Amlosgfa
Siarter Cwsmeriaid yr Amlosgfa
Mae Amlosgfa Parc Gwyn yn sefyll rhyw ddwy filltir o Arberth. Bydd amlosgiadau'n cael eu cynnal o ddydd Llun i Ddydd Sadwrn, ac mae’r tiroedd ar agor i ymwelwyr 7 diwrnod yr wythnos. Yn ystod y cyfnod 1 Tachwedd i 31 Ionawr, ymwelwyr gall alw rhwng 10:00am a 4:00pm ac o 1 Chwefror i 31 Hydref, yr oriau yw 10:00am i 5:00pm. Mae digonedd o le parcio a thoiledau cyhoeddus ar gael.
Gallwch ddisgwyl:
- Gwasanaeth effeithiol a chwrtais a fydd yn bodloni eich anghenion;
- Yr hawl i drefnu angladd yn unol â'ch dymuniadau;
- Cyngor gan aelodau staff hyfforddedig sy wedi'u cymhwyso'n briodol;
- Cymorth i drefnu angladd heb Ymgymerwr Angladd, os dymunwch;
- Gwasanaeth angladdol i'w gynnal mewn modd urddasol;
- Bydd yr amlosgiad bob amser yn digwydd o fewn 24 awr ar ôl y gwasanaeth oni chytunwyd yn wahanol ymlaen llaw;
- Cael ateb i unrhyw gyfathrebu o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais
Ym mis Tachwedd 1999, mabwysiadodd Cyngor Sir Penfro Siarter y Galarwyr. Mae'r ddogfen hon yn dangos 33 o hawliau bod y gall galarwyr eu harfer. Mae modd prynu copïau o'r Siarter o Swyddfa'r Amlosgfa.
A wyddech chi?
- Y cynhelir tua 1,300 o amlosgiadau ym Mharc Gwyn bob blwyddyn. Yn y tymor hir mae'r Amlosgfa yn cynnal ei hun ac nid yw'n cael arian o Dreth y Cyngor. Mae gan yr amlosgfa offer arbenigol ar gyfer amlosgi sy'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol diweddaraf diogelwch yr amgylchedd. Mae'r costau gweithredu blynyddol dros £400,000.
- Mae Parc Gwyn yn aelod o Ffederasiwn Awdurdodau Amlosgi ac yn gweithredu'n unol â'u Cod Ymarfer.
Sut y gallwch ein helpu
- Dangoswch barch at y cyfleuster.
- Peidiwch â pharcio fel ag i rwystro cerbydau eraill rhag symud neu yn y ffyrdd lle gallwch rwystro mynediad i wasanaethau tân neu ambiwlans mewn argyfwng. Gall y cerbyd a rwystrwyd fod yn berchen i rywrai yn mynychu'r gwasanaeth blaenorol a byddwch yn eu hatal rhag gadael am hyd at dri chwarter awr gan beri gofid mawr iddynt.
- Caniateir ysmygu ar diroedd yr Amlosgfa, ond defnyddiwch y blwch llwch sy'n cael ei ddarparu ar gyfer bonion sigaréts os byddwch angen ysmygu cyn mynd i’r Capel, os gwelwch yn dda.
- Gall gwasanaeth fod yn dilyn yn union ar ôl eich un chi, felly, ar ôl mynychu gwasanaeth, dylech adael yr ardal a neilltuwyd ar gyfer blodau mor fuan ag y gallwch. Pan fo gwasanaeth ar fynd, cofiwch y gall sgyrsiau uchel boeni galarwyr eraill.
- Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion, cysylltwch â’r Uwch-arolygydd a Chofrestrydd fydd yn barod i wrando a gwneud ei orau i ddatrys unrhyw broblemau.
ID: 159, adolygwyd 22/02/2023