Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg 2024-25
Casgliad
- Mae ein hymrwymiad i ddatblygu’r Gymraeg yn y sir wedi’i adlewyrchu yn Strategaeth Gorfforaethol 2025–30, Strategaeth y Gymraeg 2021–26 a Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022–31.
- Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn dangos bod cynnydd a gwelliannau'n cael eu gwneud ond mae gwelliannau i'w gwneud mewn meysydd penodol hefyd, gyda gwaith eisoes ar y gweill neu wedi'i drefnu i ddigwydd yn 2025–26.
- Rydym wedi ymrwymo i wneud y gwelliannau hyn a bydd y meysydd a nodwyd fel rhai sydd angen sylw yn cael eu defnyddio i lywio a llunio datblygiad Strategaeth y Gymraeg y pum mlynedd nesaf a fydd yn cwmpasu'r cyfnod o 2026 i 2031.Mae datblygiad y strategaeth nesaf ar y gweill fel rhan o waith Grŵp Cyflawni Strategaeth y Gymraeg.
- Mae'r cyflawniadau yn 2024–25 a thu hwnt yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r safonau, yn cefnogi ac yn datblygu ein Strategaethau’r Gymraeg a Chynlluniau y Gymraeg, ac yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i weld nifer y bobl sy'n gallu mwynhau siarad a defnyddio'r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050 (Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr).
ID: 13895, adolygwyd 07/08/2025