Anableddau dysgu

Anableddau dysgu

Mae cefnogaeth o bob math ar gael i bobl sydd ag anableddau dysgu i’w helpu i fyw mor annibynnol ag sy’n bosibl ac i chwarae rhan yn eu cymuned leol. Mae cymorth ar gael iddynt ddysgu sgiliau newydd, dod o hyd i le i fyw, cael swydd a siarad drostynt eu hunain.

I’r rhai hynny sy’n gymwys i gael help, gall Gwasanaethau Oedolion drefnu gwasanaethau a allai gynnwys:

  • Cyfleoedd dydd – Canolfannau Gweithgareddau Cymdeithasol a gwasanaethau yn y gymuned
  • Gwyliau a seibiant byr
  • Cyflogaeth â chymorth
  • Lleoli oedolion

Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 2143, adolygwyd 11/08/2022