Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Stat1/22
Sut mae pobl yn siapio ein gwasanaethau?
Ar draws y gyfarwyddiaeth rydym wedi bod yn ymgysylltu â defnyddwyr ein gwasanaethau, gofalwyr a’u teuluoedd er mwyn deall yn well sut y maent wedi bod yn ymdopi yn ystod y pandemig. Er bod gwasanaethau dydd wedi cael eu hatal am ran fawr o'r flwyddyn, fe wnaeth staff y ganolfan gynnal cyswllt â defnyddwyr gwasanaethau dros y ffôn a thrwy gyfarfodydd dros y rhyngrwyd. Rhoddodd hyn gyfle i bobl fwydo gwybodaeth yn ôl ynglŷn â sut yr oeddent yn ymdopi ac i gadw mewn cysylltiad â phobl y maent yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt.
Eleni rydym wedi parhau i weithio ar wneud ein gwybodaeth yn haws i’w deall. Mae mwy o gapasiti i gynhyrchu llenyddiaeth hawdd i’w darllen yn cael ei ddarparu gan y Diwydiannau Norman.
Mae ein Grŵp Cyfathrebu Llwyr yn ymrwymedig i sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i bawb.
Yn ystod 2021 mae’r ffocws wedi bod ar gysylltu â phobl ar Zoom a llwyfannau digidol eraill.
Beth oeddem ni'n bwriadu ei wneud y llynedd?
I ba raddau gwnaethon ni lwyddo a pha wahaniaeth wnaethon ni?
Ein blaenoriaethau ymgysylltu ac ymgynghori ar gyfer 2022/23