Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg 2024-25

Crynodeb o Gynnydd - Safonau Cyflenwi Gwasanaethau

Galwadau i brif rif ffôn y cyngor (01437 764551)

  • Mae nifer y galwadau i Ganolfan Gyswllt y cyngor a wnaed yn Saesneg wedi gostwng 13,404 (5.8%) o 229,353 o alwadau yn  2023–24 i 215,949 o alwadau yn 2024–25.
  • Mewn cyferbyniad, mae nifer y galwadau yn y Gymraeg wedi cynyddu 139 (2%) o 6,764 yn 2023–24 i 6,903 yn 2024–25.

 

Amser ciw cyfartalog ar gyfer galwadau ar brif rif ffôn y cyngor (01437 764551)

  • Mae'r amser y mae'n rhaid i gwsmeriaid aros i'w galwad gael ei hateb (amser ciw) wrth ffonio Canolfan Gyswllt y Cyngor wedi cynyddu ychydig ar gyfer y ddwy iaith yn Saesneg a Chymraeg o'i gymharu â 2023–24. Fodd bynnag, mae'r amser ciw ar gyfer y llinell Gymraeg wedi bod yn llai na'r llinell Saesneg am y pum mlynedd diwethaf.
  • Mae amser ciw cyfartalog y llinell Gymraeg wedi cynyddu 1 eiliad (3.3%) o 31 eiliad yn 2023–24 i 32 eiliad yn 2024–25.
  • Mae'r amser ciw cyfartalog ar gyfer y llinell Saesneg wedi cynyddu 8 eiliad (17.7%) o 45 eiliad yn  2023–24 i 53 eiliad yn 2024–25.
  • Mae'r amseroedd ciwio hyn ymhell o fewn targed y gwasanaeth ar gyfer 2024–25 sydd, fel y llynedd, ar hyn o bryd yn golygu ateb galwadau o fewn dwy funud ar gyfartaledd. Roedd y targed hwn yn berthnasol i giwiau Saesneg a Chymraeg fel ei gilydd. 

 

Gwefan

Nifer o ymweliadau â thudalen we

  • Mae nifer yr ymweliadau â thudalen we Saesneg y cyngor wedi gostwng 168,054 (7%) o 2,368,437 o ddefnyddwyr yn 2023–24 i 2,200,383 o ddefnyddwyr yn 2024–25. 
  • Mae nifer yr ymweliadau â thudalen we Cymraeg y cyngor wedi gostwng 1390 (18.8%) o 7,361 o ymweliadau yn 2023–24 i 5,971 o ymweliadau yn 2024–25.   
  • Caiff gwefan yr awdurdod ei hadolygu'n rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth.

Nifer y defnyddwyr

  • Mae nifer defnyddwyr y wefan Saesneg wedi gostwng 24% (147,312) o 609,354 o ddefnyddwyr 2023–24 i 462,042 o ymweliadau yn 2024–25. 
  • Mae nifer defnyddwyr y wefan Gymraeg hefyd wedi gostwng 40% (1,156) o 2,856 o ddefnyddwyr yn 2023-24 i 1,700 o ddefnyddwyr yn 2024-25.
  • Mae'n bosibl bod y gostyngiadau hyn oherwydd y sianeli eraill rydyn ni wedi'u cyflwyno sydd hefyd yn rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, Fy Nghyfrif ac Alexa, gan leihau'r angen i ddibynnu'n llwyr ar y wefan am wybodaeth.

 

Defnydd Fy Nghyfrif

  • Mae Fy Nghyfrif yn gyfrif  ar-lein sy'n gallu cynnig ystod eang o wasanaethau y gellir eu cyrchu ar-lein megis gwneud taliadau, adrodd am broblemau a gall trigolion gofrestru i dderbyn hysbysiadau e.e. diwrnod biniau, cau ysgolion a chau pontydd.
  • Mae defnydd o Fy Nghyfrif Saesneg y cyngor yn parhau i dyfu gyda chynnydd o 9.6% (7031) o 72,795 o ddefnyddwyr yn 2023–24 i 79,826 o ddefnyddwyr yn 2024–25.
  • Mae defnyddwyr Fy Nghyfrif Cymraeg hefyd yn parhau i dyfu gyda chynnydd o 7% (53) o 739 o ddefnyddwyr yn 2023–24 i 792 o ddefnyddwyr yn 2024-25.
  • Mae'r ffigurau uchod hefyd yn adlewyrchu nifer y defnyddwyr sy'n dymuno derbyn negeseuon yn Saesneg neu'n Gymraeg.
  • Ar y cyfan, mae twf parhaus yn nifer y cwsmeriaid sy'n cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif ac i gael gohebiaeth Fy Nghyfrif drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. 

 

Cyfryngau cymdeithasol

Nifer y bobl sy’n hoffi ein tudalen ar Facebook

Niferoedd o ddilynwyr X (Twitter gynt)

Niferoedd o ddilynwyr Instagram

 

Ceisiadau cyfieithu ysgrifenedig – Saesneg i'r Gymraeg a Chymraeg i'r Saesneg

  • At ei gilydd roedd 5,358 o gyfieithiadau ysgrifenedig ar gyfer pob categori (A – F), 15% yn fwy nag yn 2023–24 (4,654).
  • Darperir y dadansoddiad yn ôl pob categori isod. Roedd yna:
    • 41 o geisiadau prawfddarllen, 17% yn fwy nag yn 2023–24 (35).
    • 1,436 o geisiadau Categori A (o dan 200 o eiriau), 2.5% yn fwy nag yn 2023–24 (1,400).
    • 1,830 o geisiadau Categori B (200 i 1,999 o eiriau) 16.6% yn fwy nag yn 2023–24 (1,525).
    • 367 Categori C (ceisiadau am dros 2000 o eiriau), 29.6% yn fwy nag yn 2023–24 (283)
    • 1,671 Categori D (brys, ymateb cyflym) 16.6% yn fwy nag yn 2023–24 (1,433).
    • 3 Categori E (arbenigol, technegol (cyfreithiol)), yr un fath ag yn 2023–24.
    • 10 Categori F (arbenigol, technegol h.y. adeiladu, cynllunio, peirianneg, amgylcheddol), yr un fath ag yn 2023–24.

 

Cyfieithu ar y pryd

  • Bu cynnydd o 31% yn nifer y ceisiadau i'r gwasanaeth cyfieithu corfforaethol am gyfieithu ar y pryd, o 5 yn 2023–24 i 16 yn 2024–25.

 

Nifer y tendrau a gyflwynwyd yn y Gymraeg

  • Ni chafwyd unrhyw dendrau yn y Gymraeg, cyflwynwyd 2 dendr yn 2023–24.

 

Cwynion

  • Cawsom ddau gŵyn yn 2024/25 yn ymwneud â safonau darparu gwasanaethau yn y Gymraeg (Safon 158). Roedd y cwynion yn ymwneud â gwybodaeth a ddangoswyd yn y Gymraeg y credwyd ei bod wedi'i chyfieithu'n wael a gwall wrth anfon ymateb yn Saesneg pan dylid fod wedi'i anfon yn y Gymraeg, roedd wedi cael ei drin a'i gydnabod yn y Gymraeg.
ID: 13888, adolygwyd 07/08/2025