Amlosgfa

Cyfleusterau'r Capel

Cerddoriaeth yn ystod Gwasanaeth angladdol

Ym Mharc Gwyn rydym wedi dodi system bwrpasol ar gyfer lawrlwytho cerddoriaeth i'w defnyddio mewn amlosgfeydd er mwyn inni allu chwarae dewis gerddoriaeth y teuluoedd, yn ystod y gwasanaeth angladdol, heb orfod defnyddio Cryno Ddisgiau.

Os hoffech chi weld pa gerddoriaeth sydd ar gael ichi mae croeso ichi fwrw golwg ar Wesley Music (yn agor mewn tab newydd) lle byddwch chi'n gweld ein llyfrgell gerddoriaeth bresennol.

Os bydd arnoch angen darn o gerddoriaeth sydd heb ei gynnwys yn ein llyfrgell, yna gallwch chi ragarchebu eich anghenion trwy eich Trefnydd Angladdau.

Yna bydd ein horganydd ar ddyletswydd yn amserlennu eich traciau cerddoriaeth er mwyn iddynt gael eu chwarae ar yr amser cywir yn ystod y gwasanaeth angladdol.

Ar gyfer y bobl hynny a fyddai'n dal i ddymuno defnyddio organydd i chwarae'r gerddoriaeth yn y modd traddodiadol, yna mae'r gwasanaeth hwn hefyd ar gael ichi wrth gwrs. 

Recordiadau o'r gwasanaeth

Bydd rhai teuluoedd a chyfeillion mynwesol yn methu dod i'r gwasanaeth Angladdol ac fe wyddom y gall hyn beri gofid iddynt; mewn amgylchiadau fel hyn, fe allai fod yn gysur i deuluoedd wybod y gallwn ni gynnig amrywiaeth o gyfleusterau a all fod o gymorth yn yr achosion hyn. Fodd bynnag bydd rhaid talu ffi ychwanegol am hyn (gweler y Ffioedd a'r Taliadau).

Mae recordiadau o'r gwasanaethau ar gael i deuluoedd mewn gwahanol fformatau:-

CD Sain - Gellir gwneud cais am recordiad sain yn unig, ar yr adeg y mae'r trefniadau'n cael eu gwneud â'r Trefnydd Angladdau. Bydd y gwasanaeth yn cael ei recordio ac yna oddeutu 10-14 diwrnod wedi hynny, bydd CD Sain yn cael ei gynhyrchu. Unwaith y bydd y CD wedi cyrraedd, bydd y Trefnydd Angladdau yn trefnu ichi ddod i mo'yn y CD o Swyddfa Parc Gwyn neu fel arall gallwch wneud cais er mwyn i'r CD gael ei bostio atoch.

DVD - Gellir gwneud cais am recordiad fideo DVD ar yr adeg y mae'r trefniadau'n cael eu gwneud â'r Trefnydd Angladdau. Bydd y gwasanaeth yn cael ei recordio ac yna oddeutu 10-14 diwrnod wedi hynny, bydd, bydd DVD yn cael ei gynhyrchu. Unwaith y bydd y DVD wedi cyrraedd, bydd y Trefnydd Angladdau yn trefnu ichi ddod i mo'yn y DVD o Swyddfa Parc Gwyn neu fel arall gallwch wneud cais er mwyn i'r DVD gael ei bostio atoch.

Gwasanaeth angladdol - Ei wylio-o-bell trwy'r rhyngrwyd

Pan mae'r Ceisydd yn gwneud trefniadau'r angladd, ac yn gwneud cais am Amlosgiad, gall e/hi hefyd wneud cais am y cyfleuster gwylio-o-bell. Gyda'r cyfleuster hwn bydd y teuluoedd hynny na allant ddod i Barc Gwyn am ba reswm bynnag, yn gallu gwylio'r gwasanaeth ar-lein.

Os gwneir cais am y gwasanaeth hwn, bydd y Ceisydd am amlosgiad yn cael enw defnyddiwr unigryw, cyfrinair a chyfarwyddiadau gan y Trefnydd Angladdau, ac ni fydd yr un o'r rhain ar gael i'r cyhoedd. Fe fydd modd gwylio'r gwasanaeth yn fyw ar-lein am hyd at 7 diwrnod ar ôl y gwasanaeth; ond ni ellir gwneud hyn, hyd nes bydd 24 awr wedi mynd heibio, o'r adeg y daeth y gwasanaeth i ben. Bydd hyn yn galluogi ein darparwr i uwchlwytho'r recordiad ar eu gwefan.

Cyfrifoldeb y Trefnydd Angladdau a'r Ceisydd am Amlosgiad yw cael caniatâd ynghylch darlledu'r gwasanaeth. Bydd yn rhaid iddynt gael y caniatâd gan y person sy'n gweinyddu'r gwasanaeth angladdol.

Seinyddion allanol a sgriniau i'w gwylio pan fydd yr adeilad yn orlawn

Ar gyfer y gwasanaethau angladdol hynny pan mae mwy o alarwyr nag o seddau ar gael i bob un ohonynt yn yr adeilad, yna mae gyda ni sgriniau wedi eu dodi ar y wal y tu mewn i'r ystafell aros, yn y cyntedd wrth y fynedfa a'r tu fas hefyd o dan y porth cerbydau. Ar y cyd â'r sgriniau hyn mae gyda ni hefyd amryw seinyddion wedi eu dodi ar y waliau y tu fas i'r adeilad er mwyn i bawb sy'n bresennol yn y gwasanaeth allu ei glywed a sicrhau bod pawb hefyd yn gallu cymryd rhan ynddo. 

Sgrîn deyrnged

Erbyn hyn gallwch chi rannu eich atgofion am eich anwyliaid â phawb sy'n bresennol yn y Gwasanaeth Angladdol - a hynny i gyd yn rhad ac am ddim. Efallai y bydd teuluoedd yn dymuno darparu ffotograff digidol neu gasgliad o ffotograffau ar declyn cof bach USB er mwyn eu harddangos ar ein sgrîn fawr sydd wedi'i dodi ar y tu blaen i'n Capel. Os bydd mwy nag un ffotograff yn cael ei ddarparu yna gellir gosod y rhain er mwyn eu harddangos ar ffurf sioe ffilm.

Pan fyddwch chi'n crynhoi ffotograffau i'w cadw er mwyn eu dodi ar gof bach USB, cofiwch ddilyn y camau canlynol er mwyn sicrhau bod eich ffotograffau'n llwyddiannus ar y diwrnod:

  • Peidiwch â dodi'r ffotograffau mewn ffolder ar y cof bach.
  • Gwnewch yn siŵr taw dim ond ffotograffau ar fformat .jpeg /.jpg ydynt.
  • Os bydd y ffotograffau wedi cael eu golygu gan ddefnyddio Photoshop, yna pan ydych yn cadw'r ffeil cofiwch sicrhau nad yw'r fformat yn cael ei newid yn ffeil .jpeg dilyniadol gan na fydd y ffeil, wedi hynny, yn cael ei chydnabod ar y sgrîn.
  • Dylech sicrhau nad oes unrhyw fodd gwarchod data wedi cael ei roi ar waith ar y ffeil nac ar y cof bach chwaith.
  • Cofiwch hyn - mae wastad croeso ichi ddod â'r cof bach atom ymlaen llaw er mwyn rhoi prawf arno pan na fydd neb yn defnyddio'r Capel. Er mwyn eich cynorthwyo i wneud hyn, gallwch roi galwad ffôn sydyn i'n swyddfa.
  • Byddwch cystal â rhoi'r cof bach ymlaen llaw i'ch Trefnydd Angladdau, cyn y gwasanaeth.

 

ID: 158, adolygwyd 11/09/2023