Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg

Cyflenwi Gwasanaethau

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb am ddarparu’r holl ystod o wasanaethau llywodraeth leol ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr.

Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid, sy’n cynnwys ysgolion, gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gofal cymdeithasol a thai, diogelu’r cyhoedd a chynnal a chadw ardaloedd ac ati.

Mae ein cyflogeion i gyd yn gweithio mewn un o bum Cyfarwyddiaeth: Swyddfa’r Prif Weithredwr; Adnoddau; Gwasanaethau Cymunedol; Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, ac Addysg.

Mae ein staff yn gweithredu o ystod eang o leoliadau gan gynnwys swyddfeydd, depos, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, yn ogystal ag o’n pencadlys yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd. Yn dilyn pandemig y coronafeirws, mae’r mwyafrif o’n cyflogeion mewn swyddfeydd wedi newid i drefniadau gweithio hybrid, gan rannu eu hamser rhwng gweithio mewn swyddfeydd a gweithio gartref.

Gyda staff yn gweithredu o gymaint o wahanol leoliadau, mae sicrhau bod gan yr holl gyflogeion sy’n darparu gwasanaethau ymwybyddiaeth o Safonau’r Gymraeg a’u bod yn cydymffurfio â hwy yn gallu bod yn gryn her.

Rydym wedi ymdrin â hyn trwy sicrhau bod gofynion Safonau’r Gymraeg wedi’u gwreiddio yn ein dogfen gyfarwyddyd allweddol i gyflogeion ar gyfathrebu: Safonau, Gwasanaethau ac Adnoddau Cyfathrebu – Canllawiau i Gyflogeion. Trefnwyd fod y ddogfen hon ar gael i gyflogeion trwy’r Fewnrwyd fel ffeil PDF y gellir ei lawrlwytho. Mae’r canllawiau a amlygir yn rhan o hyfforddiant sefydlu corfforaethol, ac fe’u hategir gan nifer o daflenni ffeithiau, sy’n cynnwys gwybodaeth gryno am ofynion y Safonau.

Yn ogystal â’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu’n uniongyrchol ein hunain, rydym hefyd yn comisiynu ystod o nwyddau a gwasanaethau gan gontractwyr allanol a darparwyr eraill.

Mae dogfen Canllawiau Atodol i Reolwyr ac Uwch Swyddogion (sy’n cynnwys canllawiau ynghylch darparu cyrsiau addysg ar gyfer y cyhoedd, dyfarnu grantiau a chaffael nwyddau a gwasanaethau) yn eistedd ochr yn ochr â’r ddogfen Safonau Cyfathrebu ar y dudalen a neilltuwyd i Safonau’r Gymraeg ar ein Mewnrwyd, a gellir ei lawrlwytho fel ffeil PDF hefyd. Rydym hefyd wedi darparu hyfforddiant o bryd i’w gilydd ar gyfer rheolwyr a swyddogion sy’n comisiynu gwasanaethau trydydd parti, sydd wedi cynnwys canllawiau ynghylch gofynion Safonau’r Gymraeg.

Tabl 1. Cyflenwi gwasanaethau

Galwadau i brif rif y Cyngor (01437 764551).

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Nifer y galwadau yn Saesneg 300,233  299,501  296,817  293,829  253,425  ↓ 15%
Nifer y galwadau yn Gymraeg 4,551  6,872  8,173  8,791  7,727  ↓ 13%

 

Amser ciwio cyfartalog ar brif rif y Cyngor (01437 764551).

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Amser ciwio ar gyfer galwadau yn Saesneg 115 eil  334 eil  194 eil  273 eil  41 eil ↓ 85%
Amser ciwio ar gyfer galwadau yn Gymraeg 59 eil 87 eil 50 eil 53 eil 26 eil ↓ 50%

 

Gwefan - Pembrokeshire County Council 

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid 
Nifer yr ymweliadau â thudalennau  604,258  577,431  -  2,237,565  2,609,687  ↑ 15%
Nifer y Defnyddwyr  -  -  391,875  446,304  585,664  ↑ 34%

 

Gwefan - Cyngor Sir Benfro 

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Nifer yr ymweliadau â thudalennau  1,821  6,223  -  4,652  8,225  ↑ 44%
Nifer y Defnyddwyr  -  -  1,636  1,670  2,903  ↑ 43%

 

Fy Nghyfrif - Saesneg (d.s. Fy Nghyfrif newydd o 01/04/21 – 31/03/22)

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Nifer y defnyddwyr  Ddim ar gael  44,117 51,443 26,292 42,966  ↑ 39%
Nifer sy’n dymuno cael cyfathrebiadau yn Saesneg Ddim ar gael Ddim ar gael 25,450 26,292 42,966  -

 

Fy Nghyfrif – Welsh (d.s. Fy Nghyfrif newydd o 01/04/21 – 31/03/22)

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Nifer y defnyddwyr   Ddim ar gael  164  196  197  278  ↑ 30%
Nifer sy’n dymuno cael cyfathrebiadau yn Gymraeg Ddim ar gael Ddim ar gael  95  197 278   -

 

Y Cyfryngau Cymdeithasol - Saesneg

Beth ydym yn ei fonitro? (yn agor mewn tab newydd)
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Facebook - Nifer yr hoffiadau  16,753   19,479   21,400   25,611   27,527   ↑ 7%
Twitter - Nifer y dilynwyr  13,440   14,400   15,200   15,600   16,000   ↑ 2%
Instagram - Nifer y dilynwyr  -  -  -  2,005  2,379  ↑ 18%

 

Y Cyfryngau Cymdeithasol - Cymraeg

Beth ydym yn ei fonitro? (yn agor mewn tab newydd)
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Facebook - Nifer yr hoffiadau  97  121  151  265  309  ↑ 16%
Twitter - Nifer y dilynwyr  462  514  550  603  625  ↑ 3%
Instagram - Nifer y dilynwyr  -  -  -  193  205  ↑ 6%

 

Ceisiadau am Gyfieithiadau Cymraeg (Saesneg i’r Gymraeg a Chymraeg i Saesneg)

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Ceisiadau prawfddarllen Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael 28 32  ↑
Categori A – o dan 200 o eiriau Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael 1,666 1,429  ↓
Categori B – 200 – 1,999 o eiriau Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael 1,599 1,571  ↓
Categori C – 2000+ o eiriau Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael 340 304  ↓
Categori D – brys, gan ei gwblhau’n gyflym Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael 1,445 1,345  ↓
Categori E – arbenigol, technegol (cyfreithiol Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael 14 13  ↓
Categori F – arbenigol, technegol (adeiladu, cynllunio, peirianneg, amgylcheddol) Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael 5 2  ↓
Cyfanswm ar gyfer yr holl gategorïau A - F Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael 5069 4664  ↓

 

Cyfarfodydd

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Nifer y ceisiadau i’r gwasanaeth cyfieithu corfforaethol am wasanaeth cyfieithu ar y pryd Ddim ar gael 5 1 (1/11/20 – 31/03/21) 1 8

 

Tendrau

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Nifer y tendrau a gyflwynwyd yn Gymraeg Ddim ar gael 0 3 0 0 -

 

Cwynion (Safon 158)

Beth ydym yn ei fonitro?
2018 - 19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
 @ % y newid
Nifer y cwynion a oedd yn ymwneud â safonau cyflenwi gwasanaethau’r Gymraeg  3 2 0 0 - -

 

Cwynion (Safon 164)

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Nifer y cwynion a oedd yn ymwneud â safonau llunio polisi’r Gymraeg 0 0  0  0  0  -

 

Cwynion (Safon 170)

Beth ydym yn ei fonitro?
2018-19
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
@ % y Newid
Nifer y cwynion a oedd yn ymwneud â safonau gweithredu’r Gymraeg 0 0 0 0 0  -

 

 

ID: 10355, adolygwyd 30/06/2023