Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg

Sylwadau ar Gynnydd 2023-24

Crynodeb o’r Cynnydd (Cyflenwi Gwasanaethau) 2023-24

  • Mae nifer y galwadau i Ganolfan Gyswllt y Cyngor wedi gostwng ers 2022–23, ond mae nifer y galwadau Cymraeg wedi gostwng ychydig yn fwy sydyn (i lawr 12%) o gymharu â nifer y galwadau Saesneg (i lawr 9%).
  • Mae’r amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid aros am ymateb pan fyddant yn ffonio Canolfan Gyswllt y Cyngor wedi cynyddu ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg, gyda’r rhai sy’n ffonio’r llinell Gymraeg bellach yn aros 31 eiliad ar gyfartaledd a’r rhai sy’n ffonio’r llinell Saesneg yn aros 45 eiliad ar gyfartaledd. Mae'r amser ymateb ar gyfer y llinell Gymraeg yn well na'r llinell Saesneg. Mae'r amseroedd aros hyn o fewn y targed gwasanaeth ar gyfer 2023-24 sef i alwadau gael eu hateb o fewn 2 funud ar gyfartaledd. Mae'r targed cyffredinol hwn yn berthnasol i giwiau Cymraeg a Saesneg. 
  • Mae nifer defnyddwyr y wefan Saesneg yn parhau i dyfu (cynnydd o 4%), tra bod niferoedd defnyddwyr y wefan Gymraeg wedi gostwng ychydig (gostyngiad o 1%).
  • Mae’r defnydd o Fy Nghyfrif y Cyngor yn parhau i dyfu ar gyfer y cyfrifon Cymraeg a Saesneg. Mae’r twf yn nifer y cwsmeriaid sy’n cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif ac i dderbyn cyfathrebiadau Fy Nghyfrif trwy gyfrwng y Gymraeg yn tyfu’n gyflymach na’r Saesneg (cynnydd o 62% yn y Gymraeg o’i gymharu â 41% yn Saesneg).
  • Mae diddordeb yn nhudalen Gymraeg Facebook y Cyngor yn parhau i dyfu, gyda nifer y dilynwyr yn cynyddu 29% o 309 yn 2022/3 i 400 yn 2023/4. Mae diddordeb wedi parhau i gael ei hybu gan y sylw a roddwyd i orymdaith Dydd Gŵyl Dewi, Dydd Shwmae a straeon newyddion am addysg Gymraeg.
  • O gymharu â 2022/3, mae cyfieithiadau ysgrifenedig o bob maint yn 2023/4 wedi aros ar lefel debyg.

Crynodeb o’r cynnydd (Safonau Llunio Polisi) 2023-24

  • Mae rhai diffygion yn parhau mewn prosesau Asesiad Effaith Integredig Corfforaethol, sydd â goblygiadau i'r Gymraeg ac yn ehangach. Yn ystod 2024/5, bydd y broses Asesiad Effaith Integredig Corfforaethol yn cael ei hadolygu.  Mae’r adolygiad hwn mewn ymateb i nifer o ffactorau gan gynnwys penderfyniad Tribiwnlys y Gymraeg yn achos TYG/22/01, a’r seminar dilynol gan y Comisiynydd a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2023.

Crynodeb o’r Cynnydd (Gweithredu) 2023-24

  • Mae nifer y cyflogeion sy'n dymuno derbyn gohebiaeth yn ymwneud â'u cyflogaeth wedi aros yr un fath am y tair blynedd diwethaf.
  • 4Bu gostyngiad bach yn nifer y cyflogeion a gwblhaodd yr hunanasesiad o anghenion hyfforddi (1,774 yn 2023/4 o gymharu â 1,870 yn 2022/3) ond mae lefelau sgiliau Cymraeg yn aros yr un fath i raddau helaeth (868 ar Lefel 1 neu uwch yn 2023/4 o gymharu ag 899 ar Lefel 1 neu uwch yn 2022/3, a 170 ar Lefel 3/4 yn 2023/4 o gymharu â 179 ar Lefel 3/4 yn 2022/3).
  • 4Er bod nifer y cyflogeion a gwblhaodd Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch drwy gyfrwng y Gymraeg wedi mwy na dyblu o 66 yn 2021/2 i 152 yn 2022/3, bu gostyngiad (38%) yn nifer y cyflogeion a gwblhaodd Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2023-24 o gymharu â 2022-23.Gall y gostyngiad hwn fod oherwydd llawer o ffactorau gan gynnwys amseriad adnewyddu cyrsiau gorfodol e.e. bob 3 blynedd.
  • 4 Mae ail-ddarparu Cymraeg Gwaith, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi ysgogi cynnydd yn nifer y cyflogeion sy’n manteisio ar gyfleoedd dysgu Cymraeg o 118 yn 2022/3 i 203 yn 2023/4. 
  • 4 Mae gofynion iaith Gymraeg ar gyfer swyddi a hysbysebwyd wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers 2021/2 ac ar hyn o bryd mae 8% yn nodi bod y Gymraeg yn hanfodol, mae 75% yn nodi bod y Gymraeg yn ddymunol, mae 1% yn nodi bod angen dysgu Cymraeg adeg penodi ac 17% yn nodi nad oes angen y Gymraeg.
ID: 10354, adolygwyd 13/12/2024