Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg 2024-25
Safonau Llunio Polisi
- Mae gan y cyngor gyfrifoldeb, wrth lunio polisi newydd neu adolygu/diwygio polisi presennol, i ystyried yr effaith y mae penderfyniad polisi yn ei chael ar y cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg.
Ymgynghori ac ymgysylltu
- Aeth y system/prosesau ymgynghori newydd yn fyw o ganol mis Gorffennaf 2024. Mae trigolion yn parhau i allu ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus yn Saesneg neu'n Gymraeg. Tynnodd y newid yn y system ymgynghori sylw at yr angen am wybodaeth ychwanegol i gefnogi staff sy'n ymwneud ag ymgynghoriadau. Mae Protocol Ymgynghori wedi'i gynhyrchu i staff er mwyn rhoi cyngor ymarferol i gynllunio, paratoi a chynnal ymarfer ymgynghori effeithiol sy'n cynnwys canllawiau ar y gofynion ar gyfer y Gymraeg.
- Mae'r broses fewnol newydd wedi'i hintegreiddio â Fy Nghyfrif (cyfrif cwsmer ar-lein) i awtomeiddio cyflwyno hysbysiadau ymgynghori yn Saesneg neu'n Gymraeg, yn dibynnu ar ddewis y cwsmer, trwy'r system hysbysu e-bost gorfforaethol Notify.Ar hyn o bryd anfonir hysbysiadau at dros 4,700 o ddefnyddwyr, i hyrwyddo ymgynghoriadau agored.
- Rydym wedi adolygu'r cwestiynau demograffig a ofynnwn sydd wedi'u llenwi ymlaen llaw yn y templed Microsoft Forms gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n gyson, eu monitro, a'u bod yn gallu cael eu cymharu ag ystadegau cenedlaethol a lleol e.e. Cyfrifiad 2021.Mae hyn yn cynnwys y cwestiynau am y Gymraeg rydyn ni'n eu gofyn. Gofynnir y cwestiwn canlynol i ymatebwyr ynghylch yr iaith Gymraeg fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â chanllawiau:
- “Pa effeithiau ydych chi’n teimlo y byddai’r cynigion yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg? Ystyriwch a ellir newid y cynnig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol (neu effeithiau mwy cadarnhaol), ac er mwyn osgoi, neu leihau, effeithiau negyddol, ar y canlynol:
- (i) cyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg
- (ii) yr angen i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
- Os felly - sut? Os na - pam?
- Er ein bod yn cael llawer o ymatebion addysgiadol ac amrywiol i'r cwestiwn hwn, mae nifer o ymatebwyr yn nodi nad ydynt yn deall yr hyn sy'n cael ei ofyn. Byddwn yn parhau i fonitro'r ymatebion a dderbynnir mewn perthynas â'r Gymraeg.
- Bydd adolygu a monitro parhaus o'r system newydd yn parhau drwy 2025–26 a thu hwnt i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion gwasanaethau a chyfranogwyr. Mae gwerthusiad llawn o'r system newydd yn ystod 2024–25 ar waith ar hyn o bryd a fydd yn cynnwys cyfeiriad at ystyriaethau'r Gymraeg.
Asesiad Effaith Integredig
- Adolygwyd proses Asesiad Effaith Integredig y cyngor yn ystod 2024 i gryfhau a chefnogi prosesau gwneud penderfyniadau drwy wneud proses yr Asesiad Effaith Integredig yn symlach, yn haws i'w dilyn a thrwy ehangu'r ystod o ymrwymiadau deddfwriaeth/polisi a gwmpesir.
- Roedd y adrannau a adolygwyd yn cynnwys yr asesiad effaith ar y Gymraeg (Adran 6) lle gofynnir i staff ddisgrifio'r effaith y bydd cynnig yn ei chael ar gyfleoedd i ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg, ac i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Gofynnir i staff ddisgrifio ac egluro a fydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol, negyddol neu ddim effaith o gwbl ar y Gymraeg, beth fydd yn cael ei wneud i leihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodwyd ac amlinellu unrhyw ffynhonnell benodol o ddata neu dystiolaeth i gefnogi'r wybodaeth. Cytunwyd ar y templed a'r canllawiau newydd gan yr Uwch-dîm Arwain a'u trafod gyda'r Tîm Rheoli Estynedig. Mae cynllun peilot o'r broses newydd ar waith i sicrhau bod y fframwaith yn gadarn.
- Roedd yr adolygiad hwn mewn ymateb i nifer o ffactorau gan gynnwys canllawiau a gyhoeddwyd ar wefan Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â chanfyddiadau tribiwnlys yn ymwneud â safonau llunio polisi’r Gymraeg. Yn ogystal, nododd adolygiadau mewnol yn 2022–23 a 2023–24 o benderfyniadau ffurfiol a gymerwyd gan y cyngor, y cabinet, ac aelodau cabinet annibynnol mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg rai methiannau oherwydd nad oedd asesiadau'n cael eu cynnal, eu bod yn cael eu cynnal yn rhy hwyr yn y cylch prosiect neu asesiadau'n cynnwys gwybodaeth gyfyngedig. Byddwn yn parhau i fonitro Asesiad Effaith Integredig i benderfynu a yw'r templed a'r canllawiau newydd yn cael effaith gadarnhaol.
ID: 13889, adolygwyd 07/08/2025