Archwiliadau Iechyd a Diogelwch

Archwiliadau rhagweithiol

Mae gan arolygwyr hawl i fynd i mewn i unrhyw weithle heb roi rhybudd, er bod modd rhoi rhybudd pan fo’r arolygydd yn meddwl bod hynny’n briodol. Yn ystod archwiliad byddai arolygydd yn disgwyl edrych ar y gweithle, y gweithgareddau, sut ydych yn rheoli iechyd a diogelwch a gweld eich bod yn cydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch.

Wrth ymweld â’ch busnes, bydd yr arolygydd yn canolbwyntio ar y peryglon a nodwyd fel blaenoriaethau’r gwelliannau iechyd a diogelwch cenedlaethol oherwydd mai dyma’r rhai sydd â gallu mwyaf i wella iechyd a diogelwch ledled y wlad. Rydym yn derbyn nad oes modd dileu holl beryglon yn y gweithle. Yn hytrach, byddwn eisiau gweld eich bod yn cymryd camau gweithredu call i leihau eich perygl i iechyd a diogelwch.

Fe all yr arolygydd gynnig canllawiau neu gyngor i’ch helpu. Fe all siarad hefyd â chyflogeion a’u cynrychiolwyr, tynnu lluniau a chymryd samplau ac ati.

ID: 1413, adolygwyd 15/11/2022