Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg 2024-25

Safonau Gweithredu

  • Mae gennym adnoddau ar gael i weithwyr a rheolwyr, i gefnogi gweithredu'r safonau gweithredol.

 

Tudalen bwrpasol ar gyfer Safonau'r Gymraeg ar ein mewnrwyd

  • Mae'r dudalen we hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd i sicrhau bod yr adnoddau diweddaraf ar gael i staff, gan gynnwys gwybodaeth am gyrsiau iaith Gymraeg a chanllawiau wedi'u diweddaru. Bydd y dudalen hon hefyd yn darparu manylion am yr Eisteddfod 2026 a gynhelir yn Sir Benfro.
  • Mae'r dudalen yn cynnwys:
    • Safonau Cyfathrebu, Canllawiau Gwasanaethau ac Adnoddau ar gyfer Gweithwyr, a thaflenni ffeithiau cysylltiedig
    • Hunanasesiad sgiliau Cymraeg, a chanllawiau ar gyfer cwblhau. Mae'r broses hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd. Darperir rhagor o fanylion o dan yr adran “Crynodeb o Gynnydd – Safonau Gweithredu”.
    • Cyrsiau Cymraeg.
    • Canllawiau a gwaith papur ar gyfer gwerthuso perfformiad. Mae hyn wedi cael ei adolygu yn ystod 2024, gweler isod.
    • Canllawiau atodol i reolwyr ac uwch-swyddogion.
    • Polisi Defnydd Mewnol o'r Gymraeg. Mae'r polisi hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, gweler isod.
    • Polisi ar Ddyfarnu Grantiau a Ffurflen Gais

 

Mae'r adran Adnoddau Dynol ar y fewnrwyd

  • Yn cynnwys yr adnoddau canlynol:
    • Polisïau, gweithdrefnau ac adnoddau – Polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau mewnol (yn Saesneg ac yn Gymraeg yn ôl y galw)
  • Darperir dogfennau polisi a gweithdrefn recriwtio yn Saesneg ac yn Gymraeg, gan gynnwys y polisïau recriwtio, prentisiaeth, profiad gwaith a gwirfoddoli.
    • Recriwtio Adnoddau Dynol – canllawiau gan gynnwys Gofynion Safonau'r Gymraeg, ar gyfer cynghorwyr AD a rheolwyr gwasanaeth.
  • Diweddarwyd polisi recriwtio’r cyngor yn 2024, gan ddisodli fersiwn 2023.Mae'n cynnwys cyfeiriad at safonau'r Gymraeg wrth ddrafftio manyleb y person ar gyfer swydd wag, a bod rhaid ystyried yr angen am y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer swyddi sy'n cynnwys, neu'n debygol o gynnwys, cyswllt â chwsmeriaid y cyngor. Mae'n argymell y dylid diffinio'r sgil ieithyddol sydd ei hangen yn glir, a rhoi pwyslais digonol a phriodol ar y sgiliau ieithyddol sydd eu hangen.
  • Mae tudalen we'r broses recriwtio yn disgrifio'r camau sydd eu hangen cyn dechrau recriwtio a pha gwestiynau y mae angen eu hystyried. Mae'r dudalen hon yn cyfeirio at safonau'r Gymraeg a safon recriwtio 136 lle mae'n rhaid i chi asesu'r angen am sgiliau Cymraeg, a chategoreiddio'r lefel sgiliau sydd eu hangen:
    • (a) Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol
    • (b) Mae angen dysgu sgiliau Cymraeg wrth gael eich penodi i'r swydd
    • (c) Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol
    • (d) Nid yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol.
  • Yr eithriad i hyn yw swyddi gwasanaeth derbynfa, rhaid dynodi'r swyddi hyn fel rhai 'Mae'r Gymraeg yn Hanfodol'. Darperir manylion ynghylch y swyddi hyn.

 

Proses Asesu Perfformiad

  • Byddwn yn lansio ein proses asesu perfformiad newydd yn fuan, o'r enw Adborth, Ffocws, a Dyfodol. Mae'r dull newydd hwn wedi'i gynllunio i feithrin sgyrsiau mwy ystyrlon a blaengar rhwng rheolwyr a gweithwyr - gan roi pwyslais ar adborth adeiladol, gosod nodau clir, a datblygu gyrfa.
  • Yn unol â'n hymrwymiad i hyrwyddo gweithle dwyieithog a chefnogi ein cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg, mae'r holl ddogfennau ac adnoddau cysylltiedig yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg ar hyn o bryd. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ymgysylltu'n llawn â'r broses asesu yn yr iaith o’u dewis.
  • Drwy gynnig y broses yn y Gymraeg a'r Saesneg, ein nod yw creu amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol lle gall yr holl staff fyfyrio ar eu cynnydd, dathlu cyflawniadau, a chynllunio ar gyfer y dyfodol yn eglur a hyderus.

 

Polisi Defnydd Mewnol o'r Gymraeg

  • Dechreuwyd adolygiad o Bolisi Defnydd Mewnol o'r Gymraeg yn ystod 2024–25 gyda chyfeiriad at ganllawiau Defnydd Mewnol o'r Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg. Bydd hyn yn parhau yn ystod Ch1/Ch2 2025–26, gan ddefnyddio data diwedd blwyddyn ac unrhyw feysydd datblygu a nodwyd i lywio'r broses adolygu a chyd-fynd ag adolygiad Strategaeth y Gymraeg 2021–26.
ID: 13890, adolygwyd 07/08/2025