Archwilio Llongau
Archwilio Llongau
Mae Llongau ac Awyrennau wedi'u diffinio fel safleoedd bwyd o dan Orchymyn Hylendid Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003, ac yn sgil hynny, un o swyddogaethau'r Tîm Iechyd Porthladd yw cynnal archwiliadau o bob llong a ddaw i mewn i borthladdoedd Aberdaugleddau ac Abergwaun er mwyn gorfodi gofynion deddfwriaeth hylendid bwyd.
Mae gorfodi safonau gofynnol yn aml yn anodd oherwydd gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol criwiau tramor, ac fel arfer sicrheir cydymffurfiad drwy drafodaeth a chyngor anffurfiol. Er hyn, os oes angen, mae system yn ei lle i sicrhau cydymffurfiad drwy ddulliau cyfreithiol pan fydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithredu fel corff cyswllt â'r asiantaethau perthnasol yn y gwledydd hynny y mae llongau tramor wedi'u cofrestru.
Gan fod llongau ac awyrennau yn symud o borthladd i borthladd, ac y gallant ymweld â'r DU yn anaml, cynhelir cyswllt rhwng awdurdodau iechyd porthladdoedd er mwyn sicrhau y cynhelir ymweliadau ac archwiliadau dilynol i sicrhau cynnydd ar unrhyw faterion y mae angen eu cywiro. Cynhelir cyswllt rhwng awdurdodau hefyd er mwyn sicrhau cynllunio a chysondeb o ran archwilio, gorfodi a gweithgarwch addysgol. Mae i'r Gymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd (APHA) swyddogaeth allweddol yn y broses drafod hon, ac mae'n darparu cyswllt rhwng Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA) ac awdurdodau iechyd porthladdoedd. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio Memorandwm o Ddealltwriaeth (MoU) rhwng APHA a'r MCA.
Tystysgrifau Rheoli Glanweithdra Llongau
Mae gofyn i longau masnach sy'n teithio dramor, o dan Reoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005, gael eu harchwilio bob chwe mis a derbyn naill ai Tystysgrif Eithrio Rhag Rheoli Glanweithdra Llong neu Dystysgrif Rheoli Glanweithdra Llong, sy'n cofnodi bod y llong wedi'i harchwilio a naill ai'r eithriad rhag rheolaethau neu'r camau rheolaethol mewn grym.
Mae'r tystysgrifau hyn yn disodli'r Tystysgrifau Gwaredu Llygod Mawr a'r Dystysgrif Eithrio Rhag Gwaredu Llygod Mawr, a oedd yn ofyniad rhyngwladol hirsefydlog.
Dynodwyd porthladdoedd ledled y byd gan Sefydliad Iechyd y Byd i roi tystysgrifau newydd. Dynodwyd Ardal Iechyd Porthladd Aberdaugleddau (Cyngor Sir Penfro) i roi'r ddwy dystysgrif ym mhob porthladd a therfynfa yn ei hardal. Er mwyn trefnu archwiliad o long ac i dderbyn tystysgrif, cysylltwch â'r Tîm Iechyd Porthladd gan roi cymaint o rybudd â phosibl.
Gellir gweld y rhestr lawn o holl borthladdoedd dynodedig y DU ar wefan Cymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd.
Gellir gweld rhestr lawn o holl borthladdoedd dynodedig y byd ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.
Ffioedd ar gyfer y tystysgrifau newydd wedi iddynt gael eu gweithredu.
Llongau Pysgota
Mae newidiadau i ddeddfwriaeth hylendid bwyd ym mis Ionawr 2006 yn golygu bod y safonau gofynnol o ran gofynion strwythur, hylendid a glanio bellach yn weithredol ar gyfer llongau pysgota. Y Tîm Iechyd Porthladd sy'n gyfrifol am orfodi'r darpariaethau hyn.
Mae Hylendid Bwyd ar Longau Pysgota yn rhoi gwybodaeth fanwl am y gofynion ar gyfer llongau pysgota.
Rheoli Plâu
Gall plâu achosi problemau penodol ar fwrdd llongau, gan amrywio o ledaenu clefydau o wlad i wlad, i halogi cyflenwadau bwyd a chargoau a gaiff eu cario ar longau. Mae nifer o fathau o blâu i'w canfod ar longau, ond y rhai mwyaf cyffredin yw chwilod duon (cockroaches) a chnofilod (rodents).
Mae Rheoli Plâu ar Longau yn rhoi gwybodaeth bellach ar y mater hwn.
Y Gynddaredd (Rabies)
Mae'r gynddaredd yn glefyd sy'n effeithio ar brif system nerfol mamaliaid a hwn yw'r clefyd heintus â'r nifer uchaf o farwolaethau o gymharu â nifer yr achosion. Mae'n glefyd milheintiol (gall gael ei basio o anifeiliaid i bobl) a'r ffordd fwyaf cyffredin o'i drosglwyddo yw drwy frathiad anifail heintiedig. Mae'r Gynddaredd mewn anifeiliaid daearol yn bresennol ym mhob cyfandir ac eithrio rhai ynysoedd (er enghraifft Hawaii, Japan a Seland Newydd), nifer gynyddol o wledydd Ewrop ac Antarctica. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod 50,000 o bobl yn y byd yn marw o'r gynddaredd bob blwyddyn. Mae'r nifer uchaf o achosion o'r gynddaredd mewn pobl i'w gweld yn Affrica ac Asia, yn arbennig yn is-gyfandir India.
Mae gan y DU gyfreithiau llym iawn ynghylch y Gynddaredd, a rhaid i unrhyw un sy'n dymuno dod ag anifail i mewn i'r wlad lynu wrth reoliadau cwarantin neu wynebu cosb bosibl. Er nad yw'r Tîm Iechyd Porthladd yn gweithredu cyfreithiau o'r fath, maent mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud gwaith cadw golwg yn hyn o beth.