Adroddiad Blynyddol Safonaur Gymraeg

Sylwadau ar Gynnydd 2022-23

Crynodeb o’r Cynnydd (Cyflenwi Gwasanaethau) 2022 – 23

  • Mae nifer y galwadau i Ganolfan Gyswllt y Cyngor wedi gostwng ers 2021 – 22, ond mae nifer y galwadau Saesneg wedi gostwng ychydig yn fwy (i lawr 15%) na nifer y galwadau Cymraeg (i lawr 13%)
  • Mae’r amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid aros nes cael ymateb, wrth ffonio Canolfan Gyswllt y Cyngor, wedi lleihau ar gyfer Cymraeg a Saesneg, gyda galwyr y llinell Gymraeg bellach yn aros am 26 eiliad ar gyfartaledd a galwyr y llinell Saesneg yn aros am 41 eiliad ar gyfartaledd
  • Mae defnydd o wefan y Cyngor, a’r swyddogaeth Fy Nghyfrif, yn dal i dyfu. Mae defnydd o’r wefan Gymraeg yn tyfu’n gyflymach na defnydd o’r wefan Saesneg (i fyny 43% o’i gymharu â chynnydd o 34% ar gyfer Saesneg) ond nid yw’r twf yn nifer y cwsmeriaid sy’n cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif, ac i gael cyfathrebiadau Fy Nghyfrif, trwy gyfrwng y Gymraeg yn digwydd mor gyflym ag y mae’r twf yn nifer y cwsmeriaid sy’n cofrestru i’w ddefnyddio trwy gyfrwng y Saesneg (cynnydd o 30% ar gyfer Cymraeg o’i gymharu â 34% ar gyfer Saesneg)
  • Mae diddordeb yn nhudalen Facebook Gymraeg y Cyngor yn dal i dyfu’n gyflym, gyda nifer y dilynwyr yn cynyddu 16% o 265 yn 2021/2 i 309 yn 2022/3. Mae’r diddordeb wedi cael ei hybu gan sylw i orymdaith Dydd Gŵyl Dewi, gweithgarwch i hyrwyddo Diwrnod Shwmae a storïau newyddion am addysg cyfrwng Cymraeg
  • Bu gostyngiad bach yn y galw am gyfieithiadau Cymraeg ysgrifenedig o bob hyd ond cynnydd yn y galw am wasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd, sydd bellach yn cynnwys darpariaeth yng nghyfarfodydd y Cyngor llawn, yn ogystal â chyfarfodydd pwyllgorau ffurfiol eraill

Crynodeb o’r cynnydd (Safonau Llunio Polisi)

  • Mae gwallau’n dal i fodoli mewn prosesau Asesiad Effaith Integredig, sy’n dwyn goblygiadau ar gyfer y Gymraeg ac yn fwy eang. Mae canllawiau ychwanegol mewn perthynas ag elfennau o’r Asesiad Effaith Integredig sy’n ymwneud â’r Gymraeg wedi cael eu hychwanegu at y canllawiau corfforaethol, yn unol ag argymhellion a wnaed o ganlyniad i ganfyddiadau diweddar mewn perthynas â phenderfyniad a wnaed gan Gyngor Abertawe.

Crynodeb o’r Cynnydd (Gweithredu) 2022 – 23

  • Mae nifer y cyflogeion sy’n dymuno cael gohebiaeth mewn perthynas â’u cyflogaeth bron wedi dyblu o 33 i 62
  • Bu gostyngiad bach yn nifer y cyflogeion sy’n cwblhau’r hunanasesiad o anghenion hyfforddi (1,870 yn 2022/3 o’i gymharu â 1,969 yn 2021/2) ond mae lefelau sgiliau Cymraeg yn dal i fod yn ddigyfnewid i raddau helaeth (889 ar Lefel 1 neu uwch yn 2022/3 o’i gymharu â 919 ar Lefel 1 neu uwch yn 2021/2, a 179 ar Lefel 3 / 4 yn 2022/3 o’i gymharu â 177 ar Lefel 3 / 4 yn 2021/2)
  • Mae nifer y cyflogeion sy’n cwblhau Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch trwy gyfrwng y Gymraeg wedi mwy na dyblu o 66 yn 2021/2 i 152 yn 2022/3
  • Mae ail-ddarparu gwersi Cymraeg yn y Gweithle, mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi ysgogi cynnydd yn nifer y cyflogeion sy’n achub ar gyfleoedd i ddysgu Cymraeg o 79 yn 2021/2 i 118 ar hyn o bryd
  • Mae’r rhaniad rhwng categorïau sgiliau Cymraeg ar gyfer swyddi a hysbysebwyd wedi aros yn ddigyfnewid gan mwyaf ers 2021/2 ac ar hyn o bryd mae 10% yn rhai lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, 70% yn rhai lle mae’r Gymraeg yn ddymunol, 1% yn rhai lle mae angen dysgu Cymraeg ar ôl penodi ac 19% yn rhai lle nad oes angen sgiliau Cymraeg.
ID: 10354, adolygwyd 30/06/2023