Amlosgfa
Cysylltwch â ni
Lleolir Amlosgfa Parc Gwyn ddwy filltir i’r dwyrain o Arberth ac ugain milltir i’r gorllewin o Gaerfyrddin. Y ffordd orau o fynd yno yw o gylchfa Penblewin ar yr A40, lle mae’r A478 yn cwrdd â’r ffordd honno.
Mae Gorsaf Reilffordd Arberth filltir a hanner o Barc Gwyn. Mae National Express yn gweithredu gwasanaethau bysiau o
Lundain a Birmingham i Gilgeti, sydd chwe milltir i’r de o Barc Gwyn. Mae gwasanaethau bysiau a thacsis lleol ar gael o Gilgeti i Arberth.
Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni yn:
Swyddfa Amlosgfa Parc Gwyn
Arberth
SA67 8UD
Ffôn: (01834) 860622
E-bost: parcgwyn@pembrokeshire.gov.uk
ID: 2566, adolygwyd 22/02/2023