Ar ol y Digwyddiad
Ar ol y Digwyddiad
Unwaith y bydd y digwyddiad drosodd mae’n ddefnyddiol meddwl am sut aeth y digwyddiad a’i asesu ac ystyried y problemau y gellir eu lleihau neu eu goresgyn yn y dyfodol.
Meddyliwch am:
- Sut yr aeth y digwyddiad yn gyffredinol, gan gynnwys adborth gan gyfranogwyr a'r gymuned leol.
- A oeddech chi wedi’ch paratoi’n ddigonol ar gyfer y digwyddiad ac a wnaethoch chi drin unrhyw risgiau, peryglon neu'r annisgwyl yn briodol.
- Beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol pe baech chi'n cynnal y digwyddiad eto.
Cyflwr y Safle a’i Adfer
Ar ôl y digwyddiad, dylid cynnal archwiliad arall i sicrhau nad oes dim wedi'i adael ar y safle. Dylai'r archwiliad hwn hefyd nodi unrhyw ddifrod, a allai fod wedi'i achosi yn ystod y digwyddiad.
Os bydd unrhyw strwythurau yn cael eu gadael dros nos, rhaid sicrhau eu bod yn cael eu gadael mewn cyflwr diogel a’u bod yn saff rhag fandaliaeth, ac ati. Os oes llawer o strwythurau ar ôl, dylid gwneud trefniadau diogelwch penodol.
Dylai'r safle gael ei adael yn yr un cyflwr ag yr oedd ynddo cyn y digwyddiad.
Diolch a Adborth
Mae'n anhygoel faint mae dangos gwerthfawrogiad o bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig, a phawb sydd wedi eu heffeithio yn gallu ei olygu i bobl. Gallai cymryd amser i ddiolch i'r unigolion a'r grwpiau hynny wneud gwahaniaeth mawr wrth ystyried canlyniadau'r digwyddiad. Os oes gennych unrhyw luniau o'r digwyddiad, dylech eu cynnwys yn eich diolch gan y bydd hefyd yn gadael iddynt weld llwyddiant y digwyddiad.
Dywedwch diolch yn fawr wrth:
- eich noddwyr
- siaradwyr
- gwesteiwr y lleoliad neu’r tirfeddiannwr
- stiwardiaid a gwirfoddolwyr
- unrhyw un a wnaeth i’r digwyddiad ddigwydd.
Mae'n arfer da ac yn ddefnyddiol ar gyfer eich cofnodion eich hun i gael adborth gan y cyfranogwyr a'r holl grwpiau a allai fod wedi'u heffeithio, ar ôl i'r gwaith adfer gael ei gwblhau ond yn ddigon buan fel bod pawb yn cofio prif elfennau'r dydd.