Amlosgfa
Ffoedd a Thaliadau Parc Gwyn
Talu Ffioedd
Mae ffioedd yn daladwy dros
- y ffôn (01834) 860622
- drwy'r post neu yn bersonol yn Swyddfa Parc Gwyn, Arberth, Sir Benfro, SA67 8UD.
Rydym yn derbyn taliad â cherdyn credyd/debyd, siec (yn daladwy i Gyngor Sir Penfro) neu arian parod.
Ffi safonol yr amlosgfa - Gwasnaeth a fynychir: £860.00
Gwasanaeth dydd Llun – dydd Gwener 9.15am i 3.15pm i bobl 18 oed a hŷn.
Mae pob slot archebu yn 45 munud, ac yn cynnwys amser gwasanaeth a ganiateir o 30 munud yn unig; yr amser sy'n weddill yw ar gyfer mynd i mewn a gadael ein capel a'i baratoi ar gyfer y gwasanaeth canlynol.
Noder: Uchafswm maint yr arch (gan gynnwys dolenni) yw 84" o hyd X 41" o led X 27" o uchder
Mae’r ffi yn cynnwys y canlynol:
- Cerddoriaeth trwy ein system gerddoriaeth ddigidol (Wesley Media)
- Detholiad o emynau Cymraeg a Saesneg a chwaraeir gan ein horganydd preswyl
- Gordal amgylcheddol; ffi canolwr meddygol
- Casglu’r llwch gan y Trefnwr Angladdau / Ymgeisydd / Cynrychiolydd Enwebedig
- Casged llwch bioddiraddiadwy; storio’r llwch am fis; tystysgrif amlosgi
- Claddu’r llwch yn ddi-dyst yn ein Gerddi Coffa
Amlosgfa heb neb yn mynychu (amlosgi uniongyrchol, h.y. ni chynhelir gwasnaeth): £703.50
Rhwng dydd Llun a dydd Gwener i bobl 18 oed a hŷn, a rhaid archebu slot bore cyn 9.15am a rhaid danfon yr arch cyn 9am ar y diwrnod a archebwyd. Mae danfon ymlaen llaw yn bosibl ond bydd yn destun ein ffi storfa oer fel y dangosir yn ein ffioedd ychwanegol.
Mae’r ffi yn cynnwys y canlynol:
- Gordal amgylcheddol; ffi canolwr meddygol
- Casglu’r llwch gan y Trefnwr Angladdau / Ymgeisydd / Cynrychiolydd Enwebedig
- Casged llwch bioddiraddiadwy; storio’r llwch am fis; tystysgrif amlosgi
- Claddu’r llwch yn ddi-dyst yn ein gerddi coffa
Babi (dan 24 wythnos o feichiogrwydd) a marw-anedig (24 wythnos o feichiogrwydd a throsodd): Dim tâl
Gwasanaeth dydd Llun – dydd Gwener 9.15am / 10am Mae pob slot archebu yn 45 munud, ac yn cynnwys amser gwasanaeth a ganiateir o 30 munud yn unig; yr amser sy'n weddill yw ar gyfer mynd i mewn a gadael ein capel a'i baratoi ar gyfer y gwasanaeth canlynol. Mae amlosgiad uniongyrchol heb wasanaeth hefyd ar gael os yw'n well gennych.
Mae’r gwasanaeth am ddim yn cynnwys y canlynol:
- Cerddoriaeth trwy ein system gerddoriaeth ddigidol (Wesley Media)
- Detholiad o emynau Cymraeg a Saesneg a chwaraeir gan ein horganydd preswyl
- Gordal amgylcheddol; ffi canolwr meddygol
- Os ceir y llwch, casgliad gan y trefnwr angladdau / ymgeisydd / cynrychiolydd enwebedig
- Casged llwch bioddiraddiadwy; storio’r llwch am fis; tystysgrif amlosgi
- Claddedigaeth â thystion neu ddi-dyst o'r llwch yn ein Gardd Coffa i Blant rhwng dydd Llun a dydd Gwener
Plentyn (dan 18 oed): Dim tâl
Gwasanaeth dydd Llun – dydd Gwener 9.15am i 3.15pm
Mae pob slot archebu yn 45 munud, ac yn cynnwys amser gwasanaeth a ganiateir o 30 munud yn unig; yr amser sy'n weddill yw ar gyfer mynd i mewn a gadael ein capel ac i ni ei baratoi ar gyfer y gwasanaeth canlynol.
Mae amlosgiad uniongyrchol heb wasanaeth hefyd ar gael os yw'n well gennych.
Mae’r gwasanaeth am ddim yn cynnwys y canlynol:
- Cerddoriaeth trwy ein system gerddoriaeth ddigidol (Wesley Media)
- Detholiad o emynau Cymraeg a Saesneg a chwaraeir gan ein horganydd preswyl
- Gordal amgylcheddol; ffi canolwr meddygol
- Casglu’r llwch gan y trefnwr angladdau / ymgeisydd / cynrychiolydd enwebedig
- Casged llwch bioddiraddiadwy; storio’r llwch am fis; tystysgrif amlosgi
- Claddedigaeth â thystion neu ddi-dyst o'r llwch yn ein gerddi coffa rhwng dydd Llun a dydd Gwener
Ffioedd Ychwanegol
Gordal ar gyfer gwasanaeth 4pm yn ystod yr wythnos(18 oed a hŷn):£67.50 (ynghyd â'r ffi safonol)
Gwasanaeth dwbl - amser gwasnaeth ychwanegol o 30 muned (i gynnwys pob oed)
- Dydd Llun – dydd Gwener o 10am i 3.15pm: £134.50 (ynghyd â'r ffi safonol)
- Dydd Llun – dydd Gwener – slot ychwanegol am 4pm: £203.00 (ynghyd â'r ffi safonol)
Gordal ar gyfer gwasnaeth Dydd Sadwrn: 18 a hŷn
- 10.45am – 1pm: £270.00 (ynghyd â'r ffi safonol)
- Gwasanaeth dwbl, amser gwasanaeth o 30 munud ychwanegol, ar gael ar gyfer gwasanaethau rhwng 10.45am a 12.15pm: £405.00 (ynghyd â'r ffi safonol)
Defnyddio'r cyfleuster storio eirch cyn diwrnod yr amlosgi am hyd at 24 awr: £19.50
Cadw gweddillion dros dro fesul mis – mis cyntaf am ddim: £8.00
Cyflenwi yrnau a chynhwysyddion ar gyfer storio'r llwch
- Podau gwasgaru bioddiraddiadwy: mawr £21.00 / bach £8.00
- Casged bioddiraddiadwy: £8.00
- Wrn metel: mawr £29.50 / bach £16.00
- Casged pren: mawr £38.00 / bach £16.00
Recordiadau o'r gwasanaeth
- Gweddarllediad byw – yn cynnwys cyfleuster chwarae yn ôl 7 diwrnod: £54.50
- Dolen i lawrlwytho ffeil MP4: £34.00
- Recordiad fideo personol ar naill ai DVD / cof bach USB: £54.50 Copïau ychwanegol £27.25
- Recordiad sain yn unig personol ar gryno ddisg sain: £45.50 Copïau ychwanegol £22.50
Claddedigaeth yn ein gardd goffa(dydd Llun – dydd Gwener)
- Claddedigaeth â thystion – yn dilyn amlosgiad ym Mharc Gwyn: £29.50
- Claddedigaeth â thystion – yn dilyn amlosgiad mewn amlosgfa arall: £107.50
- Claddedigaeth heb dystion – yn dilyn amlosgiad mewn amlosgfa arall: £77.50
Cofebion yr amlosgfa
Cofnod yn y llyfr coffa
- Cofnod dwy linell dros byth: £58.00
- Cofnod pum llinell dros byth: £102.00
- Cofnod wyth llinell dros byth: £145.00
- Cofnod pum llinell dros byth, gyda darluniad: £181.00
- Cofnod wyth llinell dros byth, gyda darluniad: £225.00
e-lyfr coffa
- Cardiau allwedd: £14.50
- Darluniau ychwanegol yn yr ‘e-lyfr’, fesul sgrin: £42.50
- Copi wedi'i lamineiddio o arysgrif o’r ‘e-lyfr’: £7.40
Cardiau coffa/triptychau coffa
- Cerdyn coffa (cost yr arysgrif i'w hychwanegu fel isod): Dim tâl
- Triptych wedi'i rwymo â brethyn (cost yr arysgrif i'w hychwanegu fel isod): £24.50
- Triptych wedi'i rwymo â lledr (cost yr arysgrif i'w hychwanegu fel isod): £33.00
- Arysgrif dwy linell: £24.50
- Arysgrif pum llinell: £28.50
- Arysgrif wyth llinell £38.00
- Darlun wedi'i beintio â llaw: £80.50
- Gosod ffotograff neu ddarlun mewn triptych: £20.50
- Poced tudalen, triptych wedi'i rwymo â brethyn yn unig: £6.00
Placiau wal
Placiau gwenithfaen du caboledig 6” x 4” wedi'u gosod ar wal goffa yn ardal y cwrt torch.
Mae pob plac yn cynnwys arysgrif pum llinell. Fe'u prynir i ddechrau gyda les deng mlynedd; pan ddaw i ben, gallwch naill ai adnewyddu neu gasglu eich plac.
pryniant cychwynnol: £378.50
adnewyddu deng mlynedd: £252.33
Placiau wal (gardd coffa i blant)
yn cynnwys arysgrif hyd at pum llinell, neu fel arall gallwch ddewis arysgrif fyrrach gydag arwyddlun Rhosyn neu Dedi; ei brynu gyda les 10 mlynedd, a phan ddaw i ben gallwch naill ai adnewyddu neu gasglu eich plac.
pryniant cychwynnol: £107.50
adnewyddu deng mlynedd: £71.66
Cyrsiau coffa
Mae cyrbau gwenithfaen llwyd caboledig ar hyd ymylon ein llwybrau troed yn y gerddi coffa. Mae arysgrif pedair llinell ar bob cwrbyn. Fe'u prynir i ddechrau gyda les deng mlynedd; pan ddaw i ben, gallwch naill ai adnewyddu neu gasglu eich cwrbyn.
pryniant cychwynnol: £460.50
adnewyddu deng mlynedd: £307.00
Arysgrif ychwanegol- Yn berthnasol i hen gyrbau sengl yn unig: £86.00
Coeden bywyd
Gold coloured memorial leaf 4” x 1 ½”. Memorial leaves are placed on our hand-sculptured tree of life, which can be found wall mounted within our Chapel of Remembrance; each leaf accommodates a 5-line inscription; initially purchased with a 5-year lease, upon expiry either renew or collect your leaf.
pryniant cychwynnol: £128.00
adnewyddu deng mlynedd: £85.33