Amlosgfa
Gwasanaethau Angladdol
Cynhelir gwasanaethau angladd o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.15am a 4pm. Mae pob slot a neilltuir yn 45 munud sy’n caniatáu gwasanaeth o 30 munud yn unig. Mae’r amser sy’n weddill ar gyfer mynd i mewn ac allan o’n Capel a’i baratoi ar gyfer y gwasanaeth sy’n dilyn. Mae gwasanaethau dydd Sadwrn ar gael ar gais, rhwng 10.45am ac 1pm.
Mae trefn y gwasanaethau yn syml a pharchus, pa un a yw’r angladd yn grefyddol neu’n seciwlar. Mae ystafell aros ar gael gyferbyn â mynedfa Capel yr Amlosgfa. Bydd yr alarwyr yn ymgynnull ym mynedfa Capel yr Amlosgfa, lle byddant yn cael eu cyfarch gyda Swyddog y Capel a’r gweinidog neu’r gweinyddwr. Caiff yr arch ei thynnu o’r hers a’i dodi ar elor.
Pan mae pawb yn barod bydd y swyddog a’r elorgludwyr yn gwthio’r elor ar olwynion i mewn i’r Capel, gyda’r galarwyr yn eu dilyn. Caiff yr arch ei dodi mewn cilfach â gât, a dyna lle bydd hi’n aros ar gyfer rhan gyntaf y gwasanaeth. Yna bydd yr alarwyr yn mynd i eistedd. Ar hyn bydd yr arch a’i chynnwys yn cael eu dodi yng ngofal yr Amlosgfa. Yn ystod rhan briodol o’r gwasanaeth, bydd llenni’n cael eu tynnu ar draws y gilfach, fel arfer gan guddio’r arch o’r golwg.
Ar ddiwedd y gwasanaeth bydd yr alarwyr yn mynd mas trwy ddrws yn ochr y Capel. Mae hyn yn mynd â hwy at y gwelfan ar gyfer torchau a blodeugedau, ar bwys yr ardd ddwˆ r gyda’i ffownten a’i baddon adar. Caiff torchau eu cadw yma am un wythnos er mwyn i alarwyr allu eu gweld ar ôl diwrnod y gwasanaeth.
Canllaw Gwasanaeth
Darperir y ddogfen hon fel cofnod i Staff Amlosgfa, Cyfarwyddwyr Angladdau, Gweinidogion ac aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Fe adolygir y canllaw o bryd i'w gilydd ac fe groesawn sylwadau ac awgrymiadau am newidiadau neu ychwanegion.