Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg 2024-25

Safonau Hybu

  • Mae'r safonau hybu yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor gynhyrchu, a chyhoeddi ar ein gwefan, strategaeth pum mlynedd sy'n nodi sut y byddwn yn hyrwyddo'r Gymraeg ac yn hwyluso defnyddio'r iaith. 2025–26 yw blwyddyn olaf y strategaeth gyfredol.
  • Mae'r cyngor yn nodi amcanion a phwyntiau gweithredu mewn perthynas â datblygiad yr Iaith Gymraeg yn y sir yn ei Strategaeth Iaith Gymraeg 2021-26 a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-31   Bydd y strategaeth pum mlynedd nesaf yn cael ei gynnal o 2026-2031 ac mae gwaith wedi dechrau ar ei datblygu fel rhan o waith Grŵp Cyflawni Strategaeth y Gymraeg. Mae casglu data/ystadegau ategol cenedlaethol a lleol eisoes ar y gweill, gan gynnwys ffigurau diwedd y flwyddyn. Mae cynllun gwaith wedi cael ei drafod. Mae gwaith pellach wedi'i amserlennu yn cynnwys adolygiad o'r cynllun presennol, ymgynghori â rhanddeiliaid gan gynnwys Fforwm Iaith Sir Benfro a thrigolion Sir Benfro, craffu trwy ein prosesau democrataidd ar gyfer cymeradwyo mabwysiadu a chyhoeddi ar ein gwefan gorfforaethol. Bydd canllawiau arferion gorau Comisiynydd y Gymraeg yn cael eu defnyddio i gefnogi a llunio'r strategaeth.
ID: 13892, adolygwyd 07/08/2025