Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Stat1/22

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22

Cyflwyniad

Fel y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Cyngor Sir Penfro mae’n bleser gen i allu adrodd ar y modd yr ydym wedi cyflawni gwelliannau ar gyfer llesiant pobl sydd wedi cael mynediad at ein gwasanaethau yn ystod 2021/22

Fel rhan o rôl fy swydd mae’n ofynnol i mi adrodd ar ba mor dda y mae ein hadran Gwasanaethau Cymdeithasol yn perfformio. Yn yr adroddiad hwn rwy’n dangos y gwelliannau a’r heriau sylweddol y gwnaethom eu hwynebu yn ystod 2021/22. Rwyf hefyd yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn gyfredol, 2022/23.

Ein Heriau

Rydym wedi parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol. Yn 2021/22 roedd angen i ni gyflawni yn erbyn rhaglen lleihau costau o £1.088m yn y Gwasanaethau Oedolion a £0.37m yn y Gwasanaethau Plant. Mae ein gwaith atal a rheoli’r galw ochr yn ochr â llawer o fentrau eraill yn dal i’n cynorthwyo i weithio mor effeithlon â phosibl wrth i ni barhau i ymdrechu i wella deilliannau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau.

Fe wnaethom barhau i wynebu heriau o ran y gweithlu mewn perthynas â recriwtio staff gofal a chymorth rheng-flaen a gweithwyr cymdeithasol profiadol.

Erbyn diwedd y flwyddyn yn anffodus roedd gennym nifer o swyddi gwag ym maes gwaith cymdeithasol a phobl yn aros am wasanaeth gofal cartref. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar faterion y gweithlu trwy roi Cynllun Datblygu’r Gweithlu ar waith. Nod y cynllun yw sicrhau bod gennym weithlu sy’n effeithiol, yn meddu ar sgiliau priodol ac yn gydnerth sy’n gallu dygymod â’r heriau allweddol sydd o’n blaenau. Rydym hefyd yn cadw ffocws parhaus ar ‘dyfu ein talent ein hunain’ o ran Gweithwyr Cymdeithasol trwy noddi eu llwybr i gymhwyso.

Rydym wedi canfod bod y galw am wasanaethau’n tyfu ac yn dod yn fwy cymhleth. Mae nifer y cysylltiadau yr ydym wedi’u cael a’u cofnodi mewn perthynas â defnyddwyr gwasanaethau newydd ar gyfer Gofal i Oedolion wedi cynyddu’n sylweddol o 3,325 yn 2020/21 i 5,216 yn 2021/22. Mae cynnydd sylweddol wedi dod oddi wrth yr Heddlu a anfonodd 1,010 o gysylltiadau yn 2021/22 a 115 yn 2020/21. Bu cynnydd sylweddol hefyd mewn cysylltiadau oddi wrth y gwasanaethau Iechyd trwy ein tîm gofal canolradd. Mae cysylltiadau oddi wrth wasanaethau iechyd wedi cynyddu o 530 i 1,145. O ran y Gwasanaethau Plant, cawsom 4,690 o gysylltiadau sy’n sylweddol uwch na’r flwyddyn flaenorol pan gawsom 3,012. Fel gyda’r gwasanaethau oedolion bu effaith sylweddol o ran nifer y cysylltiadau oddi wrth yr Heddlu wrth iddynt rannu mwy o wybodaeth a chudd-wybodaeth gyda ni.

Ein Ffyrdd o Weithio

Ynghyd â gweddill y Cyngor rydym yn gweithio yn ôl egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cyfeirir at y rhain fel y pum ffordd o weithio sy’n ein galluogi i sicrhau ein bod mewn sefyllfa i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ac i gynorthwyo pobl i helpu eu hunain. Mae defnyddio’r egwyddorion yn sicrhau ein bod yn meddwl am yr ‘Hirdymor’ wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol, ein bod yn canolbwyntio ar ‘Atal’ ac yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael ei ‘Hintegreiddio’ yn llawn â chymunedau ac asiantaethau eraill. Rydyn yn ‘Cydweithio’ gyda defnyddwyr ein gwasanaethau a’n partneriaid ac yn eu cynnwys wrth ddatblygu gwasanaethau. Rwy’n trafod drwy’r adroddiad hwn sut yr ydym wedi bod yn rhoi gweithgareddau atal ar waith trwy barhau i ddatblygu cymunedau dyfeisgar a chydnerth a grymuso pobl i gynnal eu hannibyniaeth.

Rydym yn cydweithio mewn partneriaeth glos gyda’r rhannau eraill o’r Cyngor ac asiantaethau eraill i ddarparu ystod o wasanaethau ar gyfer pobl y mae arnynt angen ein help a’n cefnogaeth. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos gydag awdurdodau cyfagos yn rhanbarth Gorllewin Cymru, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid yn y Trydydd Sector. Gyda’n partneriaid rydym wedi datblygu cynllun ardal ranbarthol sy’n nodi bwriadau strategol Partneriaeth Ranbarthol (BPRh) Gorllewin Cymru. 

Mae a wnelo ein model darparu gwasanaethau ag adeiladu ar gryfderau ein pobl ac fe gyfeirir ato fel y dull Arwyddion Diogelwch (‘Signs of Safety’). Rydym wedi bod yn rhoi’r dull Arwyddion Diogelwch, a ddatblygir yn draddodiadol o fewn y Gwasanaethau Plant, ar waith ar draws y Gyfarwyddiaeth. Rydym wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r dull yn y Gwasanaethau Plant a byddwn yn parhau i’w roi ar waith yn y gwasanaethau oedolion i sicrhau ei fod yn parhau i wella ymarfer a deilliannau i ddefnyddwyr ein gwasanaethau.

Ein Hamcanion

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’n timau, asiantaethau eraill a gwasanaethau eraill yn y Cyngor megis Iechyd, yr Heddlu, Hamdden, Tai ac Addysg i sicrhau bod amcanion llesiant y Cyngor yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus. Ar gyfer 2020/21 mae’r rhain fel a ganlyn:

  • Addysg: Sir Benfro yn lle gwych i ddysgu, byw a thyfu.
  • Gofal Cymdeithasol: Byddwn yn gwneud beth bynnag a allwn i gefnogi pobl i fyw’r bywyd gorau y gallant tra’n canolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn ddiogel.
  • Economaidd: Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo Sir Benfro fel lle gwych i ymweld, byw a gweithio.
  • Tai: Gwneud cartrefi fforddiadwy, gweddus ac addasadwy yn bosibl i bawb mewn lleoliadau cynaliadwy.
  • Byddwn yn hyrwyddo balchder yn Sir Benfro gan geisio gwella ei henw da fel lle am ansawdd amgylcheddol eithriadol
  • Trawsnewid: Technoleg; Diwylliant a Pherthynas.


Yn ystod 2018/19 fe gyhoeddodd Aelodau ein Cyngor eu Rhaglen Weinyddu, sy’n ddatganiad gwleidyddol gan Gabinet y Cyngor ar ei flaenoriaethau hyd at 2022. Mae’n dda gennym ddweud ein bod wedi llwyddo yn ystod y weinyddiaeth 5 mlynedd i gyflawni nifer o’r amcanion gan gynnwys datblygu dull atal a dod â mwy o wasanaethau dan reolaeth uniongyrchol yr awdurdod lleol. Mae gweinyddiaeth newydd i fod i gychwyn ym mis Mai 2022 a bydd rhaglen newydd yn cael ei datblygu. Bydd y Rhaglen Weinyddu’n cael ei hadolygu a’i diweddaru yn ystod 2022/23. Bydd yr amcanion llesiant yn aros yn ddigyfnewid nes bod y Rhaglen Weinyddu wedi cael ei datblygu.

Caiff Gofal Cymdeithasol ei danategu gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf). Mae’r Ddeddf yn darparu chwe Safon Ansawdd ar ein cyfer. 

Y Safonau Ansawdd yw:

  • Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau llesiant personol y mae pobl yn dymuno’u cyflawni.
  • Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hybu iechyd corfforol ac iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl.
  • Amddiffyn a diogelu pobl rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu rhag niwed.
  • Annog a chynorthwyo pobl i ddysgu, datblygu a chyfranogi mewn cymdeithas.
  • Cynorthwyo pobl i ddatblygu’n ddiogel ac i gynnal perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol iach.
  • Gweithio gyda phobl a’u cynorthwyo i gyflawni mwy o lesiant economaidd, bod â bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion.

Rydym wedi rhoi ystod o brosiectau ar waith i roi cymorth i gyrraedd y safonau hyn; rwyf wedi amlygu rhai o’r meysydd gwaith hyn isod:

  • Rydym wedi parhau i ddatblygu a thyfu’r tîm gofal cartref mewnol. O ganlyniad rydym bellach yn darparu tuag 20% o ofal cartref a ddarperir yn uniongyrchol. Rydym wedi rhedeg ymgyrchoedd recriwtio ac wedi dylunio hysbysebion teledu i ddenu pobl i’r sector gofal. 
  • Rydym wedi rhoi fframwaith cymhwysedd ar waith i gefnogi a gwobrwyo datblygiad gyrfa ymhlith gweithwyr cymdeithasol ac uwch weithwyr cymdeithasol. Disgwylir y bydd hyn yn gwella ein carfan o weithwyr cymdeithasol profiadol.
  • Rydym wedi cadw ffocws ar recriwtio a chadw mwy o ofalwyr maeth a bod yn rhieni corfforaethol cryf. Rydym wedi gwneud gwaith pellach i ddatblygu dull 3 blynedd o leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal.
  • Rydym yn darparu mynediad rhagorol at eiriolaeth ar gyfer pobl ifanc fel rhan o gontract rhanbarthol Gorllewin Cymru gyda Tros Gynnal Plant Cymru, ac o ganlyniad mae nifer y plant sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn yn Sir Benfro wedi cynyddu ym mhob chwarter. Rydym hefyd wedi darparu cyllid i Tros Gynnal Plant redeg cynllun peilot ar gyfer eiriolaeth rhieni, gan defnyddio arian grant adferiad Covid gan Lywodraeth Cymru.
  • Rydym ymhell ar y blaen o ran datblygu ‘Siarter i Blant a Phobl Ifanc’, a luniwyd gyda chymorth nifer o grwpiau gwahanol o bobl ifanc. Bydd yn nodi gwerthoedd yr adran a sut y byddwn yn dangos y rhain trwy’r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn cyfathrebu gyda phobl ifanc. Rydym yn amcanu at ddatblygu un tebyg ar gyfer teuluoedd.
  • Rydym wedi sefydlu hyb Ymarferwyr Iechyd Meddwl cymeradwy i gyfnerthu’r adnodd arbenigol bach yma a sicrhau cydnerthedd.
  • Rydym wedi recriwtio Rheolwr i ddatblygu gwasanaeth cyfleoedd dydd a fydd yn rhoi mwy o ddewis i bobl a rhoi’r gwasanaeth hwn ar waith
  • Rydym wedi gwneud gwaith pellach i ddatblygu a chryfhau ein fframwaith ataliol a’n ffocws ar adferiad yn y gymuned sy’n flaenoriaeth gennym. Sefydlwyd yr ‘hyb cymunedol’ mewn ymateb i’r achos o Covid mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, gwasanaethau iechyd a’r Awdurdod Lleol a fu’n cefnogi dros 100 o grwpiau cymunedol. Mae Rhwydwaith Cymorth Cymunedol Sir Benfro yn cael ei gefnogi gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro. Mae’r Hyb Cymunedol yn darparu un pwynt mynediad sy’n ymateb i ymholiadau ac anghenion llesiant yn y gymuned. Yn ystod 2021/22 fe wnaed gwaith sylweddol i ystyried model a chynaliadwyedd yr hyb yn y dyfodol. Bydd y lansiad ffurfiol ym mis Mehefin 2022

Defnyddwyr Ein Gwasanaethau a’n Partneriaid

Rydym wedi ymgynghori ag ystod o ddefnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd. Bydd yr hyn y mae pobl wedi’i ddweud wrthym yn cael ei ddefnyddio i oleuo’r modd y darperir gwasanaethau yn y dyfodol. Mae Adran 3 yn disgrifio peth o’r gweithgarwch ymgysylltu ac ymgynghori a gyflawnwyd gennym yn ystod y flwyddyn.

Ein Harolygwyr

Fe gwblhaodd ein Harolygwyr rheoleiddiol, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) Arolygiad Gwerthuso Perfformiad yn ystod mis Mawrth 2022. Diben yr arolygiad oedd darparu sicrwydd ynghylch sut yr oedd pobl yn cael eu diogelu a sut yr oedd eu llesiant yn cael ei hybu. Fe wnaethant adolygu’r Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Mae crynodeb cynhwysfawr o ganfyddiadau ein Harolygwyr ar gael yn Adran 2.

Fe gwblhaodd Archwilio Cymru astudiaeth o Daliadau Uniongyrchol yng Nghymru ym mis Ebrill 2022. Mae’r astudiaeth yn cynnwys 10 argymhelliad ac rydym wedi ymdrin â’n perfformiad yn erbyn yr argymhellion hyn yn Adran 2.

Ein Cyflawniadau

Yn ystod 2021/22 fe gyrhaeddodd ein tîm comisiynu gwaith cymdeithasol y rownd derfynol yng Ngwobrau Cyflawniad MJ am eu gwaith Trawsnewid Digidol. 

Fe gyrhaeddodd ein Timau Cyflogaeth â Chymorth a Gofal Canolradd y rhestr fer yng Ngwobrau LGC hefyd. Yn ôl LGC, “dangosodd ymgeiswyr ymarfer neilltuol yn ogystal ag arloesi sydd ar flaen y gad ac fe grëwyd argraff ar y beirniaid gan y safon uchel”.

Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio o fewn yr adrannau gwasanaethau cymdeithasol a’r partneriaid sy’n ein cefnogi am yr ymrwymiad enfawr y maent wedi’i ddangos tuag at ddefnyddwyr ein gwasanaethau.

Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau a all fod gan bobl am yr adroddiad hwn er mwyn i ni allu gwella’r ffordd yr ydym yn disgrifio’r hyn yr ydym yn ei wneud i gefnogi pobl gyda’r hyn sy’n bwysig iddynt.

Jonathan Griffiths
Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol

ID: 9541, adolygwyd 16/03/2023