Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

Canfyddiadau Allweddol

Canfyddiadau Allweddol yr ymchwil demograffeg

  • Tueddiadau poblogaeth sy'n gostwng: mae'r gyfradd genedigaethau byw wedi aros yn weddol wastad yn Sir Benfro, gyda 1,040 yn 2018, 1,052 yn 2019, a 1,025 yn 2020. Yn ogystal, disgwylir i nifer y plant 0-18 oed ostwng rhwng 2023-2026, o 25,263 i 24,832. Gallai'r dangosyddion hyn awgrymu y gallai'r galw am ofal plant ostwng ychydig yn Sir Benfro yn y blynyddoedd i ddod. Mae data diweddaraf Nomis yn dangos bod y boblogaeth o blant 0-4 oed sy'n byw yn Sir Benfro wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bod gostyngiad yn yr un grŵp i’w weld ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig hefyd. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r gostyngiad yn nifer y plant yn y grŵp oedran hwn yn Sir Benfro yn anghyffredin, gan fod patrwm tebyg yn cael ei ailadrodd ar lefel genedlaethol hyd at ganol y 2020au.
  • Gwahaniaethau o ran ystod oedran: mae llawer mwy o blant 3-4 oed sy'n byw yn Sir Benfro ac sy’n cael mynediad at ofal plant yn y sir o gymharu â phlant o grwpiau oedran eraill, megis plant 0-2 oed. Felly, ar hyn o bryd mae'r galw am ofal plant yn Sir Benfro yn uwch ar mewn rhai grwpiau oedran o gymharu ag eraill. Yn yr un modd, mae poblogaeth plant rhai Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Uwch (USOA) (sy'n cynnwys 60 ward Sir Benfro, gweler Atodiad, Tabl 1), yn fwy nag eraill, h.y. mae Sir Benfro U002 yn fwy na Sir Benfro U001
  • Gwahaniaeth economaidd rhwng ardaloedd: Mae rhai ardaloedd â lefelau uwch o ddiweithdra a phlant sy’n byw mewn aelwydydd lle mae pawb yn hawlio budd-dal diweithdra o gymharu ag eraill. Er enghraifft, yn 2017, nododd Sir Benfro U002 bod 1,780 o bobl ifanc 0–18 oed y rhanbarth yn byw mewn aelwyd lle mae pawb yn hawlio budd-dal diweithdra, a Sir Benfro U001 ond wedi nodi 660.
  • Tueddiadau ymfudo: mae lefel mewnlif ac all-lif mudo rhyngwladol wedi aros yn sefydlog yn Sir Benfro rhwng 2013-2020, a’r un peth i’w weld yn lefel mewnlif mudo mewnol yn ystod yr un cyfnod. Yr unig duedd ymfudo sydd wedi gostwng yw'r all-lif o ran mudo mewnol, sydd wedi gostwng o 3,629 i 2,859 rhwng 2013-2020. Yn gyffredinol, gallai'r tueddiadau hyn awgrymu y gallai'r galw am ofal plant gynyddu yn y tymor byr o ganlyniad i fudo
  • Nifer y disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Canfuwyd bod gan Sir Benfro nifer uwch o ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig o gymharu â sir gyfagos Ceredigion, ond bod y nifer yn is na Sir Gaerfyrddin. At ei gilydd, mae 2.24% o ddisgyblion Sir Benfro gydag ADY.

Canfyddiadau allweddol o'r arolwg darparwyr gofal plant

  • Yr amseroedd agor mwyaf cyffredin yn ystod yr wythnos ar gyfer darparwyr gofal dydd llawn yn Sir Benfro, yng Ngwanwyn 2022, oedd 8:00am – 6:00pm, a rhwng 8:00am a 5:00pm ar gyfer gwarchodwyr plant. Ar hyn o bryd mae 15 ward lle mae darparwyr yn cynnig gofal plant cyn 8am a phedair ward lle mae darparwyr yn cynnig gofal plant ar ôl 6pm.
  • Mae 12 o bob 121 o ddarparwyr yn derbyn cyllid i ddarparu lleoedd Dechrau'n Deg. Mae hyn yn cynrychioli 10% o ddarparwyr. O'r rhain, mae 6 darparwr yn darparu darpariaeth Dechrau'n Deg yn unig. Mae darparwyr Dechrau'n Deg wedi'u lleoli'n bennaf yn Sir Benfro U002.
  • Ar hyn o bryd, mae 2 warchodwr plant yn cynnig gofal ar benwythnosau, ac mae 2 warchodwr plant yn cynnig gofal dros nos yn Sir Benfro.
  • Yn ystod y 12 mis diwethaf, dywedodd 16% o warchodwyr plant, 10% o ddarparwyr gofal dydd llawn, 10% o ddarparwyr gofal dydd sesiynol a 50% o ddarparwyr gofal y tu allan i oriau ysgol fod ganddynt restr aros yn ystod y tymor. Cafwyd adroddiadau o restrau aros ar gyfer gofal yn ystod gwyliau ysgol ar draws pob un o'r tri USOA.
  • Yng ngwanwyn 2022, roedd 66 o leoedd gwag gan warchodwyr plant ar gyfer gofal dydd llawn ar draws y sir. Nododd darparwyr gofal dydd llawn fod 49 o leoedd gwag ar draws y sir. Roedd y rhan fwyaf o’r lleoedd gwag gwahanol sydd i’w cael ym mhob math o ofal plant ar gael yn Sir Benfro U002.
  • Mae diffyg darpariaeth ADY yn y gogledd, yn ogystal â diffyg gweithio/cyfathrebu cydgysylltiedig rhwng y rhai sy'n ymwneud â gofal i blant ag ADY.
  • Mae digonolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer plant ag ADY ac anghenion meddygol cymhleth yn wendid canfyddedig, yn enwedig ymhlith darparwyr gofal dydd llawn a gofal dydd sesiynol. Roedd yr anallu canfyddedig i ddarparu cymorth 1:1 i blant ag ADY ac anableddau yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro drwy gydol yr ymgynghoriad, ynghyd â darparwyr yn nodi bod angen i’r ALl, asiantaethau, rhieni a lleoliadau gofal plant gyfathrebu yn fwy eglur a’i gilydd. Roedd yr anallu i ddarparu cymorth 1:1 a chyllid annigonol yn ddau reswm allweddol a nodwyd.
  • O ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg, mae 13 o'r 64 darparwr gofal dydd a gwblhaodd y ffurflen hunanasesu gwasanaeth yn darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg ac yn darparu gofal plant dwyieithog. Mae'r holl leoliadau hyn wedi'u lleoli yn Sir Benfro U001, ac eithrio 1 sydd wedi'i leoli yn Sir Benfro U003. O'r 54 o warchodwyr plant, mae 3 yn darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg ac mae 3 yn ddwyieithog. Unwaith eto, mae pob un yn gweithredu yn Sir Benfro U001. Mae anawsterau o ran canfod a chyflogi staff Cymraeg
  • O ran tueddiadau ehangach, mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal plant yn teimlo nad oes digon o leoedd ar gyfer plant 0–2 oed neu blant 3-4 oed yn eu hardal. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal dydd llawn yn teimlo nad oes digon o leoedd ar gyfer plant 5-14 oed hefyd; roedd hyn yn llai amlwg ymhlith mathau eraill o ddarparwyr.

Canfyddiadau allweddol o'r arolwg rhieni a'r grwpiau ffocws

  • Ceir consensws cyffredinol bod ansawdd gofal plant yn dda; fodd bynnag, mynegodd rhieni bryderon ynghylch fforddiadwyedd gofal plant, yn ogystal â chyfyngiadau o ran hyblygrwydd a hygyrchedd, gyda rhai rhieni'n gorfod symud tŷ i ddod o hyd i ofal plant addas
  • Yn yr arolwg rhieni, cyfeiriwyd at amrywiaeth o faterion eraill, gan gynnwys nad oedd gofal cofleidiol ar gael yn eu hardal, neu bod gofal o’r fath yn gyfyngedig; bod darpariaeth gofal yn ystod y gwyliau yn gyfyngedig; bod lleoedd/cymorth cyfyngedig ar gyfer ADY/plant anabl; bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig; ac nad oedd darparwyr ASD ac ADHD hyfforddedig
  • Mae darpariaeth ADY yn aml yn ddrud ac mae gofal cofleidiol yn gyfyngedig a ddim yn cyd-fynd â threfniannau gweithio anhyblyg. Efallai fod hyn yn cael ei ddwysáu gan ddiffyg darpariaeth 1-1 i blant ag anghenion arbennig o uchel
  • Hoffai rhieni gael mwy o gyfleoedd i rannu profiadau, i drafod eu pryderon gyda'r Cyngor ac i gael sgyrsiau cyffredinol wyneb-yn-wyneb, er y cydnabuwyd y bu ymdrechion i hwyluso hyn ar-lein
  • Mae llawer o rieni'n dibynnu ar ofal plant anffurfiol (fel teulu estynedig a ffrindiau) i ddiwallu anghenion gofal plant.

Canfyddiadau allweddol gan ysgolion

  • Mae clybiau ar ôl ysgol yn boblogaidd ac yn cael eu mynychu'n dda ar y cyfan gan blant ysgolion cynradd ac uwchradd
  • Mae darpariaeth clybiau ar ôl ysgol yn hanfodol i blant ysgol gynradd, gyda llawer o rieni'n dibynnu ar y ddarpariaeth hon er mwyn gweithio
  • Mae llawer o blant wedi sylwi ar effaith COVID-19 ar y ddarpariaeth, gan gynnwys plant oedran ysgol gynradd, gyda phenaethiaid hefyd yn cydnabod y straen y mae hyn wedi'i roi ar adnoddau
  • Darperir clybiau brecwast am ddim mewn llawer o leoliadau,  ac mae tua hanner yr ysgolion yn darparu gofal ar ôl ysgol
  • Mae penaethiaid, ar y cyfan, yn credu bod digon o ddarpariaeth ar gael yn lleol i ateb y galw am ofal plant; fodd bynnag, mae rhieni'n dal i ofyn i ysgolion gynyddu'r ddarpariaeth cofleidiol.

Canfyddiadau allweddol gan randdeiliaid a chyflogwyr

  • Yn gyffredinol, mae rhanddeiliaid â barn gadarnhaol am y ddarpariaeth o ofal plant, yn enwedig o ran ansawdd y ddarpariaeth a lleoliad a hygyrchedd gofal plant. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ynghylch darpariaeth Ddwyieithog a fforddiadwyedd y ddarpariaeth
  • Mae fforddiadwyedd, ynghyd â diffyg gofal plant mewn ardaloedd hygyrch, yn rhwystrau allweddol, yn enwedig i deuluoedd incwm isel a rhieni di-waith sy'n chwilio am ofal plant
  • Mae angen darparu hyfforddiant o safon ynghyd â darpariaeth gofal plant sy'n agosach at gartrefi rhieni, ac o fewn pellter cerdded yn ddelfrydol
  • Mae angen i'r Cyngor fod yn fwy gweithgar wrth hyrwyddo recriwtio yn y proffesiwn gofal plant, gyda phwyslais arbennig ar warchodwyr plant
  • Mae pryderon ynghylch cynaliadwyedd y ddarpariaeth, yn enwedig ar ôl effaith(au) COVID-19

 

 

ID: 9108, adolygwyd 29/09/2022