Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg 2024-25
Safonau Cyflenwi Gwasanaethau
- Mae gan y cyngor gyfrifoldeb am ddarparu'r ystod lawn o wasanaethau llywodraeth leol i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.
- Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau i'n cwsmeriaid, sy'n cynnwys ysgolion, gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gofal cymdeithasol a thai, diogelu'r cyhoedd, a chynnal a chadw ardaloedd ac ati. Yn ogystal â'r gwasanaethau a ddarparwn ein hunain, rydym hefyd yn comisiynu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau gan gontractwyr allanol a darparwyr eraill.
- Ar hyn o bryd mae ein gweithwyr yn gweithio o fewn y strwythurau canlynol o dan Swyddfa'r Prif Weithredwr: Prif Weithredwr Cynorthwyol; Adnoddau; Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai; Addysg; Seilwaith a'r Amgylchedd; a'r Gyfraith a Llywodraethu.
- Mae ein staff yn gweithredu o amrywiaeth eang o leoliadau gan gynnwys swyddfeydd, depos, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, yn ogystal ag o'n pencadlys yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd. Mae gweithwyr sy'n gweithio mewn swyddfa yn rhannu eu hamser rhwng gweithio mewn swyddfa a gweithio gartref fel rhan o weithio hybrid.
- Mae Safonau’r Gymraeg wedi’u hymgorffori yn ein Safonau Cyfathrebu, Canllawiau Gwasanaethau ac Adnoddau ar gyfer Gweithwyr, sydd ar gael fel PDF ar y fewnrwyd. Mae'r canllawiau'n rhan o'r broses sefydlu gorfforaethol ac fe'u hategir gan nifer o daflenni ffeithiau.
- Mae canllawiau atodol ar gael i reolwyr ac uwch-swyddogion sy'n cynnwys canllawiau ar ddarparu cyrsiau addysg i'r cyhoedd, dyfarnu grantiau a chaffael nwyddau a gwasanaethau.
ID: 13887, adolygwyd 07/08/2025