Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg

Llunio Polisi

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb, wrth lunio polisi newydd neu adolygu/diwygio polisi presennol, am ystyried yr effaith y mae penderfyniad polisi’n ei chael ar y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. 

Fe wnaethom adolygu’r holl benderfyniadau ffurfiol a wnaed gan y Cyngor, y Cabinet ac aelodau cabinet annibynnol (ac yr oedd asesiad effaith integredig yn ofynnol ar eu cyfer) mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg ar ddatblygu polisi a wnaed rhwng 01/04/22 a 31/03/23.

Cynhelir Asesiadau o’r Effaith ar y Gymraeg fel rhan o Asesiadau Effaith Integredig ehangach. Mae natur rhai polisïau a strategaethau corfforaethol, megis y Strategaeth Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r Strategaeth Gaffael er enghraifft, yn golygu bod angen cynnal asesiadau effaith lluosog ar gyfer y camau gweithredu unigol sydd wedi’u cynnwys yn y polisi neu’r strategaeth.

Lle cynhelir Asesiadau Effaith Integredig ar adeg amserol o fewn y cylch datblygu prosiect, ceir tystiolaeth o ddigonolrwydd gwell. Fodd bynnag, mae o leiaf hanner yr holl Asesiadau Effaith Integredig yn dal i gael eu cynnal yn rhy hwyr yn y cylch datblygu prosiect iddynt fod yn offeryn mor effeithiol ag y gallent fod i’r Cyngor. Ceir mwy o dystiolaeth hefyd bod penderfyniadau’n cael eu gwneud heb unrhyw Asesiad Effaith Integredig (yn groes i ganllawiau corfforaethol). Hefyd, mae gwybodaeth ar gyfer nifer o benderfyniadau’n gyfyngedig gan olygu nad oes cyfle i wirio’r Asesiad Effaith Integredig.

Mae Canllawiau Corfforaethol ynghylch Asesiadau Effaith Integredig wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu cyngor ychwanegol mewn perthynas ag Asesiadau o’r Effaith ar y Gymraeg a ddarparwyd yn ddiweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae’r ychwanegiad at y Canllawiau’n darllen fel a ganlyn: “Dylai ystyriaethau gynnwys pethau megis: yr effaith bosibl ar nifer y siaradwyr Cymraeg, trosglwyddo’r Gymraeg (e.e. o riant i blentyn), cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, cyfleoedd i bobl ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol, seilwaith cymdeithasol ac economaidd sy’n cefnogi cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, cyfleoedd i ddysgu Cymraeg neu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddigidol a chynllunio iaith”.

 

ID: 10358, adolygwyd 30/06/2023