Archwilio Llongau

Archwilio Llongau

Mae Llongau ac Awyrennau wedi'u diffinio fel safleoedd bwyd o dan Orchymyn Hylendid Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003, ac yn sgil hynny, un o swyddogaethau'r Tîm Iechyd Porthladd yw cynnal archwiliadau o bob llong a ddaw i mewn i borthladdoedd Aberdaugleddau ac Abergwaun er mwyn gorfodi gofynion deddfwriaeth hylendid bwyd.

Mae gorfodi safonau gofynnol yn aml yn anodd oherwydd gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol criwiau tramor, ac fel arfer sicrheir cydymffurfiad drwy drafodaeth a chyngor anffurfiol.  Er hyn, os oes angen, mae system yn ei lle i sicrhau cydymffurfiad drwy ddulliau cyfreithiol pan fydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithredu fel corff cyswllt â'r asiantaethau perthnasol yn y gwledydd hynny y mae llongau tramor wedi'u cofrestru. 
 
Gan fod llongau ac awyrennau yn symud o borthladd i borthladd, ac y gallant ymweld â'r DU yn anaml, cynhelir cyswllt rhwng awdurdodau iechyd porthladdoedd er mwyn sicrhau y cynhelir ymweliadau ac archwiliadau dilynol i sicrhau cynnydd ar unrhyw faterion y mae angen eu cywiro.  Cynhelir cyswllt rhwng awdurdodau hefyd er mwyn sicrhau cynllunio a chysondeb o ran archwilio, gorfodi a gweithgarwch addysgol.  Mae i'r Gymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd (APHA) swyddogaeth allweddol yn y broses drafod hon, ac mae'n darparu cyswllt rhwng Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA) ac awdurdodau iechyd porthladdoedd.  Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio Memorandwm o Ddealltwriaeth (MoU) rhwng APHA a'r MCA.


Tystysgrifau Rheoli Glanweithdra Llongau

Mae gofyn i longau masnach sy'n teithio dramor, o dan Reoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005, gael eu harchwilio bob chwe mis a derbyn naill ai Tystysgrif Eithrio Rhag Rheoli Glanweithdra Llong neu Dystysgrif Rheoli Glanweithdra Llong, sy'n cofnodi bod y llong wedi'i harchwilio a naill ai'r eithriad rhag rheolaethau neu'r camau rheolaethol mewn grym.

Mae'r tystysgrifau hyn yn disodli'r Tystysgrifau Gwaredu Llygod Mawr a'r Dystysgrif Eithrio Rhag Gwaredu Llygod Mawr, a oedd yn ofyniad rhyngwladol hirsefydlog.

Dynodwyd porthladdoedd ledled y byd gan Sefydliad Iechyd y Byd i roi tystysgrifau newydd. Dynodwyd Ardal Iechyd Porthladd Aberdaugleddau (Cyngor Sir Penfro) i roi'r ddwy dystysgrif ym mhob porthladd a therfynfa yn ei hardal. Er mwyn trefnu archwiliad o long ac i dderbyn tystysgrif, cysylltwch â'r Tîm Iechyd Porthladd gan roi cymaint o rybudd â phosibl.

Gellir gweld y rhestr lawn o holl borthladdoedd dynodedig y DU ar wefan Cymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd.

Gellir gweld rhestr lawn o holl borthladdoedd dynodedig y byd ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.
 
Ffioedd ar gyfer y tystysgrifau newydd wedi iddynt gael eu gweithredu.


Llongau Pysgota

Mae newidiadau i ddeddfwriaeth hylendid bwyd ym mis Ionawr 2006 yn golygu bod y safonau gofynnol o ran gofynion strwythur, hylendid a glanio bellach yn weithredol ar gyfer llongau pysgota.  Y Tîm Iechyd Porthladd sy'n gyfrifol am orfodi'r darpariaethau hyn.

Mae Hylendid Bwyd ar Longau Pysgota yn rhoi gwybodaeth fanwl am y gofynion ar gyfer llongau pysgota.


Rheoli Plâu

Gall plâu achosi problemau penodol ar fwrdd llongau, gan amrywio o ledaenu clefydau o wlad i wlad, i halogi cyflenwadau bwyd a chargoau a gaiff eu cario ar longau.  Mae nifer o fathau o blâu i'w canfod ar longau, ond y rhai mwyaf cyffredin yw chwilod duon (cockroaches) a chnofilod (rodents).

Mae Rheoli Plâu ar Longau yn rhoi gwybodaeth bellach ar y mater hwn.


Y Gynddaredd (Rabies)

Mae'r gynddaredd yn glefyd sy'n effeithio ar brif system nerfol mamaliaid a hwn yw'r clefyd heintus â'r nifer uchaf o farwolaethau o gymharu â nifer yr achosion.  Mae'n glefyd milheintiol (gall gael ei basio o anifeiliaid i bobl) a'r ffordd fwyaf cyffredin o'i drosglwyddo yw drwy frathiad anifail heintiedig.  Mae'r Gynddaredd mewn anifeiliaid daearol yn bresennol ym mhob cyfandir ac eithrio rhai ynysoedd (er enghraifft Hawaii, Japan a Seland Newydd), nifer gynyddol o wledydd Ewrop ac Antarctica. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod 50,000 o bobl yn y byd yn marw o'r gynddaredd bob blwyddyn. Mae'r nifer uchaf o achosion o'r gynddaredd mewn pobl i'w gweld yn Affrica ac Asia, yn arbennig yn is-gyfandir India.
Mae gan y DU gyfreithiau llym iawn ynghylch y Gynddaredd, a rhaid i unrhyw un sy'n dymuno dod ag anifail i mewn i'r wlad lynu wrth reoliadau cwarantin neu wynebu cosb bosibl.  Er nad yw'r Tîm Iechyd Porthladd yn gweithredu cyfreithiau o'r fath, maent mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud gwaith cadw golwg yn hyn o beth.  

ID: 2935, adolygwyd 17/02/2023

Rheoli Plâu ar Longau

Rheoli cnofilod

Bu rheoli cnofilod ar fwrdd llongau ac o fewn safleoedd yn ardal y porthladd bob amser yn fater o bwys mawr o ran atal lledaeniad clefydau a gludir gan lygod mawr o diroedd tramor. Mae llygod mawr yn lledaenu clefydau megis y Pla, Leptosbirosis (Clefyd Weil) a gwenwyn bwyd megis Salmonela. Hefyd, gall llygod mawr achosi difrod sylweddol i gargoau bwyd, safleoedd bwyd ac offer.

Gall llygod fod yn broblem ar gychod pleser ar afon, yn enwedig y rheiny sydd wedi'u hangori'n barhaol. Cânt fynediad ar hyd aleau, dwythellau gwasanaeth a phibellau gan barhau i fyw a bridio ar fwrdd y cwch a lledaenu baw a chlefyd ble bynnag yr ânt; gallant ddifrodi strwythur, bwyd a phecynnau bwyd, a halogi arwynebau paratoi bwyd, teclynnau ac offer.

Pryfed

Gall chwilod duon (cockroaches) fod yn broblem ar rai llongau masnach gan fod llawer o fannau ar longau sy'n anodd mynd atynt i'w trin, gan gynnwys y tu ôl i offer ac oddi tanynt, mewn gwagleoedd a dwythellau a rhwng y parwydydd a bwrdd y llong.

Mae chwilod duon yn lledaenu clefydau megis Salmonela a bacteria gwenwyn bwyd eraill, a gallant hefyd gario heintiau firaol. O gael lle cynnes, tywyll a llaith a chyflenwad parod o fwyd, maent yn amlhau i ffurfio cytrefi mawr yn gyflym iawn. Mae eu trin a'u difa yn hanfodol er mwyn gwella a chynnal safonau iechyd cyhoeddus da ar fwrdd llongau.

ID: 2936, adolygwyd 17/02/2023

Hylendid Bwyd ar Longau Pysgota

Mae'r newidiadau i ddeddfwriaeth hylendid bwyd a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2006 yn golygu bod safonau gofynnol o ran gofynion strwythur, hylendid a glanio bellach yn weithredol ar gyfer llongau pysgota.


Strwythur Llong

  • Rhaid i longau gael eu dylunio fel na chaiff cynnyrch ei halogi gan ddŵr gwaelodion llong, carthion, tanwydd nac unrhyw sylwedd annymunol arall.
  • Rhaid i arwynebau y bydd cynnyrch pysgod yn dod i gysylltiad â nhw gael eu gwneud o ddeunydd gwrthgyrydiad sy'n hawdd ei lanhau.
  • Rhaid i offer a ddefnyddir i weithio ar gynnyrch pysgod fod o ddeunydd  gwrthgyrydiad ac yn hawdd eu glanhau.
  • Os defnyddir mewnlif dŵr gyda chynnyrch pysgod rhaid iddo gael ei leoli mewn man lle na chaiff y cyflenwad dŵr ei halogi.


Hylendid

  • Rhaid i'r ardaloedd a ddefnyddir i storio cynnyrch pysgod gael eu cadw'n lân ac mewn cyflwr da. Rhaid iddynt beidio â chael eu halogi gan ddŵr gwaelodion llong na thanwydd.
  • Rhaid diogelu cynnyrch pysgod rhag halogiad, yr haul a ffynonellau gwres eraill cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ddod ar fwrdd y llong.
  • Rhaid defnyddio dŵr yfed neu ddŵr môr glân wrth olchi cynnyrch pysgod neu i wneud iâ ar gyfer oeri cynnyrch pysgod.
  • Wrth drin a storio cynnyrch pysgod, rhaid osgoi cleisio.  Ceir defnyddio offeryn sbigog yn unig ar gyfer symud pysgod mawr a allai anafu'r person sy'n trin y cynnyrch, a dim ond os na wneir difrod i'r cnawd.
  • Rhaid oeri cynnyrch pysgod na chaiff ei gadw'n fyw cyn gynted â phosibl.  Os nad yw hyn yn bosibl, rhaid dod â'r cynnyrch i'r lan cyn gynted â phosibl.
  • Os caiff pennau neu berfedd y pysgod eu gwaredu ar fwrdd y llong, rhaid gwneud hyn yn hylan cyn gynted â phosib gan olchi'r pysgod yn syth wedyn.
  • Gellir cludo pysgod ffres cyfan a physgod ffres wedi'u diberfeddu mewn dŵr môr wedi'i oeri ar fwrdd llong.

 
Wrth Lanio ac Wedi Hynny

  • Rhaid i offer dadlwytho sy'n dod i gysylltiad â chynnyrch pysgod fod wedi'u gwneud o ddeunydd sy'n hawdd ei lanhau ac mewn cyflwr da.
  • Dylid dadlwytho'n gyflym er mwyn caniatáu i'r pysgod gael eu hoeri.
  • Ni ddylai offer nac arferion achosi difrod dianghenraid i rannau bwytadwy'r pysgod.

Llongau Ffatri a Physgota

Mae llongau sy'n rhewi a/neu'n prosesu pysgod arnynt (h.y. llongau rhewgell a ffatri) yn cael eu hystyried yn ‘eiddo cymeradwy' ac yn agored i safon hylendid uwch, sy'n gofyn cymeradwyaeth awdurdod lleol o flaen llaw cyn mynd i'r môr. Byddant yn cael eu harchwilio'n gyfnodol yn unol â'r meini prawf asesu risg Hylendid Bwyd. Mae'r llongau'n cael nod adnabod unigryw sy'n rhaid ei ddangos ar ffurf gymeradwy a'i osod ar holl ddeunydd pacio, gyda'r manylion yn cael eu dal yn ganolog gan y FSA. Mae hwn yn faes gwaith arbenigol sy'n aml yn cynnwys llongau mewn perchenogaeth dramor yn hwylio dan faner Prydain.

ID: 2937, adolygwyd 17/02/2023