Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Stat1/22
Hyrwyddo a gwella llesiant y rhai rydym yn eu helpu
Mae llesiant unigolyn yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae dyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn cefnogi llesiant y bobl hynny y mae arnynt angen gofal a chymorth. Mae'r adran hon o'r adroddiad yn dangos sut rydym wedi bod yn gweithio tuag at hybu a gwella llesiant pobl sy'n byw yn Sir Benfro.
Rydym wedi cysylltu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud â'r chwe Safon Ansawdd Genedlaethol. Ar gyfer pob safon ansawdd rydym yn adolygu sut y gwnaethom berfformio y llynedd yn erbyn ein blaenoriaethau a beth fydd ein blaenoriaethau ar gyfer 2022/23.
- SA 1: Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau llesiant personol y mae pobl am eu cyflawni.
- SA 2: Gweithio gyda phobl a phartneriaid i amddiffyn a hybu iechyd corfforol a meddyliol a llesiant emosiynol pobl.
- SA 3: Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed
- SA 4: Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas
- SA 5: Cefnogi pobl i ddatblygu'n ddiogel a chynnal cydberthnasau domestig, teuluol a phersonol iach
- SA 6: Gweithio gyda phobl au cefnogi i gyflawni mwy o lesiant economaidd, cael bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas syn diwallu eu hanghenion
ID: 9555, adolygwyd 16/03/2023