Archwiliadau Iechyd a Diogelwch
Pa fangreoedd fyddwn ni'n archwilio?
Mae rheolyddion Awdurdodau Lleol yn dilyn agwedd seiliedig ar risg i dargedu ymyriadau iechyd a diogelwch. Byddwn yn canolbwyntio ein gwaith lle mae’r peryglon yn debygol o fod fwyaf a lle bydd yn cael yr effaith fwyaf.
Felly, mae archwiliadau iechyd a diogelwch rhagweithiol dirybudd yn cael eu neilltuo i weithgareddau risg uchel a sectorau a gyhoeddwyd gan HSE neu pan fo gwybodaeth yn awgrymu nad yw peryglon yn cael eu rheoli’n effeithiol.
Caiff y gweithgareddau / sectorau i’w harchwilio’n rhagweithiol gan Awdurdodau Lleol eu rhestru yn Helaethiad A i’r Cod Cenedlaethol (yn agor ffenestr newydd).
Bydd y math o sectorau i’w targedu bob blwyddyn yn cael ei bennu yn y cynllun gwasanaeth blynyddol cynllun gwasanaeth Iechyd a Diogelwch Atodiad 1 Atodiad 2.