Amlosgfa
Amlosgfa Parc Gwyn
Cafodd Amlosgfa Parc Gwyn ei hagor ym 1968 am fod galw amdani ymysg y cyhoedd. Ers y dyddiad hwnnw cynhaliwyd mwy na 40,000 o amlosgiadau yma. Erbyn hyn bydd y rhan fwyaf o bobl yn Sir Benfro yn dewis cael eu hamlosgi ar ôl iddynt farw.
Lleolir gerddi’r amlosgfa yng nghefn gwlad tonnog Sir Benfro ym mhen draw cwm, sydd wedi’i lunio’n lawnt, a choed ar ei hyd; yma a thraw mae gerddi cerrig a choed a phrysglwyni addurnol. Oddi yna gallwch weld y Preseli, yr ardal y daeth meini Côr y Cewri ohoni. Ar bwys capel yr amlosgfa mae pwll ac ynddo mae cerpynnod Koi a roddwyd gyda’r cyhoedd.
Mae parc yr amlosgfa ar agor i'r cyhoedd bob diwrnod o'r flwyddyn. Mae mynediad i'r parc a'r Capel Coffa ar gael o 10.00am-5.00pm. (O fis Tachwedd tan fis Ionawr bydd y Parc a'r Capel Coffa yn cau am 4.00pm).
Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Banc. Gellir gwneud ymholiadau ynghylch trefniadau angladdau, prynu coffadwriaethau ac ymholiadau cyffredinol yn y swyddfa rhwng 9.00am - 5.00pm (4.30pm ar ddydd Gwener). Gellir hefyd trefnu i ddangos arysgrifau yn y Llyfr Coffa i ymwelwyr sy’n canfod nad yw’r Llyfr wedi’i agor ar y dudalen y maen nhw am ei gweld. Gellir gwneud ceisiadau i weld y Llyfr ar benwythnosau trwy apwyntiad.
Gall defnyddwyr cadeiriau olwyn fynd i’r amlosgfa a’r adeiladau cyfagos. Mae cadair olwyn ar gael i’w defnyddio gyda’r cyhoedd. Cafodd system ddolen ei dodi yng Nghapel yr Amlosgfa ar gyfer pobl sy’n defnyddio cymhorthion clywed.
Lleolir y Capel Coffa ym mhen yr amlosgfa, gyferbyn i’r Prif Gapel. Mae’n darparu lle i ymwelwyr arddangos blodeugedau, ac i weld y Llyfr Coffa.