Amlosgfa
Yngln ag Amlosgi
Faint o bobl sy'n cael eu hamlosgi heddiw ym Mhrydain Fawr?
A oes unrhyw garfan grefyddol yn gwahardd amlosgi?
A yw amlosgi'n fwy drud na chladdu?
Pa wasanaeth crefyddol allaf ei gael gydag amlosgiad?
Sut mae amlosgiad yn cael ei drefnu?
A oes modd trefnu amlosgiad heb wasanaethau trefnydd angladdau?
A oes rhaid i berthnasau benderfynu'r adeg yma ynglŷn â chael gwared â gweddillion amlosgedig?
Beth yw'r dewisiadau arferol ar gyfer cael gwared â gweddillion amlosgedig?
Beth yw Gardd Goffa a pha gyfleusterau allai hi eu cynnig?
Pa gyfleusterau coffa sydd ar gael mewn amlosgfeydd?
Beth yw'r drefn yn yr amlosgfa ar ddydd yr angladd?
Beth sy'n digwydd i'r arch wedi'r traddodi?
Pa mor fuan wedi'r gwasanaeth fydd yr amlosgi'n digwydd?
A yw'r arch yn cael ei hamlosgi gyda'r corff bob tro?
Sut mae gweddillion amlosgedig yn cael eu cadw ar wahân?
Gall perthnasau wylio gosod yr arch yn y llosgydd?
Beth sy'n digwydd i'r gweddillion amlosgedig wedi'r amlosgi?
A ddylid gadael gemau ar gorff sydd i'w amlosgi?
A oes modd amlosgi mwy nag un corff ar y tro?
A yw eirch yn cael eu gwerthu'n ôl i drefnwyr angladdau ar gyfer eu defnyddio eto?
A oes modd i mi ymweld ag amlosgfa i weld yr hyn sy'n digwydd ‘tu draw i'r llen'?
Lle caf ragor o wybodaeth am amlosgi?
Faint o bobl sy'n cael eu hamlosgi heddiw ym Mhrydain Fawr?
Bu rhagor o amlosgiadau na chladdedigaethau am y tro cyntaf ym 1968. Ers hynny mae amlosgi wedi cynyddu'n sylweddol. Mae'r ffigyrau presennol yn awgrymu bod oddeutu 70% o'r holl angladdau yn amlosgiadau, gyda mwy na hynny yn y trefi.
A oes unrhyw garfan grefyddol yn gwahardd amlosgi?
Mae pob enwad Cristnogol erbyn hyn, yn cynnwys yr Eglwys Babyddol, yn caniatáu amlosgi. Hyn hefyd yw'r dull traddodiadol o gael gwared â chyrff y meirw gan y Siciaid, yr Hindŵiaid, y Parsïaid a'r Bwdistiaid. Fodd bynnag, mae'r Iddewon Uniongred a'r Mwslemiaid yn ei wahardd.
A yw amlosgi'n fwy drud na chladdu?
Nag yw. Mae ffioedd amlosgi a chladdu'n amrywio'n fawr o ardal i ardal, ond fel arfer mae amlosgi'n rhatach na chladdu, yn enwedig o ystyried y gost o brynu bedd. Yr unig daliadau ychwanegol yw'r rhai am lofnodion meddygon i ganiatáu'r amlosgi. Mae angen y rhain oherwydd nid oes modd archwilio'r corff eto wedi ei amlosgi, tra bydd modd datgladdu corff a gladdwyd bob amser os bydd amheuaeth ynglŷn â pham y bu farw.
Pa wasanaeth crefyddol allaf ei gael gydag amlosgiad?
Mae'r gwasanaeth amlosgi safonol yr un fath ag ar gyfer claddu, heblaw am y geiriau a ddefnyddir wrth draddodi. Gellir cynnal y gwasanaeth mewn addoldy arall gyda gwasanaeth traddodi byr yng nghapel yr amlosgfa, neu mae modd cynnal y gwasanaeth i gyd yng nghapel yr amlosgfa. Fel arall, gellir cynnal defod anghrefyddol neu sifil ar gyfer nifer fawr o bobl neu ddefod breifat ar gyfer aelodau unigol o'r teulu neu gyfeillion. Mae'n well gan rai pobl beidio â chael gwasanaeth o gwbl.
Sut mae amlosgiad yn cael ei drefnu?
Mae angen gwneud nifer o drefniadau yn dilyn marwolaeth. Fel arfer, yr ysgutor neu'r perthynas byw agosaf sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb. Ar adeg mor dorcalonnus mae'r rhan fwyaf yn mynd at drefnydd angladdau proffesiynol a fydd yn gwneud y trefniadau ar eu rhan. Fel arfer, bydd y trefnydd yn trafod yr hyn sydd ei angen gyda'r teulu a bydd yn helpu i wneud y gwaith papur sydd ei angen a bydd yn talu'r gwahanol ffioedd o flaen llaw.
Bydd y trefnydd angladdau hefyd yn gwneud y trefniadau ymarferol ar gyfer casglu'r corff a bydd yn cael y tystysgrifau meddygol angenrheidiol. Bydd rhaid, fodd bynnag, i'r ysgutor gofrestru'r farwolaeth a bydd y trefnydd angladdau yn darparu'r wybodaeth i helpu i gyflawni'r ddyletswydd honno.
A oes modd trefnu amlosgiad heb wasanaethau trefnydd angladdau?
Oes. Mae'r ysgutor neu'r perthynas byw agosaf yn gallu trefnu'r amlosgiad eu hunain. Bydd amlosgfeydd fel Parc Gwyn sy'n aelodau o Siarter Galarwyr y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (yr ICCM) yn cynnig cyngor i bobl sy'n trefnu amlosgiad heb wasanaethau trefnydd angladdau.
A oes rhaid i berthnasau benderfynu'r adeg yma ynglŷn â chael gwared â gweddillion amlosgedig?
Fel arfer mae hyn yn ddewisol yr adeg yma. Bydd y trefnydd angladdau yn trafod gyda'r perthnasau y trefniadau eraill y gellid eu dilyn ar gyfer cael gwared â gweddillion amlosgedig. Gofynnir i'r ysgutor, y perthynas byw agosaf neu rywun arall sy'n gwneud y trefniadau (a elwir yr "Ymgeisydd am Amlosgiad") lofnodi dogfen sy'n rhoi gwybod i'r amlosgfa beth yw eu dymuniadau. Os nad ydynt wedi penderfynu bydd modd cadw'r gweddillion amlosgedig, un ai yn yr amlosgfa neu yn adeilad y trefnydd angladdau, i ddisgwyl penderfyniad.
Beth yw'r dewisiadau arferol ar gyfer cael gwared â gweddillion amlosgedig?
Mae pob amlosgfa yn cynnig Gardd Goffa lle gellir gwasgaru gweddillion amlosgedig. Ym Mharc Gwyn yr arfer bob tro yw claddu'r gweddillion, ond mae rhai amlosgfeydd yn gwasgaru'r lludw. Mae rhai amlosgfeydd yn cynnig cilfachau lle gellir cadw gweddillion am gyfnodau byr, weithiau gyda theyrngedau coffa personol.
Gellir mynd â'r gweddillion amlosgedig o'r amlosgfa mewn llestr addas i gael gwared â hwy yn rhywle arall. Gallai hyn gynnwys eu claddu mewn bedd mewn mynwent, eu gwasgaru mewn amlosgfa arall neu eu gwasgaru'n breifat mewn man arbennig y mae'r teulu wedi ei dewis. Dylid cael caniatâd yr awdurdod priodol ar gyfer pob un o'r rhain.
Beth yw Gardd Goffa a pha gyfleusterau allai hi eu cynnig?
Mae Gerddi Coffa yn fannau arbennig, ar bwys yr amlosgfa fel arfer, wedi eu neilltuo ar gyfer cael gwared â gweddillion amlosgedig. Maent yn cael eu defnyddio'n barhaus ar gyfer hyn ac oherwydd hynny efallai ni fydd modd neu fe allai fod yn amhriodol nodi'n union lle mae gweddillion amlosgedig unigol. Mae'r gerddi fel arfer wedi eu trefnu i gynnig cyrchfan ar gyfer ymwelwyr a gallent gynnwys amrywiaeth o gyfleusterau coffa.
Pa gyfleusterau coffa sydd ar gael mewn amlosgfeydd?
Mae gan bob amlosgfa ryw fath o gyfleuster coffa. Y math mwyaf arferol o gofeb barhaol yw'r Llyfr Coffa. Mae'r llyfr hwn i'w weld fel arfer mewn capel coffa arbennig ac mae'r cofnodion ar gael i'w gweld un ai'n rhan o'r drefn arferol ar ddyddiad y farwolaeth neu ar gais. Ym Mharc Gwyn maent wedi ychwanegu fersiwn ddigidol at y cyfleuster hwn. Gellir gweld cyflwyniadau ysgrifenedig yn y Llyfr Coffa fel llun digidol y gellir ychwanegu ato ddeunydd arall fel llun o'r ymadawedig neu hanes eu bywydau. Mae cardiau hefyd y gellir gosod copi o'r cyflwyniad ysgrifenedig gwreiddiol arnynt a waledi coffa y gellir dodi cyflwyniad ysgrifenedig arnynt neu luniau ffotograffig hefyd.
Mae llawer o amlosgfeydd yn cynnig gosod placiau o garreg neu fetel mewn waliau neu balmentydd, a gellir cysegru rhosod, coed a phrysgoed yn gofebion. Mae'r cofebion hyn yn cael eu cysegru fel arfer am gyfnodau penodol y gellir eu hestyn trwy gytundeb. Derbynnir rhoddion yn aml ar gyfer darparu pethau sydd i'w defnyddio yn yr amlosgfa neu i harddu'r adeiladau neu'r tiroedd.
I gael manylion cofebion ym Mharc Gwyn dylech gysylltu â swyddfa'r amlosgfa neu ymweld â thudalennau'r amlosgfa. Dylai'r trefnydd angladdau wybod am y dewisiadau o gofebion sydd ar gael, ond bydd ymholi'n uniongyrchol yn sicrhau y cewch y manylion i gyd. Yr arfer yw anfon y manylion hyn at yr "Ymgeisydd am Amlosgi" yn dilyn yr amlosgi. Ym Mharc Gwyn gwneir hyn bythefnos yn ddiweddarach oni bai fod yr "Ymgeisydd am Amlosgi" yn gwneud cais gwahanol.
Beth yw'r drefn yn yr amlosgfa ar ddydd yr angladd?
Bydd y galarwyr yn ymgynnull fel arfer yn yr amlosgfa, yn yr ystafell aros neu ar bwys mynedfa'r capel ychydig funudau cyn yr amser y mae gwasanaeth yr angladd i fod i ddechrau. Nid yw'n arferol i'r gwasanaeth gychwyn cyn yr amser a hysbysebwyd. Pan fydd y prif alarwyr yn barod i ddechrau, bydd y trefnydd angladdau a'i gynorthwywyr yn mynd â'r arch i mewn i'r capel. Gallai aelodau'r teulu ofyn am wneud hyn.
Dodir yr arch fel arfer ar y cataffalc. (Mae hwn yn llwyfan uchel mewn lle cyfleus gydag olwynion bach i hwyluso symud yr arch adeg y traddodi.) Bydd y galarwyr yn cael eu cyfeirio at eu seddi ac yna bydd y gwasanaeth yn dechrau. Yr union amser yn ystod y gwasanaeth y bydd traddodi'r corff yn digwydd, gellir cuddio'r arch gyda llenni neu fynd â hi mas o'r capel. Ar ddiwedd y gwasanaeth bydd y galarwyr yn mynd mas o'r capel ac yna byddant yn gallu edrych ar y teyrngedau blodeuog.
Yng Nghapel Parc Gwyn nid oes cataffalc sefydlog. Cludir yr arch fel arfer ar elor ddu neu drol i gilfach ger allor y capel. Gyda'r traddodi, tynnir llen ar draws i guddio'r arch.
Beth sy'n digwydd i'r arch wedi'r traddodi?
Cludir yr arch mas i'r ystafell draddodi lle bydd gweithwyr yr amlosgfa yn darllen y plât enw'n ofalus i sicrhau mai'r corff cywir sydd yno. Yna trosglwyddir yr arch ar elor arbennig gydag olwynion bach i hwyluso dodi'r arch yn yr amlosgydd. Gallai'r elor fod yn un sy'n hwyluso llwytho gyda llaw neu'n awtomatig. Pa un bynnag yw'r dull a ddefnyddir, gellir dodi'r arch yn yr amlosgydd gydag urddas, ond heb beryglu gweithwyr yr amlosgfa yn ddiangen.
Pa mor fuan wedi'r gwasanaeth fydd yr amlosgi'n digwydd?
Digwydd corfflosgiad yr ymadawedig gan amlaf gynted â phosib wedi'r gwasanaeth angladdol. Ond mewn rhai amgylchiadau mae'n bosib y bydd angen aros tan fore trannoeth am resymau amgylcheddol a gweithredol. Mewn amgylchiadau o'r fath caiff y corff bob amser ei gadw'n ddiogel a pharchus dros nos yn yr amlosgfa a digwydd yr amlosgi o fewn 24 awr i'r gwasanaeth yn unol â'n Cod Ymddygiad.
A yw'r arch yn cael ei hamlosgi gyda'r corff bob tro?
Ymhob achos caiff corff yr ymadawedig a'r arch eu llosgi yn union fel y maen nhw'n ein cyrraedd ni. Ni aflonyddir ar y gweddillion yn ystod y broses o amlosgi a chaiff yr hyn sy ar ôl wedi'r broses eu casglu ar wahân. Ond mae'r hyn sy ar ôl yn aml yn cynnwys mewnblaniadau meddygol metel sydd yn draddodiadol yn cael eu claddu yn nhir yr amlosgfa wedi cwblhau'r amlosgiad. Cadarnhaodd cyngor cyfreithiol diweddar mai eiddo ystâd yr ymadawedig yw mewnblaniadau o'r fath a dylid sicrhau caniatâd yr ysgutor cyn eu gwaredu. Ym Mharc Gwyn nawr gofynnir am hyn pan drefnir yr angladd. Dros gyfnod o amser gall y mewnblaniadau hyn gael effaith amgylcheddol andwyol ac ymunodd Parc Gwyn â nifer o amlosgfeydd eraill mewn cynllun ailgylchu cenedlaethol dielw i ailddefnyddio'r metelau hyn er budd eraill a diogelu'r amgylchedd. Cyfrannwyd sawl mil o bunnoedd i elusennau sy'n delio â chleifion sy'n ddifrifol wael ac i sefydliadau eraill sy'n ymwneud â phrofedigaeth.
Sut mae gweddillion amlosgedig yn cael eu cadw ar wahân?
Dim ond un arch ar y tro y mae amlosgydd yn gallu ei derbyn ac mae'r holl weddillion yn cael eu symud o'r amlosgydd cyn yr amlosgiad nesaf. Pan ddodir yr arch yn yr amlosgydd, gosodir y cerdyn adnabod ar yr amlosgydd ar bwys lle bydd y lludw'n cael eu tynnu mas wedi'r amlosgi. Yna bydd y cerdyn yn mynd gyda'r lludw hyd nes y ceir gwared â hwy'n derfynol neu eu symud mas o'r amlosgfa. Defnyddir cerdyn adnabod trwy'r broses i gyd hyd at yr ymwared terfynol, sy'n sicrhau bod gyda ni'r lludw iawn.
Gall perthnasau wylio gosod yr arch yn y llosgydd?
Gosodwyd TCC ym Mharc Gwyn i alluogi gweld yr arch yn cael ei gosod. Mewn rhai amlosgfeydd ceir man gwylio sy'n edrych i lawr ar y llosgyddion neu mae'n bosib y gwnân nhw ganiatáu grŵp o dan oruchwyliaeth i mewn i'r ystafell amlosgi i weld y traddodi. Gan amlaf rhaid trefnu hyn ymlaen llaw er mwyn gwneud paratoadau. Yn anffodus nid yw cynllun yr adeilad ym Mharc Gwyn yn caniatáu cyfle o'r fath. Mae'r ystafell amlosgi'n rhy fach i ganiatáu mynediad i'r cyhoedd yn ystod yr amlosgi a does dim man gwylio cyfleus.
Beth sy'n digwydd i'r gweddillion amlosgedig wedi'r amlosgi?
Mae'r gyfraith sy'n ymwneud ag amlosgi yn mynnu y ceir gwared â gweddillion amlosgedig yn unol â chyfarwyddiadau ysgrifenedig yr "Ymgeisydd ar gyfer Amlosgi". Fel arfer, nid oes angen penderfynu ar frys lle bydd y gweddillion yn gorffwys yn derfynol. Mae gan y rhan fwyaf o amlosgfeydd gyfleuster ar gyfer cadw'r gweddillion hyd nes gwneir penderfyniad. Pe na fyddai amlosgfa yn clywed am benderfyniad wedi i gyfnod o amser fynd heibio fe allech chi dderbyn llythyr yn gofyn a ydych chi'n barod i fynd ymlaen. Os nad ydych chi, does dim ond rhaid i chi ddweud wrth yr amlosgfa bod eisiau rhagor o amser arnoch chi. (Efallai bydd rhaid talu). Pe na fyddai'r amlosgfa'n derbyn ateb i'w llythyr, yna gallant wasgaru neu gladdu'r gweddillion amlosgedig yn eu tiroedd wedi iddynt roi pythefnos o rybudd ysgrifenedig.
Ym Mharc Gwyn mae'n rhaid talu ffi am gadw'r gweddillion wedi un mis. Pan fydd yr "Ymgeisydd am Amlosgi" yn arwyddo i ofyn am eu cadw yn yr amlosgfa mae ef neu hi'n cytuno y caiff yr amlosgfa gael gwared â'r gweddillion os nad yw penderfyniad wedi ei wneud chwe mis wedi dyddiad yr amlosgiad.
A ddylid gadael gemau ar gorff sydd i'w amlosgi?
Byddai'n well tynnu'r holl emwaith o'r corff cyn mynd â'r arch i'r amlosgfa. Dylai'r trefnydd angladdau ofyn beth yw eich dymuniad ynglŷn â hyn wrth drafod trefniadau'r angladd. Ni fydd modd cael unrhyw emau yn ôl wedi i'r amlosgfa dderbyn yr arch.
A oes modd amlosgi mwy nag un corff ar y tro?
Nac oes, gwneir pob amlosgiad ar wahân. Mae'r agoriad y mae'r arch yn mynd trwyddo i mewn i'r amlosgydd yn rhy fach i fwy nag un arch fynd trwyddo'n ddiogel. Fodd bynnag, mae modd gwneud eithriadau ar gyfer mam a baban neu efeilliaid bach, cyn belled bod y perthynas agosaf neu'r ysgutor wedi gwneud cais penodol am hynny.
Mae'r rhan fwyaf o amlosgfeydd yn caniatáu i'r cyhoedd fwrw golwg ar yr hyn sy'n digwydd ‘tu draw i'r llen' er mwyn ceisio goleuo'r cyhoedd ynghylch pob agwedd ar y broses amlosgi.
A yw eirch yn cael eu gwerthu'n ôl i drefnwyr angladdau ar gyfer eu defnyddio eto?
Nac ydynt. Mae'r arch a'r corff sydd ynddi yn cael eu hamlosgi gyda'i gilydd. Mae adegau, fodd bynnag, y defnyddir arch gardbord a gofynnir am orchudd allanol mwy deniadol yn ystod y gwasanaeth. Gellir defnyddio eloren (lliain dros yr arch), neu ‘arch goden' (coden allanol dros arch gardbord). Nid yw'r eloren na'r goden yn cael ei hamlosgi oherwydd eu bod yn orchuddion arwynebol yn unig.
A oes modd i mi ymweld ag amlosgfa i weld yr hyn sy'n digwydd ‘tu draw i'r llen'?
Oes. Bydd pob amlosgfa yn trefnu ar gyfer ymweliad o'r fath os caiff rybudd. Fodd bynnag, ym Mharch Gwyn nid ydynt yn caniatáu ymweliadau o'r fath yn ystod amlosgiadau am resymau iechyd a diogelwch. Serch hynny, o weld yr offer sy'n cael eu defnyddio i amlosgi, gall y gwyliwr fod yn hollol siŵr bod pob amlosgiad yn digwydd ar wahân, bod yr arch yn cael ei hamlosgi gyda'r ymadawedig ac nad oes modd colli adnabod ar y corff trwy gydol y broses.
Lle caf ragor o wybodaeth am amlosgi?
Mae Siarter Galarwyr yr ICCM yn rhoi gwybodaeth fanwl am bob agwedd ar amlosgi ac mae'n cynnwys agweddau amgylcheddol a chymdeithasol. Bydd awdurdodau amlosgi sydd wedi mabwysiadu Siarter y Galarwyr yn cynnig gwybodaeth a chyfarwyddyd a gallwch gael copi cyfeirio cyfan o'r Siarter oddi ar wefan yr ICCM (yn agor mewn tab newydd)