Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Canlyniadau o Arolygon Ysgolion
Cyd-destun
Er mwyn cefnogi’r ddealltwriaeth o ddarpariaeth cofleidiol ledled y sir, cynhaliwyd arolwg o ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd o bob rhan o Sir Benfro gan ddefnyddio arolwg byr, ar-lein, dienw, ynghyd ag arolwg ychwanegol ar gyfer penaethiaid amrywiaeth o leoliadau ledled y sir. Roedd yr arolygon wedi'u seilio'n bennaf ar ddarpariaeth clybiau ar ôl ysgol, gyda chwestiynau ynghylch mynediad, argaeledd, fforddiadwyedd ac ansawdd gofal cofleidiol. Mae canfyddiadau pob arolwg i'w gweld isod.
Arolwg ysgolion cynradd
Cwblhawyd yr arolwg ar-lein gan gyfanswm o 75 o ddisgyblion ledled y sir. Isod ceir manylion grŵp blwyddyn pawb a ymatebodd; fel y gwelir, roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr ym Mlwyddyn 6, 23.68%, gyda’r nifer leiaf o ymatebion gan ddisgyblion Blwyddyn 5.
- Blwyddyn 1: (11.84%) 9
- Blwyddyn 2: (22.37%) 17
- Blwyddyn 3: (17.11%) 13
- Blwyddyn 4: (19.74%) 15
- Blwyddyn 5: (5.26%) 4
- Blwyddyn 6: (23.68%) 18
Argaeledd darpariaeth clybiau ar ôl ysgol
Yn ôl yr ymatebion i'r arolwg, mae mwyafrif helaeth y disgyblion yn mynd i'r ysgol lle ceir darpariaeth clwb ar ôl ysgol. O'r 74 o ymatebion a gafwyd, ymatebodd 93.2% yn gadarnhaol pan ofynnwyd a oes gan eu hysgol glwb ar ôl ysgol.
Nifer sy’n mynychu clybiau ar ôl ysgol
Fodd bynnag, roedd y niferoedd a oedd yn mynychu clybiau ar ôl ysgol yn llawer is, gyda dim ond 69.0% o'r 71 a ymatebodd yn nodi eu bod yn mynychu eu clwb ar ôl ysgol. O'r 22 o ymatebwyr a ddywedodd nad oeddent yn mynd i glwb ar ôl ysgol, dywedodd 13 mai'r rheswm oedd bod eu rhiant/gofalwr yn eu nôl o’r ysgol, a bod aelod arall o'r teulu yn dod i gasglu 3 arall. Y rhesymau eraill a roddwyd oedd 'Dydw i ddim eisiau mynd i glwb ar ôl ysgol', 'Rwy'n mynd i glwb chwaraeon', gydag un plentyn yn nodi bod y clwb ar ôl ysgol yn rhy ddrud i'w fynychu.
Pan ofynnwyd sawl diwrnod yr wythnos yr oeddent yn mynychu clwb ar ôl ysgol (o’r rhai sy'n mynychu), cafwyd yr ymatebion canlynol:
Fel y dangosir uchod, roedd 34.8% o’r disgyblion sy'n defnyddio clwb ar ôl ysgol (o gyfanswm o 46) yn mynychu un diwrnod yr wythnos, ac roedd 26.1% yn mynychu deirgwaith yr wythnos. Dim ond 8.7% oedd yn mynychu 5 diwrnod yr wythnos.
O ran y rheswm (neu resymau) dros fynychu clwb ar ôl ysgol, dywedodd y rhan fwyaf o blant mai'r rheswm oedd bod eu rhieni yn gweithio (gweler y tabl isod).
- Mae fy rhieni yn gweithio: (88.64%) 39
- Rwy'n hoffi mynd i glwb ar ôl ysgol: (9.09%) 4
- Mae fy ffrindiau'n mynd yno: (2.27%) 1
- Arall (nodwch os gwelwch yn dda): (0.00%) 0
Mwynhad o ddarpariaeth ar ôl ysgol
O'r plant sy'n mynychu clybiau ar ôl ysgol, mae'r mwyafrif llethol yn hoffi neu’n hoff iawn o’r ddarpariaeth. Yn wir, dim ond 3 ymatebydd allan o 44 a nododd nad ydynt yn hoffi eu clwb ar ôl ysgol, a dywedodd 3 ymatebydd arall nad ydynt yn o'u clwb ar ôl ysgol o gwbl. Nododd 21 o ymatebwyr eu bod yn hoff iawn o’u clwb ar ôl ysgol.
Roedd y rhesymau dros fwynhau'r clwb ar ôl ysgol fel a ganlyn:
"Rwy'n ei hoffi oherwydd mae'n fy nghadw i'n heini ac yn iach."
"Rwy'n hoffi’r clwb ar ôl ysgol oherwydd eich bod yn cael lliwio a thynnu lluniau. Rwy'n hoffi chwarae gyda fy ffrindiau. Hoffwn dreulio mwy o amser y tu allan."
"Rwy'n hoffi chwarae pêl-droed mewn clwb chwaraeon."
Roedd y rhesymau dros beidio â mwynhau'r clwb ar ôl ysgol fel a ganlyn:
"Dydw i ddim yn hoffi mynd, rydw i eisiau mynd adref fel pawb arall, mae'n ddiflas."
"Does dim un o fy ffrindiau yn mynd i'r clwb ar ôl ysgol. Yn aml, mae'n rhaid i mi ofalu am y plant bach. Hoffwn gael lle tawel i mi fy hun i ddarllen neu wneud rhywfaint o waith celf, ond ni allaf oherwydd bod yr holl blant bach eisiau i mi chwarae gyda nhw drwy'r amser. Hoffwn chwarae yn yr awyr agored fel yr oeddem yn arfer ei wneud, ond erbyn hyn dim ond ardal goncrit fach iawn sydd gennym i chwarae y tu allan."
Gweithgareddau clwb ar ôl ysgol
Nodwyd ystod eang o weithgareddau pan ofynnwyd i'r plant 'pa weithgareddau yr ydych chi’n hoff o’u gwneud yn y clwb ar ôl ysgol?'. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Celf / Crefft
- Chwaraeon a gweithgareddau corfforol
- Coginio
- Lego
- Tynnu lluniau a lliwio
- Ffilmiau
- Y celfyddydau creadigol
- Gemau cyfrifiadurol, Wii.
Pan ofynnwyd pa weithgareddau yr hoffai'r plant eu gwneud mewn clwb ar ôl ysgol, soniwyd am amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys y canlynol:
- Crefft: 6
- Gemau cyfrifiadurol: 4
- Coginio: 5
- Pêl-droed: 3
- Chwarae yn yr awyr agored: 2
- Hoci: 1
- Drama: 1
- Garddio: 2
- Dawnsio: 1
- Tynnu lluniau: 1
Ymddengys bod COVID-19 wedi newid y ffordd y mae lleiafrif sylweddol o blant yn mynd i glwb ar ôl ysgol (gweler isod). Nododd 42.2% o'r 45 o ymatebwyr fod COVID-19 wedi newid y ffordd y mae plant yn mynd i glwb ar ôl ysgol, gyda 57.8% yn dweud na fu unrhyw effaith.
Nodwyd amryw o resymau dros y newid yn y ffordd y mae plant yn mynd i glybiau ar ôl ysgol, gyda'r canlynol wedi'u rhestru fel y rhai mwyaf cyffredin:
- Cadw pellter cymdeithasol/swigod cymdeithasol: 3
- Clwb wedi cau neu leihau oriau: 2
- Newid ym mhatrwm gweithio rhieni gan arwain at fynychu’n llai aml: 1
- Pryder am gael COVID-19: 0
Roedd y sylwadau ychwanegol a ddarparwyd ar ddiwedd yr arolwg yn canmol y staff sy'n rhedeg y ddarpariaeth ar ôl ysgol ac yn nodi pa mor bwysig yw'r ddarpariaeth ar ôl ysgol i rieni sy'n gweithio. Dyma rai o’r sylwadau eraill:
- "Dydw i ddim yn ei hoffi ond mae'n rhaid i mi fynd. Dyw Mam ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd pan fydda i'n cyrraedd yr ysgol uwchradd gan nad oes clwb ar ôl ysgol yno, a dwi'n rhy ifanc i gerdded ar draws y dref ar fy mhen fy hun."
- "Rwyf eisiau i Covid 19 orffen."
- "Mae darpariaeth clwb ar ôl ysgol yn hanfodol i rieni sy'n gweithio."
Arolwg ysgolion uwchradd
Cwblhawyd yr arolwg ar-lein gan gyfanswm o 33 o ddisgyblion ledled y sir. Isod ceir manylion grŵp blwyddyn pawb a ymatebodd; fel y gwelir, roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyrym Mlwyddyn 11, 24.2%, a chafwyd y nifer leiaf o ymatebion gan ddisgyblion Blynyddoedd 8, 9, a 10. Ni chafwyd unrhyw ymatebion gan ddisgyblion ym Mlwyddyn 7.
- Blwyddyn 8: (9.1%) 3
- Blwyddyn 9: (12.1%) 4
- Blwyddyn 10: (12.1%) 4
- Blwyddyn 11: (24.2%) 8
- Blwyddyn 12: (12.1%) 4
- Blwyddyn 13: (30.3%) 10
Yn ôl ymatebion i'r arolwg, nid oedd 25.0% o'r 33 o ddisgyblion yn gwybod a oedd unrhyw glybiau ar ôl ysgol yn cael eu darparu yn yr ysgol neu ddim, gyda 9.4% yn dweud bod 1 neu 2 glwb. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd 5-6 a 7-8 o glybiau, gyda 7 ymatebydd yr un.
Nifer sy’n mynychu clybiau ar ôl ysgol
Nid yw'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr (32) yn mynychu unrhyw glybiau ar ôl ysgol, gyda 56.3% yn dweud nad ydynt yn mynd i unrhyw ddarpariaeth ar ôl ysgol (gweler isod).
O ran y rheswm (neu resymau) dros fynychu clwb ar ôl ysgol, dywedodd y rhan fwyaf o bobl ifanc nad oeddent eisiau mynychu (gweler y tabl isod).
- Dydw i ddim eisiau mynd i unrhyw glybiau ar ôl ysgol: (44.44%) 8
- Rwy’n mynd i glwb nad yw'n cael ei redeg gan yr ysgol: (5.56%) 1
- Rwy’n mynd i glwb chwaraeon: (5.56%) 1
- Rwy'n cymdeithasu gyda ffrindiau lle rwy'n byw: (5.56%) 1
- Rhaid imi ddal y bws adref: (5.56%) 1
- Arall: (33.33%) 6
O ran y rhai a nododd 'Arall', roedd y rhesymau a restrwyd yn cynnwys: ddim yn hoffi'r ddarpariaeth a oedd ar gael, diffyg ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth sydd ar gael, a dim darpariaeth ar gael. O'r rhai sy'n mynychu eu clwb ar ôl ysgol, roedd ymatebwyr (cyfanswm o 15) wedi'u rhannu'n gyfartal rhwng unwaith a dwywaith yr wythnos (46.7%), gyda 6.7% yn mynychu dair gwaith yr wythnos.
Rhestrwyd y rhesymau dros fynychu clwb ar ôl ysgol fel a ganlyn:
- Rwy'n hoffi mynd i glybiau ar ôl ysgol: (92.86%) 13
- Mae fy ffrindiau'n mynd yno: (7.14%) 1
Mathau o glybiau ar ôl ysgol a ddarperir
Cafwyd set amrywiol o atebion mewn ymateb i'r cwestiwn: 'Pa glybiau ar ôl ysgol ydych chi'n mynd iddyn nhw?'. Fel y dangosir isod, dangosodd yr arolwg mai’r clybiau ar ôl ysgol mwyaf cyffredin i ddisgyblion ysgolion uwchradd Sir Benfro oedd: cerddorfa, ysgrifennu creadigol, pêl-rwyd a roboteg.
- Roboteg: 2
- Ysgrifennu creadigol: 4
- Cerddorfa: 4
- Rygbi: 1
- Pêl-droed: 1
- Hoci: 1
- Clwb Minecraft: 1
- Pêl-rwyd: 2
Barn disgyblion ar ddarpariaeth ar ôl ysgol
O'r rhai sy'n mynychu clybiau ar ôl ysgol, nododd 8 o’r 12 ymatebydd fod y ddarpariaeth yn Dda Iawn neu'n Rhagorol, heb unrhyw ymatebydd yn nodi bod eu clwb ar ôl ysgol yn 'Wael' (gweler uchod). Atebodd un unigolyn fod angen gwell offer ar eu clwb ar ôl ysgol.
Pan ofynnwyd 'pa weithgareddau yr hoffech eu gwneud mewn clwb ar ôl ysgol', nodwyd ystod eang o weithgareddau.
- Rygbi: 5.0% 3
- Pêl-droed: 5.0% 3
- Hoci: 6.7% 4
- Pêl-rwyd: 5.0% 3
- Drama: 3.3% 2
- Gymnasteg: 1.6% 1
- Clwb Cyfrifiaduron: 8.4% 5
- Coginio: 8.4% 5
- Celf a Chrefft: 10.1% 6
- Canu: 3.3% 2
- Clwb Harddwch: 5.0% 3
- Clwb Ffitrwydd: 6.7% 4
- Gwaith Cartref: 3.3% 2
- Gwneud Ffilmiau: 6.7% 4
- Beicio Mynydd: 3.3% 2
- Sgiliau DJ: 3.3% 2
- Rhywle i ymlacio ar ôl ysgol: 3.3% 2
- Arall (wedi'i ysgrifennu yn y ddalen nesaf): 10.7% 6
O'r rhai a ysgrifennodd 'Arall', soniwyd am Saesneg (ysgrifennu/darllen/barddoniaeth), Hanes, gweithgareddau amgylcheddol, tenis, badminton a dringo.
Effaith y pandemig ar ddarpariaeth ar ôl ysgol
Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol brofiadau llawer o ddisgyblion o glybiau ar ôl ysgol. Er mai'r ymateb mwyaf cyffredin i 'Sut mae COVID-19 wedi newid eich profiad o glybiau ar ôl ysgol?' oedd 'heb newid', roedd yr ateb hwn yn aml gan ddisgyblion nad oedd yn mynychu clybiau ar ôl ysgol beth bynnag. Nododd llawer o ddisgyblion fod COVID wedi effeithio ar eu meddylfryd o ran gweithgareddau, neu fod clybiau wedi’u cynnal yn llai aml neu wedi’u cau'n llwyr.
- Ansawdd wedi gostwng: 2
- Newid meddylfryd o ran gweithgareddau a chlybiau: 2
- Cau neu leihau nifer y clybiau a gweithgareddau: 2
- Pryder am gael/trosglwyddo COVID-19: 1
- Heb newid: 3
- Ddim yn gwybod/yn ansicr: 2
Roedd y sylwadau ychwanegol a ddarparwyd ar ddiwedd yr arolwg yn cynnwys:
"Oherwydd diffyg sesiynau wyneb yn wyneb oherwydd Covid, mae wedi bod yn anodd mynychu’r dosbarthiadau yn rheolaidd hefyd, ac rwy'n teimlo bod fy addysg wedi cael ei effeithio."
"Nid ydym yn cael gwybod yn iawn am glybiau ar ôl ysgol, erbyn i mi glywed amdanynt maent yn llawn."
Arolwg penaethiaid
Cafwyd ymatebion gan 23 o ysgolion ar gyfer arolwg ar-lein y penaethiaid, fel y rhestrir isod.
- Ysgol Gynradd Gymunedol Aberllydan
- St Oswald's
- Ysgol Wirfoddol a Reolir Cosheston
- Ysgol Gynradd Gymunedol Stepaside
- Y Gelli Aur
- Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Yr Eglwys Yng Nghymru Dinbych-y-pysgod
- Holy Name School
- Ysgol Caer Elen
- Ysgol Gynradd Gymunedol Hook
- Ysgol Casblaidd
- Ysgol Gynradd Gymunedol Monkton Priory
- Ysgol Glannau Gwaun
- Ysgol Gynradd Gymunedol Arberth
- Ysgol Greenhill School
- Ysgol Wirfoddol a Reolir Yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn
- Ysgol Gymunedol Maenclochog
- Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast
- Ysgol Hafan Y Môr
- Ysgol Wirfoddol a Reolir Spittal
- Ysgol Penrhyn Dewi
- Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Yr Eglwys yng Nghymru St Aidan
- Ysgol y Preseli
- Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru St Marks
Mae cyfanswm yr ymatebion fesul USOA i'w gweld isod; fel y dangosir, roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn dod o ysgolion yn Sir Benfro U001 a Sir Benfro U003 (9). Cafwyd y nifer isaf o ymatebion gan Sir Benfro U002, sef 5.
Gofynnwyd i benaethiaid a oedd unrhyw un o'r darpariaethau canlynol ar waith yn eu hysgol ar adeg yr arolwg. Manylir ar y canlyniadau yn y tabl isod.
Fel y dangosir isod, mae bron i 87% o ysgolion yn darparu clwb brecwast am ddim ar hyn o bryd, gyda bron i hanner yn darparu clwb ar ôl ysgol. Fodd bynnag, ychydig iawn o ysgolion sy'n darparu clwb brecwast y telir amdano, Dechrau'n Deg neu ddarpariaeth gwyliau, sef 0%, 8.7%, ac 8.7% yn y drefn honno. Dylid nodi, er hynny, fod darpariaeth Dechrau'n Deg wedi'i chyfyngu gan ffactorau allanol, sef y meini prawf cod post a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Gofal plant ar ôl ysgol: 11 47.83%
- Gofal plant cofleidiol: 2 8.70%
- Iard chwarae: 5 21.74%
- Gofal plant yn ystod y gwyliau: 2 8.70%
- Clwb brecwast am ddim: 20 86.96%
- Clwb brecwast y telir amdano: 0 0.00%
- Dechrau'n Deg: 2 8.70%
- Gwarchodwyr plant: 13 56.52%
- Meithrinfa ddydd: 9 39.13%
- Arall: 3 13.04%
O'r rhai a ddewisodd 'Arall', rhestrwyd neiniau a theidiau a darpariaeth ar ôl ysgol ar safle arall.
Barn penaethiaid ar ddigonolrwydd gofal plant
Gofynnwyd i benaethiaid a oes digon o ofal plant ar gael yn lleol, yn eu barn hwy, i ddiwallu anghenion gofal plant teuluoedd sy'n mynychu'r ysgol. Mae'r ymatebion yn dangos darlun cymysg, gyda mwyafrif cymharol o’r farn bod digon o ofal plant ar gael. Fodd bynnag, mae 21.7% hefyd yn ansicr a oes digon o ofal plant, sy'n awgrymu bwlch gwybodaeth ar gyfer ysgolion Sir Benfro.
Sylwadau ar ddarpariaeth gofal plant
Pan ofynnwyd iddynt roi sylwadau pellach, nododd llawer o ymatebwyr nad oedd digon o ofal plant ar gael i ateb y galw oherwydd bod lleoliadau eisoes yn llawn; soniwyd bod meithrinfeydd, gwarchodwyr plant a Chylchoedd Meithrin/darpariaeth cofleidiol i gyd yn orlawn. Yn yr un modd, soniwyd fod costau yn problem. Dywedodd ymatebydd o Sir Benfro U002:
"Rydym yn ardal o amddifadedd uchel, gydag oddeutu 40/45% o ddysgwyr yn gymwys am brydau ysgol am ddim, er hynny nid oes gennym ddarpariaeth dechrau'n deg."
Mewn rhai achosion, beirniadwyd yr ansawdd neu'r ddarpariaeth ei hun. Ysgrifennodd un ymatebydd o U001 Sir Benfro:
"Rwy’n siomedig nad yw darparwyr gofal plant lleol yn casglu disgyblion ar ddiwedd y sesiwn ran-amser, ac mae hyn yn arwain at y disgyblion yn dechrau'r ysgol pan fyddant yn llawn amser yn hytrach na rhan-amser."
Mynegodd un arall o Sir Benfro U003 bryder ynghylch ansawdd gofal plant:
"Mae fy mhryderon yn ymwneud mwy ag ansawdd y ddarpariaeth sy'n cael ei chynnig yn y dref. Mae hyn o'r profiad yr ydym ni wedi’i gael gyda'r darpariaethau dan sylw."
Ceir tystiolaeth bellach o'r diffyg cyflenwad hwn a'r galw mawr am ddarpariaeth gofal plant yn ymateb y penaethiaid pan holwyd a oedd rhieni wedi cysylltu â'r ysgol ynghylch gofal plant yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, roedd rhieni wedi cysylltu â 60.9% o benaethiaid ynglŷn â'r ddarpariaeth gofal plant. Roedd pum ymateb yn sôn am rieni'n gofyn am ofal cofleidiol, gyda phedwar yn gofyn am wybodaeth neu gymorth ychwanegol ynghylch gofal plant y tu allan i'r ysgol gan gynnwys meithrinfeydd dydd a gwarchodwyr plant.
I lawer o'r rhai y cysylltwyd â hwy, roedd COVID-19 ac effaith y cyfyngiadau symud yn ffactor pwysig, gyda phedwar ymatebydd yn nodi y cysylltwyd â hwy am gymorth ychwanegol pan gafodd darpariaeth ar ôl ysgol/cyn ysgol ei lleihau neu ei hatal yn ystod y cyfnod clo.
Er enghraifft, dywedodd un pennaeth yn Sir Benfro U002:
'Mae ein Clwb Ar Ôl Ysgol yn cael ei redeg gan ddarparwr allanol o'r enw 'Simply Out Of School'. Cysylltodd rhieni â ni yn ystod y pandemig gan fod y clwb ar gau ac maent yn dibynnu ar y ddarpariaeth hon. Hefyd, dim ond llwyddo i dalu ei gostau y mae'r clwb ar hyn o bryd. Byddai'n broblem pe bai'n cau.'
Nid oes gan dros hanner y penaethiaid a holwyd le ar gael yn eu hysgol i ddatblygu darpariaeth gofal plant (gweler isod), gyda 13.0% yn dweud nad ydynt yn gwybod. Dim ond 34.8% a ddywedodd fod lle ar gael.
- Oes: (34.78%) 8
- Nac Oes: (52.17%) 12
- Ddim yn gwybod: (13.04%) 3
O'r rhai a nododd fod digon o le, manylodd un ymatebydd ar gynlluniau ar gyfer ysgol Gymraeg newydd a fydd yn ychwanegu darpariaeth gofal plant, gydag un arall yn nodi eu bod yn gweithio gyda'r Cyngor ar hyn o bryd i archwilio'r posibilrwydd o gynnig cylch chwarae wedi'i gofrestru'n breifat ar gyfer tendr preifat. Mynegodd dau arall gynlluniau i agor darpariaeth gofal plant newydd yn Ysgol Arberth ac Ysgol Gynradd Prendergast.
O ran fforddiadwyedd gofal plant, cafwyd amrywiaeth o ymatebion pan holwyd am y tebygolrwydd y bydd teuluoedd yn manteisio ar ofal plant pe bai'n cael ei gynnig. Roedd pum ymateb yn rhestru fforddiadwyedd fel mater o bwys sy'n effeithio ar y galw; pe bai'r ddarpariaeth yn rhad ac am ddim, neu o leiaf yn rhad, byddent yn disgwyl galw mawr. Dywedodd 14 o benaethiaid y byddai’r galw’n parhau, neu hyd yn oed yn cynyddu, pe bai mwy o ddarpariaeth gofal plant ar gael. Nododd dau na fyddai digon o alw naill ai oherwydd darpariaeth leol sydd eisoes yn bodoli neu oherwydd nad oedd digon o alw.
Effaith COVID-19 ar ddarpariaeth gofal plant
O ran COVID-19, roedd yr effaith ar y ddarpariaeth gofal plant yn gymysg. Nododd naw ymatebydd nad yw’r ddarpariaeth gofal plant yn cael ei heffeithio bellach, er bod pump o'r rhain yn sôn bod COVID-19 yn cael effaith dros dro ar y ddarpariaeth. Nododd wyth ymatebydd fod y ddarpariaeth wedi'i lleihau, gyda phump o'r ymatebion hyn yn nodi mai staffio oedd y prif reswm. Nododd dau ymatebydd fod llai o ddisgyblion yn denfyddio’r ddarpariaeth, a hynny yn rhannol oherwydd pryderon rhieni. Roedd un ymatebydd yn ansicr oherwydd ei fod yn athro newydd, ac nid oedd dau yn gymwys gan nad ydynt yn rhedeg unrhyw ddarpariaeth gofal plant.
Pan ofynnwyd a ydynt wedi sylwi ar unrhyw dueddiadau yn y galw am ofal plant dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ymatebodd 39.1% yn negyddol, gyda 34.8% yn ymateb yn gadarnhaol; Dywedodd 26.1% nad oeddent yn gwybod.
O'r rhai a atebodd yn gadarnhaol, nododd pump fod mwy o alw gan weithiwyr allweddol, plant agored i niwed a'r rhai sy'n newydd i'r ardal a heb gysylltiadau teuluol, a nodwyd y gwelwyd cynnydd yn y galw. Nododd un ymatebydd y bu gostyngiad yn y defnydd o glybiau ar ôl ysgol, er bod craidd o ddefnyddwyr rheolaidd a chyson wedi parhau; o ran y clwb brecwast ni fu unrhyw ostyngiad, gyda grŵp mawr o ddefnyddwyr rheolaidd. Nododd ymatebydd arall fod gofynion dysgu o bell COVID-19 yn gwneud anghenion acíwt gweithwyr allweddol yn fwy amlwg.
Yn olaf, roedd sylwadau ychwanegol a wnaed ar ddiwedd yr arolwg yn cyfeirio at amrywiaeth o faterion brys sy'n wynebu pob ardal. Nododd un ymatebydd ei bod yn anodd iawn gwneud cynlluniau cadarn ar hyn o bryd oherwydd nad ydynt yn gwybod beth a ddaw yn y dyfodol agos, gydag ymatebydd o Sir Benfro U002 yn nodi y byddai lle ychwanegol yn helpu'r ysgol i ddarparu rhagor o ofal plant mewn lleoliad gwledig bach. Cafwyd sylwadau pellach gan bennaeth yn Sir Benfro U003, a ysgrifennodd:
'Mae gan yr ardal nifer uchel o ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim/bregus a byddai'n elwa o sefydlu Dechrau’n Deg yma.'
Dywedodd un arall, hefyd o Sir Benfro U003:
'I’r rhan fwyaf o rieni, mae clybiau ar ôl ysgol yn golygu mwy na 2 awr. Unwaith y bydd y clwb yn croesi'r trothwy hwnnw mae'n rhaid iddynt gofrestru gydag CIW, mae hyn yn anochel yn golygu llawer o waith ychwanegol i'r 'clwb', a bydd rhaid i'r clwb dalu costau. Mae hyn yn codi pris mynychu'r clwb ac mae hynny'n cael effaith andwyol iawn ar redeg a chynnal darpariaeth ar ôl ysgol.'
Canfyddiadau allweddol o’r arolygon ysgolion
- Mae clybiau ar ôl ysgol yn boblogaidd ac yn cael eu mynychu'n dda ar y cyfan gan blant ysgolion cynradd ac uwchradd
- Mae darpariaeth clybiau ar ôl ysgol yn hanfodol i blant ysgol gynradd, gyda llawer o rieni'n dibynnu ar y ddarpariaeth hon er mwyn gweithio
- Mae llawer o blant wedi sylwi ar effaith COVID-19 ar y ddarpariaeth, gan gynnwys plant oedran ysgol gynradd, gyda phenaethiaid hefyd yn cydnabod y straen y mae hyn wedi'i roi ar adnoddau
- Darperir clybiau brecwast am ddim mewn llawer o leoliadau, ac mae tua hanner yr ysgolion yn darparu gofal ar ôl ysgol
- Mae penaethiaid, ar y cyfan, yn credu bod digon o ddarpariaeth ar gael yn lleol i ateb y galw am ofal plant; fodd bynnag, mae rhieni'n dal i ofyn i ysgolion gynyddu'r ddarpariaeth cofleidiol