Canllawiau ar ddigonolrwydd eich Cyflenwad Dwr Preifat

Gyda newid hinsawdd a'r bygythiad cynyddol i sefydlogrwydd dŵr, rydym yn eich annog i gael cynllun wrth gefn ar waith i fynd i'r afael ag annigonolrwydd yn eich cyflenwad dŵr preifat a'r risg o halogiad. Mae annigonolrwydd, yn enwedig yn ystod hafau poeth estynedig, yn dod yn fwyfwy tebygol.

Mae’r cyfrifoldeb am sicrhau bod unrhyw gyflenwad dŵr preifat yn ddigonol gan berchennog / meddianwyr y safle a gyflenwir; y perchennog / meddiannydd lle mae safle'r ffynhonnell (e.e. tirfeddiannwr, ffermwr, cymydog) ac unrhyw unigolyn arall sy'n rheoli'r ffynhonnell.

Cynllun wrth gefn

Bydd cael cynllun wrth gefn ar waith yn eich helpu i reoli unrhyw broblem, a gallai helpu i leihau costau. Dylai eich cynllun gynnwys trefniadau ar gyfer darparu cyflenwad amgen i chi neu holl ddefnyddwyr y cyflenwad yn ystod y cyfnod pan nad oes digon o ddŵr, neu wrth fod unrhyw gamau adferol i liniaru risg halogiad yn cael eu cymryd.

Dylai’r cynllun gynnwys y canlynol o leiaf:

  • Cyfanswm nifer y defnyddwyr a gyflenwir
  • Symiau nodweddiadol o ddŵr amgen sydd eu hangen ar gyfer pob defnyddiwr
  • Y math o gyflenwad dŵr amgen (e.e. darparu dŵr potel, tanceri neu bowserau dŵr) ac ym mha le y byddwch chi'n ei ail-lenwi

 Cynllun wrth gefn ar gyfer cyflenwad dwr

Beth gallaf ei wneud?

Deall eich cyflenwad

Beth yw'r ffynhonnell?
  • dŵr wyneb
  • tarddell
  • ffynnon
  • dwll turio
Pwy sy'n defnyddio'r dŵr?
  • eiddo sengl
  • a rennir ag eiddo eraill
  • ffermydd
  • cwsmeriaid
Ar gyfer beth mae'r dŵr yn cael ei ddefnyddio?
  • Cyflenwad eich preswylfa eich hun.
  • Gall eiddo masnachol (e.e. eiddo gwyliau / maes gwersylla) neu amaethyddol (ffermydd gyda da byw) ddefnyddio mwy o ddŵr na chyflenwadau domestig

A yw wedi mynd yn sych o'r blaen?

Os ydyw, pa mor aml?

Gwnewch wiriadau rheolaidd

  • Cynhaliwch archwiliad gweledol wythnosol o’r ffynhonnell, tanciau storio, pibellau dosbarthu, triniaeth
  • Gwiriwch am rwystrau a thrap aer, yn enwedig yn yr hidlyddion
  • Dylech fonitro lefelau dŵr – yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd cynnes a sych
  • Gwiriwch p’un a yw eich cyflenwad yn iachus, ac os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'ch awdurdod lleol am arweiniad ar samplu a dadansoddi

 

Byddwch yn barod

A allwch chi wella'r cyflenwad?
  • Cynyddu’r cyfaint storio, trefnu cyflenwad wrth gefn

A oes gennych chi fynediad at ddŵr prif gyflenwad neu gyflenwad amgen?
  • Cysylltwch â Dŵr Cymru i ddeall cost cysylltu â'r prif gyflenwad

A oes gennych chi danciau sbâr, bowserau neu gynwysyddion ar gael?
  • A ellir llenwi'r rhain yn lleol, neu gan gymdogion / ffrindiau / teulu? Peidiwch ag anghofio berwi dŵr cyn ei ddefnyddio!

Pa fesurau allwch chi eu cymryd nawr i arbed dŵr?
  • Ystyriwch gynaeafu / storio dŵr llwyd o faddonau / cawodydd / sinciau er mwyn cadw eich dŵr glân i bobl ei yfed

A ydych chi wedi cysylltu â'ch peiriannydd dŵr?

Cadwch eich pympiau cyflenwi / triniaeth wedi'u gwasanaethu a'u cynnal a'u cadw i sicrhau effeithlonrwydd a bod y dŵr yn yfadwy

 

Cofiwch

  • Mae cyflenwadau dŵr preifat yn gyfrifoldeb perchnogion y tai unigol
  • Mae Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol, os oes angen, i gyflwyno Hysbysiad Adran 80 i unigolyn/ion perthnasol i gymryd camau priodol i fynd i’r afael ag annigonolrwydd gwirioneddol neu bosibl
  • Mae Deddf Tai 2004 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol darparu cyflenwad dŵr digonol o ansawdd da at ddibenion yfed a domestig.

 

Mwy o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan Cyflenwadau Dŵr Preifat neu cysylltwch â'r tîm Rheoli Llygredd ar 01437 764551 neu drwy e-bost ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk

Arolygiaeth Dŵr Yfed (yn agor mewn tab newydd) 

Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn tab newydd)   

Dŵr Cymru (yn agor mewn tab newydd) 

 

ID: 10372, adolygwyd 09/11/2023