Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg 2024-25

Diben yr Adroddiad

  • Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion am sut mae Cyngor Sir Penfro wedi gweithredu a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn ystod y cyfnod adrodd Ebrill 2024–Mawrth 2025.
  • Mae'r adroddiad yn rhoi crynodeb o'r gweithgareddau a'r cyflawniadau allweddol yn ystod 2024–25 yn unol â gofynion adrodd Comisiynydd y Gymraeg.
  • Mae'r adroddiad yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus yr awdurdod i hyrwyddo a darparu gwasanaethau Cymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar gyfer ei staff, aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Mae'r cyflawniadau yn 2024–25 yn sicrhau ein bod nid yn unig yn cydymffurfio â'r safonau ond ag uchelgais Llywodraeth Cymru i weld nifer y bobl sy'n gallu mwynhau siarad a defnyddio'r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050 (Cymraeg 2050:miliwn o siaradwyr).
  • Cafodd Safonau'r Gymraeg eu paratoi o dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (1) a Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015, a ddaeth i rym ar 31 Mawrth 2015.
  • Mae'r safonau'n egluro sut y disgwylir i'r awdurdod ddarparu gwasanaethau penodol drwy gyfrwng y Gymraeg gyda'r nod o sicrhau nad yw'r iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
  • Mae rhestr lawn o’r safonau y mae'n ofynnol i Gyngor Sir Penfro gydymffurfio â nhw wedi'i chynnwys mewn Hysbysiad Cydymffurfio, sydd ar gael ar ein gwefan.
  • Mae safonau 158, 164 a 170 yn ei gwneud yn ofynnol inni gyhoeddi adroddiad blynyddol, sy'n amlinellu sut yr ydym wedi cydymffurfio â’r canlynol:
    • Safonau cyflenwi gwasanaethau
    • Safonau llunio polisi
    • Safonau gweithredu
    • Safonau hybu
    • Safonau cadw cofnodion
  • Mae'r adroddiad yn cyflwyno dangosyddion perfformiad gofynnol o dan y safonau gan gynnwys sgiliau iaith staff, swyddi a hysbysebir sy'n gofyn am sgiliau iaith Gymraeg, cyrsiau hyfforddi i ddysgu/gwella'r Gymraeg a chwynion a gafwyd yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.
  • Mae'n ofynnol i ni gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar ein gwefan gorfforaethol erbyn 30 Mehefin.
ID: 13884, adolygwyd 07/08/2025