Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg 2024-25

Monitro

  • Y Cyfarwyddwr Addysg yw'r uwch swyddog sy'n gyfrifol am weithredu safonau'r Gymraeg o fewn Cyngor Sir Penfro. Mae'n cael ei gefnogi yn y gwaith hwn gan Grŵp Cyflawni Strategaeth y Gymraeg, sy'n cynnwys swyddogion y mae eu cylchoedd gwaith yn ymwneud â chyflawni amcanion o fewn y strategaeth, materion cydymffurfio, gwaith datblygu a rhannu arferion da. Mae'r grŵp yn cyfarfod bob chwarter ac mae'r Cyfarwyddwr Addysg yn adrodd i uwch-swyddogion eraill ac aelodau'r Cabinet, fel rhan o'i aelodaeth o'r Uwch-dîm Arwain.
  • Mae ein rhaglen weinyddol wedi'i threfnu o amgylch portffolios aelodau'r cabinet sy'n cynnwys Aelod Cabinet dros Addysg a'r Iaith Gymraeg a dau Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg.
  • O fewn ein Strategaeth Gorfforaethol 2025–30, a ddatblygwyd yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, y camau gweithredu sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg yw:
    • Datblygu a chynhyrchu strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg erbyn 2026, gyda chyfranogiad yr holl randdeiliaid allweddol.
    • Cefnogi a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gyntaf, gan gynnwys gweithredu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a chynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2026.
  • Adrodd ar gynnydd yn erbyn ein Strategaeth Gorfforaethol 2025-30 drwy ein hadroddiad hunanasesu blynyddol a gymeradwyir gan y cyngor bob hydref. Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cefnogi ac yn cyfrannu at y broses asesu honno.
ID: 13885, adolygwyd 07/08/2025