WL2)

Postyn ffens yn agos at ymyl y capio parhaol

Postyn ffens

1.1

Sgitiau sbwriel (WL3)

Polyn metel yn agos at ymyl y capio parhaol

Polyn metel

2.2

Postyn ffens orllewinol (WL4)

Postyn ffens i’r gorllewin o’r capio dros dro

Postyn ffens

0.9

Tŵr teledu cylch cyfyng (WL5)

Polyn metel i’r de o gell weithredol 8

Polyn metel

2.2

 Cell IBC 8 (WL6)

Polyn metel i’r gorllewin o gell weithredol 8

Polyn metel

1.65

Cell 7 cornel IBC (WL7)

Polyn metel i’r de o gell 7

Polyn metel

1.9

 



Ffigur 3‑1  Safleoedd monitro cymunedol D1 i D12 a SCH

 Ffigur 3-2  Safleoedd monitro ar y safle



Ffigur 3‑2  Safleoedd monitro ar y safle

 

3.1.1 Adolygiad o ganlyniadau hydrogen sylffid

Mae canlyniadau monitro tiwbiau tryledu hydrogen sylffid yn cael eu crynhoi yn nhablau 3-3 a 3-4.  Mae’r tystysgrifau labordy gwreiddiol o’r gwaith monitro diweddaraf wedi’u cynnwys yn Atodiad 1.  Defnyddir y term ‘cyfnod cyswllt’ i ddiffinio’r cyfnod samplu pan oedd aer yn gallu tryledu i’r tiwbiau cyn i’r tiwbiau gael eu tynnu i lawr, eu selio a’u dychwelyd i’r labordy i’w dadansoddi.  Mae dadansoddiad wedi’i wneud yn Gradko International, sy’n un o labordai profi achrededig Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (Rhif 2187).

Yn ystod y cyfnod cyswllt cyntaf, roedd gwastraff yn cael ei symud o gopa’r safle, roedd ffynhonnau nwy yn cael eu drilio i mewn i’r màs gwastraff, ac roedd gwaith capio dros dro ar yr ystlys sy’n wynebu’r gorllewin yn mynd rhagddo.  Yn ystod yr ail a’r trydydd cyfnod cyswllt roedd gwaith capio yn parhau a gwaith echdynnu nwy yn ymestyn i ardaloedd newydd eu capio.  Yn y cyfnodau dilynol, roedd gwaith capio wedi'i gwblhau ac yn cael ei gynnal a'i gadw’n weithredol.  

 

Tabl 3‑3  Canlyniadau hydrogen sylffid (H2S) o safleoedd monitro yn y gymuned

Disgrifiad
Cyfnod cyswllt: 5 Chwefror - 1 Mawrth
Cyfnod cyswllt: 1 Mawrth - 3 Ebrill
Cyfnod cyswllt: 3 Ebrill - 7 Mai
Cyfnod cyswllt: 7 Mai - 4 Mehefin
Cyfnod cyswllt: 4 Mehefin - 9 Gorff
Cyfnod cyswllt: 12 Gorff - 13 Awst (1)

Nwy

Hydrogen Sulphide (H2S)

 Hydrogen Sulphide (H2S)

 Hydrogen Sulphide (H2S)

 Hydrogen Sulphide (H2S)

 Hydrogen Sulphide (H2S)

 Hydrogen Sulphide (H2S)

Lleoliad

 ppb

ppb 

 ppb

 ppb

 ppb

 ppb

Labordy – Gwag

 0.05

0.04 

 0.05

 0.06

 0.04

 0.03

 

 

Safleoedd monitro cymunedol
 Cyfnod cyswllt: 5 Chwefror - 1 Mawrth
 Cyfnod cyswllt: 1 Mawrth - 3 Ebrill
 Cyfnod cyswllt: 3 Ebrill - 7 Mai
 Cyfnod cyswllt: 7 Mai - 4 Mehefin
 Cyfnod cyswllt: 4 Mehefin - 9 Gorff
 Cyfnod cyswllt: 12 Gorff - 13 Awst (1)

Cyffordd i’r gorllewin o Spittal  - D1

<0.08

Wedi’u tynnu i ffwrdd

0.12

<0.07

<0.06

<0.06

Ysgol Spittal  - D2

<0.08

<0.06

0.14

<0.07

<0.06

<0.06

Spittal - D3

<0.08

<0.06

0.07

<0.07

0.06

<0.06

Scolton Uchaf - D4

<0.08

<0.06

0.14

<0.07

0.06

<0.06

Heol Scolton - D5

<0.08

<0.06

<0.06

<0.07

<0.06

<0.06

Bethlehem - D6

<0.08

<0.06

<0.06

<0.07

<0.06

<0.06

Poyston Cross - D7

<0.08

<0.06

<0.06

<0.07

<0.06

<0.06

Poyston Water - D8

<0.08

<0.06

0.06

0.09

0.28

<0.06

Rudbaxton - D9

0.1

0.07

0.07

0.1

<0.06

<0.06

Cyffordd yr A40 - D10

<0.08

0.07

Wedi’u tynnu i ffwrdd

<0.07

<0.06

<0.06

Heol Llwynhelyg - D11

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

<0.06

0.16

Crundale - D12

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

<0.06

<0.06

Ysgol Spittal – SCH1

 Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

<0.06

 

 

Safleoedd eraill oddi ar y safle
Cyfnod cyswllt: 5 Chwefror - 1 Mawrth
Cyfnod cyswllt: 1 Mawrth - 3 Ebrill
Cyfnod cyswllt: 3 Ebrill - 7 Mai
Cyfnod cyswllt: 7 Mai - 4 Mehefin
Cyfnod cyswllt: 4 Mehefin - 9 Gorff
Cyfnod cyswllt: 12 Gorff - 13 Awst (1)

 Doc Penfro - D13

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

<0.06

Tyddewi - D14

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

<0.08

Saron, Rhydaman - D15

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

<0.06

Llandarcy - D16

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

Dim Data

<0.06

 

 

 Noder:

(1) Datguddiad ar gyfer pob tiwb oedd: yn D1 i D12 12 Gorffennaf – 13 Awst, SCH1 11 Gorffennaf – 13 Awst, D13 a D14 17 Gorffennaf – 13 Awst, D15 11 Gorffennaf – 14 Awst, D16 12 Gorffennaf – 14 Awst. 

 

Tabl 3-4 Canlyniadau monitro hydrogen sylffid (H2S) ar y safle

 

 Disgrifiad
Cyfnod cyswllt: 8 Chwefror-1 Mawrth
Cyfnod cyswllt: 1 Mawrth-3 Ebrill
Cyfnod cyswllt: 3 Ebrill-7 Mai
Cyfnod cyswllt: 7 Mai-4 Mehefin
Cyfnod cyswllt: 4 Mehefin–9 Gorffennaf
Cyfnod cyswllt: 1 Gorffennaf–14 Awst

Nwy

hydrogen sylffid (H2S)

hydrogen sylffid (H2S)

hydrogen sylffid (H2S)

hydrogen sylffid (H2S)

hydrogen sylffid (H2S)

hydrogen sylffid (H2S)

Lleoliad

ppb

ppb

ppb

ppb

ppb

ppb

Labordy - gwag

0.05

0.04

dim data

dim data

dim data

dim data

Ramp mynediad (WL1)

1.48

collwyd

dim data

dim data

dim data

dim data

Pyst ffens  (WL2)

1.82

dim data

dim data

0.27

0.1

<0.06

Litter skids (WL3)

2.04

dim data

dim data

dim data

dim data 

dim data

Sgitiau sbwriel  (WL4)

0.29

1.38

0.31

0.12

<0.06

<0.06

Postyn ffens cae  (WL5)

0.6

4.4

9.24

2.16

1.11

0.09

Cell IBC 8 (WL6)

1.04

dim data

dim data 

dim data

dim data

dim data

Cell 7 cornel IBC  (WL7)

1.8

6.54

3.97

dim data

dim data

dim data

 

Mae cymhariaeth o'r crynodiadau a ganfuwyd gan ddefnyddio tiwbiau tryledu yn y gymuned â'r meini prawf gwerthuso ar sail iechyd yn nhabl 3-5 yn dangos bod y crynodiadau'n parhau i fod yn is na'r gwerthoedd canllaw hyn ar gyfer cysylltiad canolradd/oes.

Mae'r crynodiadau a gafwyd yn y gymuned o amgylch y safle tirlenwi hefyd yr un fath â'r rhai a ganfuwyd yn y 4 safle arall yn Ne Cymru (D13 i D16).

 

Tabl 3‑5  Gwerthoedd canllaw sy’n seiliedig ar iechyd y cyfeirir atynt

(Gwerthoedd a gymerwyd o gyfeiriadau 1 a 2)

 

 Nwy
Meini prawf cysylltiad canolradd
(hyd at un flwyddyn)
Meini prawf cysylltiad oes

Crynodiad hydrogen sylffid

20 ppb (30 µg/m3)

1 ppb (2 μg/m3)

 

 

Mae crynodiadau hydrogen sylffid a adroddwyd o'r tiwbiau a ddatgelwyd ar y safle wedi parhau i ostwng, gyda'r canlyniadau diweddaraf yn debyg i'r rhai a gofnodwyd yn y safleoedd monitro oddi ar y safle. 

Mae’r crynodiadau hyn ar y safle sawl trefn maint yn is na therfyn cysylltiad y gweithle o 5,000 ppb am gyfnod cyfeirio wyth awr cyfartalog wedi’i i bwysoli (Cyf 3). Mae hyn yn awgrymu nad yw’r lefelau amgylchynol ar y safle yn peri risg hirdymor i weithwyr safle ac yn helpu i roi’r lefelau crynodiad a ganfuwyd yn eu cyd-destun.

ID: 12453, adolygwyd 02/01/2025