Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Stat1/22

Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwyr

Yn yr adran hon rwy’n darparu trosolwg o’n perfformiad yn ystod y flwyddyn. Yn ystod 2020/21 fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru god ymarfer newydd mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Fel y gwneuthum yn fy adroddiad ar gyfer 2020/21, rwyf wedi cynnwys rhai o’r mesurau newydd hyn i ddarparu peth gwybodaeth am sut y gwnaethom berfformio am yr ail flwyddyn yn olynol. Rwyf wedi darparu cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol er mwyn i ni allu adnabod pa un a yw perfformiad wedi gwella ynteu wedi dirywio. Mae adolygu data’n rheolaidd gan ein tîm ymateb tactegol yn ein galluogi i gychwyn camau lliniarol i leihau i’r eithaf yr effeithiau y mae’r galw a phrinderau o fewn y gweithlu’n eu cael ar ddefnyddwyr ein gwasanaethau. 

Rydym yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd ar ddata ar gyfer Llywodraeth Cymru er mwyn iddi allu gwneud gwaith manwl i fonitro’r galw am wasanaethau a phwysau ar y gweithlu ledled Cymru.

Perfformiad Gofal Oedolion 2021/22

Adrodd ar Berfformiad Plant 2020/21

Arolygiad Rheoleiddiol Arolygiaeth Gofal Cymru

Archwiliad Rheoleiddiol Archwilio Cymru

ID: 9543, adolygwyd 16/03/2023