Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

Cynhaliodd Cyngor Sir Penfro Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (CSA) o fis Tachwedd 2021 hyd fis Mawrth 2022, gyda chymorth y Premier Advisory Group (PAG). Seiliwyd yr asesiad ar ymchwil sylfaenol a gynhaliwyd drwy sawl math gwahanol o ymgynghori, gan gynnwys data o Ddatganiadau Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) Arolygiaeth Gofal Cymru a gwblheir gan ddarparwyr gofal plant, arolwg rhieni gan Lywodraeth Cymru ac arolygon ar-lein gyda chyflogwyr, rhanddeiliaid ac ysgolion, gan gynnwys disgyblion a phenaethiaid.

Mae'r adroddiad Digonolrwydd Gofal Plant hwn yn adlewyrchu'r cyd-destun penodol ar gyfer darpariaeth gofal plant yn Sir Benfro, ac mae’n cyd-fynd â'r tair Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Uwch (USOA) sy'n ffurfio'r sir (gweler tudalen 25). Ceir crynodeb llawn o ganfyddiadau allweddol yr ymchwil a’r ymgynghori demograffeg yn yr adran ddilynol.

Trosolwg o gyd-destun demograffig ac economaidd yr ALl

Sir wledig yn ne-orllewin Cymru yw Sir Benfro, ac mae’n rhannu ffiniau â Sir Gaerfyrddin i'r dwyrain a Cheredigion i'r gogledd-ddwyrain, gyda’r gweddill yn arfordir. Mae'r data poblogaeth diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos y disgwylir gostyngiad ym mhob grŵp oedran yn Sir Benfro rhwng 2020-2026, ac eithrio pobl ifanc 12–18 oed. Rhagwelir y bydd nifer y plant 8–11 oed sy’n byw yn Sir Benfro yn gostwng tua 600 erbyn 2026, ac y bydd gostyngiad cyffredinol o tua 360 yn nifer y plant 0-18 oed sy’n byw yn y sir. Mae'r ffigurau hyn yn awgrymu y gallai'r galw am ofal plant y Blynyddoedd Cynnar ostwng yn y blynyddoedd i ddod yn Sir Benfro.

Mae’r lefel ddiweithdra a’r nifer o blant sy’n byw mewn aelwydydd lle mae pawb yn hawlio budd-dal diweithdra yn llawer uwch mewn rhai ardaloedd o’r Sir o gymharu ag eraill. Er enghraifft, nododd Sir Benfro U002 bod 1,780 o bobl ifanc 0–18 oed y rhanbarth yn byw mewn aelwyd lle mae pawb yn hawlio budd-dal diweithdra, a Sir Benfro U001 ond wedi nodi 660.

Mae 32.1% o boblogaeth Sir Benfro yn dweud eu bod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae Sir Benfro ymhlith yr ardaloedd lleiaf amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghymru, gydag ychydig dros 93% o ddisgyblion 5 oed a throsodd yn nodi eu bod yn Wyn Prydeinig. Dim ond 3% o ddisgyblion sy'n nodi eu bod o gefndir nad yw'n Wyn.

Mae’n bosibl y bydd effeithiau COVID-19 a Brexit arwain at ostyngiad yn nifer y bobl sy'n dod i Gymru, a gallai olygu y bydd mwy o bobl yn gadael nac sy’n cyrraedd, gan arwain at fudiad net negyddol. Mae sawl rheswm posibl am hyn. Yn gyntaf, mae’r Oxford Migration Observatory yn dadlau y bydd System Mewnfudo newydd y DU, sy’n seiliedig ar bwyntiau, yn gosod mwy o gyfyngiadau ar nifer y gweithwyr sgiliau is o’r UE a gaiff ddod i'r DU, ac y bydd hyn yn debygol o gyfrannu at ostyngiad mewn mudo a allai effeithio ar Awdurdodau Lleol fel Sir Benfro.

Mae Cynllun Datblygu Lleol Sir Benfro yn cynnig datblygu dros 7,000 o anheddau newydd i’w hadeiladu ym mhob ward neu anheddiad yn Sir Benfro. Er bod amrywiadau sylweddol o ran faint o gapasiti tai sydd i’w ddisgwyl ym mhob ardal, rhagwelir y bydd pob ward ac anheddiad yn gweld cynnydd yn nifer yr anheddau ynddynt erbyn 2024. Er nad yw’n debygol i’r gwaith adeiladu arwain at gynnydd sylweddol yn y galw am ofal plant ledled Sir Benfro, yn yr ardaloedd lle mae datblygiadau sylweddol yn digwydd sy'n debygol o ddenu teuluoedd â phlant ifanc mae angen trafodaethau o fewn yr awdurdod lleol i sicrhau bod yr effaith ar y farchnad gofal plant yn cael ei hasesu.

Canfuwyd bod gan Sir Benfro nifer uwch o ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig o gymharu â sir gyfagos Ceredigion, ond bod y nifer yn is na Sir Gaerfyrddin. At ei gilydd, mae 2.24% o ddisgyblion Sir Benfro gydag ADY.

Crynodeb o lefel y ddarpariaeth

Pan gwblhawyd y ffurflen hunanasesu, roedd lefel y cyflenwad gofal plant yn Sir Benfro fel a ganlyn

Math o ofal

Lleoliadau Gofal Dydd Llawn

  • Cofrestredig: 31
  • wedi'i atal: 0
  • Heb Gofrestru: 0

Gwarchodwyr plant

  • Cofrestredig: 56
  • wedi'i atal: 12
  • Heb Gofrestru:  0

Gofal y Tu Allan i Oriau Ysgol

  • Cofrestredig: 11
  • wedi'i atal: 0
  • Heb Gofrestru: 2

Gofal Dydd Sesiynol

  • Cofrestredig: 25
  • wedi'i atal: 0
  • Heb Gofrestru: 0

Crêche

  • Cofrestredig: 1
  • wedi'i atal: 0
  • Heb Gofrestru: 0

Nanis

  • Cofrestredig: 0
  • wedi'i atal: 0
  • Heb Gofrestru: 0

Darpariaeth Chwarae Mynediad Agored

  • Cofrestredig: 0
  • wedi'i atal: 0
  • Heb Gofrestru: 0

Cyfanswm

  • Cofrestredig: 124
  • wedi'i atal: 12
  • Heb Gofrestru: 2

Y prif bwyntiau o ran y defnydd presennol/galw yn y dyfodol

Yng ngwanwyn 2022, roedd 66 o leoedd gwag gan warchodwyr plant ar gyfer gofal dydd llawn ar draws y sir. Nododd darparwyr gofal dydd llawn fod 49 o leoedd gwag ar draws y sir. Roedd y rhan fwyaf o’r lleoedd gwag gwahanol sydd i’w cael ym mhob math o ofal plant ar gael yn Sir Benfro U002. Yn ystod y 12 mis diwethaf, dywedodd 16% o warchodwyr plant, 10% o ddarparwyr gofal dydd llawn, 10% o ddarparwyr gofal dydd sesiynol a 50% o ddarparwyr gofal y tu allan i oriau ysgol fod ganddynt restr aros yn ystod y tymor. Cafwyd adroddiadau am restrau aros ar gyfer gofal yn ystod gwyliau ysgol ar draws pob un o'r tri USOA.

Ar hyn o bryd, mae 102 o ddarparwyr wedi'u cofrestru i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant yn Sir Benfro, gan gynnwys 50 o warchodwyr plant a 52 o ddarparwyr gofal dydd. O'r rhain, mae 79 (77%) yn derbyn cyllid gan y Cynnig Gofal Plant, gan gynnwys 35 o warchodwyr plant a 44 o ddarparwyr gofal dydd. Nodwyd y niferoedd isaf o ran darparwyr sy'n darparu'r Cynnig Gofal Plant yn ardal U003. Mae 12 o ddarparwyr yn derbyn cyllid i ddarparu lleoedd Dechrau'n Deg. Mae hyn yn cynrychioli 10% o ddarparwyr.

O ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg, mae 13 o'r 64 darparwr gofal dydd a gwblhaodd y ffurflen hunanasesu gwasanaeth yn darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg ac yn darparu gofal plant dwyieithog. Mae'r holl leoliadau hyn wedi'u lleoli yn Sir Benfro U001, ac eithrio 1 sydd wedi'i leoli yn Sir Benfro U003. O'r 54 o warchodwyr plant, mae 3 yn darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg ac mae 3 yn ddwyieithog. Unwaith eto, mae pob un yn gweithredu yn Sir Benfro U001. Mae anawsterau o ran canfod a chyflogi staff Cymraeg.

Yn nhymor yr Hydref 2021, roedd 63 o blant ag ADY neu anableddau cofrestredig yn defnyddio lleoedd gofal plant cofrestredig yn Sir Benfro, a'r anghenion mwyaf cyffredin oedd lleferydd ac iaith, awtistiaeth ac anableddau corfforol. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr wedi'u hyfforddi neu'n gymwys i ofalu am blant ag ADY.

Ar hyn o bryd mae 15 ward lle darperir gofal plant cyn 8am a dim ond pedair ward lle gellir cael gofal plant ar ôl 6pm. Nododd rhieni fod angen mwy o ofal cofleidiol a gofal yn ystod y gwyliau ar draws y tri USOA.

Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar wasanaethau yn gyffredinol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda busnesau nad oeddent yn hanfodol ar gau a phobl yn gweithio gartref. Roedd llawer o ddarparwyr gofal plant ar gau yn ystod y pandemig, ac er eu bod bellach wedi ailagor, bydd y niferoedd a'r galw is yn ystod y cyfnod hwn yn cael effaith hir ar y rhai sy'n darparu gwasanaethau. Roedd 71% o'r darparwyr gofal dydd llawn a sesiynol, 55% o warchodwyr plant, a 100% o ddarparwyr y tu allan i oriau ysgol yn teimlo bod COVID-19 wedi effeithio ar gynaliadwyedd eu busnes, gyda llawer wedi gorfod cau ar ddechrau'r pandemig. Pan gasglwyd y data, roedd llawer o ddarparwyr yn ansicr o effaith y pandemig ar gynaliadwyedd ariannol. 

Y prif rwystrau o ran y ddarpariaeth o ofal plant a’r mynediad at ofal plant

Y prif rwystrau o ran gofal plant a nodwyd gan rieni/gofalwyr a gwblhaodd arolwg Llywodraeth Cymru oedd hygyrchedd a chost, yn ogystal â diffyg gofal plant yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'r siart isod yn dangos y prif rwystrau canfyddedig o ran gofal plant i rieni sy'n gweithio

Y prif o ran ddarpariaeth o ofal plant a'r mynediad at ofal plant

Ar gyfer teuluoedd â phlant sydd ag ADY neu anableddau, rhestrwyd fforddiadwyedd fel y prif rwystr o ran gofal plant, gyda chyflenwad gofal plant, ansawdd y ddarpariaeth, hyblygrwydd a hygyrchedd i gyd wedi'u rhestru fel materion eilaidd. O ran rhwystrau i deuluoedd Cymraeg, y prif faterion a nodwyd oedd diffyg gofal plant mewn ardaloedd hygyrch yn ogystal â diffyg gofal plant cyfrwng Cymraeg.

Cafwyd 451 o ymatebion gan rieni/gofalwyr ledled Sir Benfro. Er bod nifer yr ymatebion gan rieni/gofalwyr wedi cynyddu 35% ers y CSA blaenorol, dim ond cyfran fach o rieni’r sir a gynrychiolir gan yr ymatebwyr i'r arolwg ar-lein, ac felly dylid cydnabod cyfyngiadau'r data a ddadansoddir isod. 

Anghenion/bylchau nas diwallwyd

O'r ymchwil a gynhaliwyd drwy'r CSA, nodwyd fod y bylchau canlynol yn dod i'r amlwg yn y sector gofal plant yn Sir Benfro. Bydd Cynllun Gweithredu yn cael ei ddatblygu ar ôl y cyfnod ymgynghori er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau hyn, a chaiff crynodeb o'r camau gweithredu arfaethedig ei gynnwys yn fersiwn derfynol yr adroddiad hwn.

Gofal plant o ansawdd uchel, ond â hygyrchedd a fforddiadwyedd cyfyngedig

Er y cydnabyddir yn eang bod ansawdd y ddarpariaeth yn uchel, mae llawer o rieni'n ei chael yn anodd cael gofal plant fforddiadwy a lleol sy'n caniatáu iddynt weithio'n llawn amser. Nododd rhai o’r rhieni y siaradwyd â hwy eu bod wedi gorfod symud tŷ er mwyn dod o hyd i ddigon o ofal plant, a'u bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i ddarparwyr addas drwy'r cyngor; gwnaed hyn i raddau helaeth ar sail argymhellion gan eraill. Mae hyblygrwydd yn broblem, gyda llawer o rieni'n gorfod dibynnu ar ofal plant gan deulu neu ofal anffurfiol i gwrdd â'r bwlch yn y ddarpariaeth. Yn gyffredinol, mae nifer y gwarchodwyr plant yn y sir wedi gostwng, gyda nifer wedi gadael y proffesiwn dros y blynyddoedd diwethaf neu'n bwriadu gadael y proffesiwn yn fuan.

Diffyg ymwybyddiaeth o'r Cynnig Gofal Plant

Mae lleoliadau gofal plant ar draws Sir Benfro yn cynnig lleoedd Cynnig Gofal Plant i blant 3-4 oed, ond ar hyn o bryd mae dros hanner y lleoedd hyn yn wag. Gellid rhoi gwell cefnogaeth i ddarparwyr i farchnata'r ddarpariaeth hon i rieni ac i gyflwyno'r cynnig, a gellid gwella ymwybyddiaeth o'r cymorth gofal plant sydd ar gael i rieni, yn enwedig y rhai ar incwm isel sy’n awyddus i gynyddu eu horiau gwaith, y rhai sy'n gweithio'n llawn amser ac yn ei chael yn anodd fforddio gofal plant, a rhieni sengl. Nododd rhai darparwyr nad oedd unrhyw alw am y lleoedd hyn, ond gyda’r nifer o rieni sy'n gweithio a’r nifer o deuluoedd â 2 riant sy'n gweithio yn cynyddu i bob golwg, efallai mai diffyg ymwybyddiaeth yw’r rheswm nad yw'r lleoedd hyn yn cael eu llenwi.

Cyfyngiadau o ran darpariaeth cofleidiol a darpariaeth gwyliau

Mae galw mawr iawn ledled Sir Benfro gan rieni sy’n gweithio’n llawn amser am ddarpariaethau gofal plant y tu allan i oriau ysgol, megis gofal cofleidiol a gofal yn ystod y gwyliau. Fodd bynnag, nid oes digon o gyflenwad i ddiwallu’r galw hwn, yn rhannol oherwydd diffyg adnoddau a chyllid i gynnig gofal o'r fath. Nodwyd hyn gan rieni, gan blant, gan randdeiliaid a chan yr ysgolion eu hunain. Ar hyn o bryd, dim ond 2 warchodwr plant yn y sir sy'n darparu gofal dros nos ac ar benwythnosau.

Rhoi ystyriaeth i ddatblygu lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg

Mae’r diffyg wrth ateb y galw yn cynnwys y ddarpariaeth o ofal cyfrwng Cymraeg, gyda rhieni a rhanddeiliaid ehangach yn nodi angen am ddarparwyr sy'n gallu darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd, dim ond yn Sir Benfro U001 y mae darpariaethau Gymraeg ar gael, gyda dim ond 1 ddarpariaeth gofal plant Cymraeg y tu allan i'r USOA hwn. Nododd darparwyr ei bod yn anodd recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg a gofynnwyd am ragor o gyrsiau Cymraeg. Mynegodd rhanddeiliaid bryderon hefyd ynghylch y diffyg darpariaeth ddwyieithog ar draws y sir.

Problemau sy'n dod i'r amlwg o ran recriwtio a chadw staff

Un broblem a nodwyd yn yr ymgynghoriad â darparwyr a rhanddeiliaid oedd materion ynghylch recriwtio a chadw staff. Mae effaith y pandemig, ochr yn ochr â chostau cynyddol, yn golygu bod llawer o ddarparwyr yn ei chael hi'n anodd cadw digon o staff, gan arwain at gau lleoliadau ar draws y sir. Gwaethygwyd hyn gan nad yw gofal plant mewn ysgolion (fel gofal cofleidiol, clybiau ar ôl ysgol) yn gallu gweithredu fel arfer oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol, gan roi pwysau ychwanegol ar ddarparwyr gofal plant.

Diffyg darpariaeth 1:1 ar gyfer plant ag ADY ac anableddau

Nododd llawer o ddarparwyr fod diffyg cyllid digonol i ganiatáu’r ddarpariaeth o gymorth 1:1 i blant ag ADY, anableddau neu anghenion meddygol cymhleth. Hefyd, nododd y darparwyr fod diffyg staff cymwysedig sy'n hyderus wrth gefnogi'r disgyblion hyn. Gyda chanrannau'r plant ag ADY yn Sir Benfro yn uwch na rhai siroedd cyfagos fel Ceredigion, a bod disgwyl i’r nifer godi ledled Cymru dros y blynyddoedd nesaf, dylai'r Cyngor ystyried y ffyrdd gorau o gefnogi darparwyr i ddarparu gofal addas i blant ag ADY. Nododd y rhieni bod anawsterau o ran dod o hyd i ddarpariaeth addas ar gyfer plant ag ADY, ac roedd yn ymddangos bod diffyg yng ngogledd y sir yn enwedig.


 

ID: 9103, adolygwyd 05/10/2022