Archebu a Chadw lle Ar lein
Neuaddau Chwaraeon
Mae naw neuadd chwaraeon gyda Hamdden Sir Benfro ledled y Sir, yn cynnig amrywiaeth fawr o weithgareddau ar gyfer amrywiaeth fawr o glybiau o bêl-droed pum bob ochr i fola-ddawnsio.
Mae ein cyfleusterau yn cynnig cyfle gwych i roi cynnig ar gamp neu ddiddordeb newydd neu gasglu criw o ffrindiau i chwarae dy hoff chwaraeon.
Mae'r cyfleusterau yn agored gydol y flwyddyn.
Ffoniwch ni i fwcio un sesiwn yn unig neu beth am fwcio bloc i sicrhau y cei di'r un amser bob wythnos. .
Mae bwcio yn hawdd, ffonia'r ganolfan rwyt ti wedi ei dewis a byddwn yn gwneud ein gorau i roi'r amser rwyt ti wedi ei ddewis i ti.
Os ydych chi'n glwb does dim ond eisiau i chi lenwi'r a rhoi copi o gyfansoddiad eich clwb i ni.
Mae neuaddau chwaraeon gyda ni yn
Canolfan Hamdden Hwlffordd (2 Gwrt (cymaint â 2 gwrt badminton))
- Canolfan Syr Thomas Picton (4 Cwrt)
- Taskers Dome (3 Chwrt)
- Canolfan Hamdden Aberdaugleddau (4 Cwrt)
- Canolfan Hamdden Abergwaun (4 Cwrt)
- Canolfan Hamdden Crymych (4 Cwrt)
- Canolfan Hamdden Penfro (4 Cwrt)
- Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod (6 Chwrt)
- Neuadd Chwaraeon Thornton (4 Cwrt)
- Neuadd Chwaraeon Tyddewi (4 Cwrt)
Mae gan dri o'n canolfannau gyrtiau sboncen hefyd. Mae'r cyrtiau prysur dros ben hyn yn gartref i glybiau a chynghreiriau sydd oll yn croesawu aelodau newydd. Y canolfannau yw:
Rydym yn fodlon eu defnyddio i bethau eraill hefyd! Yn ogystal â sboncen a phêl raced mae modd eu defnyddio i gynnal parti plant, y lle perffaith os oes rhai bach gyda chi sy'n mo'yn rhedeg o gwmpas ond heb fod yn rhy bell!!
Os wyt ti am gael rhagor o wybodaeth am unrhyw adnoddau sydd gyda ni, cysyllta gyda'r ganolfan leol a byddwn yn fwy na bodlon i roi cymorth i ti.