Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Cyflwyniad
Comisiynwyd y Premier Advisory Group (PAG) i ddarparu Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (CSA) ar gyfer Cyngor Sir Penfro ("y Cyngor") yn ystod hydref 2021. Comisiynwyd y CSA hwn i ddiweddaru canfyddiadau CSA 2017, yn unol â gofyniad Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ddiweddaru eu CSA bob pum mlynedd. Seiliwyd yr asesiad ar ymchwil a gynhaliwyd drwy sawl math gwahanol o ymgynghori, gan gynnwys data o Ddatganiadau Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) a gwblheir gan ddarparwyr gofal plant, arolwg Smart Survey i rieni, cyfweliadau ffôn ychwanegol â darparwyr, grwpiau ffocws â rhieni, ac arolygon ar-lein gyda chyflogwyr, rhanddeiliaid ac ysgolion, gan gynnwys disgyblion a phenaethiaid.
Mae'r adroddiad CSA hwn yn adlewyrchu'r cyd-destun penodol ar gyfer darpariaeth gofal plant yn Sir Benfro o dymor yr hydref 2021 hyd dymor y gwanwyn 2022. Dywedodd awdurdodau lleol a sefydliadau ymchwil eraill fod darparwyr ledled Cymru wedi bod yn agos at orfod cau yn ystod y flwyddyn flaenorol. O ystyried hyn, mae'r adroddiad hwn yn ystyried y cyd-destun lleol yn Sir Benfro yn benodol ac yn ceisio deall yr angen am leoliadau gofal plant, yn ogystal â'r galw gan rieni am leoedd ar lefel leol.
Y cyd-destun strategol o ran digonolrwydd gofal plant
Mae Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016 (yn agor mewn tab newydd), a wnaed o dan adran 26 o Ddeddf Gofal Plant 2006, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi asesiadau o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant (Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant) yn eu hardal bob pum mlynedd ac i barhau i’w hadolygu. Mae'r Ddeddf hon yn ehangu ac yn egluro'r rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae fel arweinwyr strategol wrth ddarparu gofal plant yn lleol. Mae Deddf 2006 yn atgyfnerthu'r fframwaith y mae awdurdodau lleol eisoes yn gweithio oddi mewn iddo – mewn partneriaeth â'r sectorau preifat, gwirfoddol, annibynnol, cymunedol a’r sectorau a gynhelir – i lunio a diogelu gwasanaethau plant, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu gofal plant sy’n ddigonol, yn gynaliadwy, yn hyblyg ac sy'n ymateb i anghenion rhieni.
Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn sail i Gynllun Gofal Plant presennol Llywodraeth Cymru, Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair, ac mae'n nodi'r sail statudol ar gyfer:
- Disgwyliad dilys rhieni o ofal plant hygyrch o ansawdd uchel i blant a'u teuluoedd; a
- Cyfrifoldebau Awdurdodau Lleol am ddarparu gwybodaeth i rieni a darpar rieni i'w cefnogi yn eu rôl rhianta.
Mae hwn yn gam angenrheidiol tuag at sicrhau darpariaeth gofal plant ddigonol, gan alluogi awdurdodau lleol i nodi bylchau ac i sefydlu cynlluniau gweithredu i ddiwallu anghenion gofal plant rhieni sydd angen gweithio neu hyfforddi.
Wrth i gyfyngiadau cenedlaethol gael eu llacio ar ddiwedd 2021, mae llawer o ddarparwyr gofal plant wedi dychwelyd i'w swyddogaethau rheolaidd yn ofalus ac yn unol â'r canllawiau cenedlaethol. Dros y 6 i 12 mis nesaf, y cwestiwn allweddol i'r sector gofal plant fydd faint o adferiad a fydd o ran y galw am ofal plant, a pha mor gyflym y bydd yn dychwelyd at normalrwydd llwyr wrth i gymorth y llywodraeth gael ei dynnu’n ôl yn raddol. Mae'n bwysig cydnabod y gall llawer o ddarparwyr godi ffioedd ac addasu eu model busnes er mwyn lleihau costau, neu, mewn rhai achosion, gallent adael y farchnad yn gyfan gwbl wrth geisio delio â'r risgiau tymor byr a thymor canolig hyn.
Gwelwyd cynnydd yn y galw am ofal plant, gan fod rhieni a gofalwyr wedi cael anawsterau wrth sicrhau digon o leoedd gofal plant, yn benodol ar gyfer gofal y tu allan i oriau ysgol sy’n cyd-fynd a gofynion eu swyddi.
Mae arwyddion bod y sector yng Nghymru yn sefydlogi ac yn adfer ers anterth y pandemig. Adlewyrchir hyn yn yr asesiad, lle nododd y rhan fwyaf o ddarparwyr nad ydynt yn teimlo y bydd yr effaith yn para mwy na 12 mis, a'r disgwyliad yw y bydd COVID-19 yn arwain at batrymau newydd o ran y galw am ofal plant, wedi'u hysgogi gan y newidiadau ehangach y mae'r pandemig wedi'u cyflwyno i bob agwedd ar fywyd teuluol.
Mae'r asesiad wedi hysbysu’r Cyngor o’r sefyllfa bresennol o ran cyflenwad a galw'r sector gofal plant, ac mae unrhyw feysydd i'w gwella a nodwyd wedi’u defnyddio fel sail i'r cynllun gweithredu y bydd yr awdurdod yn ei ddefnyddio i symud y sector gofal plant yn ei flaen.
Asesiad digonolrwydd blaenorol Sir Benfro
Cwblhawyd yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (CSA) llawn diwethaf yn 2017. Wrth gwblhau'r CSA casglwyd data o sawl ffynhonnell, gan gynnwys data ar boblogaeth, gweithgarwch economaidd a ffactorau cymdeithasol. Cafwyd y wybodaeth hon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Cyllid a Thollau EM (HMRC), a nifer o adrannau'r Cyngor. Roedd y fethodoleg ymchwil a'r data a gasglwyd yn seiliedig yn bennaf ar holiaduron rhieni a gofalwyr, a ddosbarthwyd yn electronig i bob ysgol yn y sir er mwyn iddynt eu dosbarthu i rieni/gofalwyr. Roedd yr holiadur ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ogystal â hyn, cafodd arolwg electronig ei lanlwytho ar wefan ac ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor.
Yn ogystal â'r uchod, dosbarthwyd copïau caled o'r holiadur i bob lleoliad gofal plant gwirfoddol a phreifat, er mwyn cael barn rhieni/gofalwyr plant cyn oed ysgol. Er mwyn cael ymgynghoriad manwl gyda rhieni/gofalwyr plant ag anghenion ychwanegol, anfonwyd yr holiadur rhieni/gofalwyr i Ysgol Portfield a Grŵp Chwarae SNAP. Dosbarthwyd holiaduron hefyd drwy dudalen Facebook y Rhwydwaith Sipsiwn-Teithwyr er mwyn i rieni/gofalwyr eu cwblhau.
Cafwyd manylion y Darparwyr Gofal Plant o’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2016. Ni dderbyniodd y Cyngor ymateb gan 100% o’r rhai a holwyd, felly nid yw'r data hwn yn rhoi'r darlun llawn o ddarparwyr cofrestredig yn y Sir. Yn gyffredinol, cwblhaodd 75% o ddarparwyr cofrestredig y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth o fewn y cyfnod penodedig. Roedd y data a ddychwelwyd gan bob darparwr yn cynnwys:
- 74.4% o Warchodwyr Plant
- 91.3% o leoliadau Gofal Dydd Llawn
- 75% o Ofal Sesiynol
- 57.9% o ddarpariaethau y Tu Allan i Oriau Ysgol
Er mwyn darparu'r darlun ‘cyflawn’ o ofal plant yn Sir Benfro, defnyddiwyd data gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd. Anfonwyd holiaduron i'r holl leoliadau anghofrestredig hysbys yn Sir Benfro.
Cynhaliwyd ymgynghoriad â chyflogwyr drwy arolwg holiadur a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2016 a chynhaliwyd ymgynghoriad ag asiantaethau partner drwy grŵp ffocws a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2017. Cynhaliwyd ymgynghoriad pellach hefyd gyda chynrychiolwyr o Sefydliadau Ymbarél, y Bwrdd Diogelu Lleol, y Ganolfan Byd Gwaith, y Play Strategy Group, a'r Fforwm Cyfrwng Cymraeg.
Defnyddiwyd dulliau amrywiol i gael barn plant a phobl ifanc. Dosbarthwyd pecynnau ymgynghori ar gyfer plant 0-3 oed i leoliadau yn Sir Benfro a oedd yn cynnwys y cyfarwyddiadau canlynol:
- Dewiswch grŵp bach o 4-5 o blant o'r lleoliad i gymryd rhan yn y gweithgaredd
- Dylai gweithiwr allweddol pob plentyn i dreulio tua 10 munud yn mynd o gwmpas y lleoliad gyda nhw gyda chamera digidol i dynnu lluniau o'r pethau maen nhw'n hoffi eu gwneud yn y feithrinfa
- Defnyddiwch y daflen gofnodi i wneud nodiadau o'r hyn y dywedodd pob plentyn eu bod yn hoffi ei wneud
Dosbarthwyd holiaduron i holl athrawon cyswllt cynghorau ysgol, yn manylu ar ddiben yr arolwg, ac yn gofyn i gyngor yr ysgol am eu cwblhau. Er mwyn cael barn penaethiaid, dosbarthwyd holiadur yn electronig i bob pennaeth ysgol gynradd ac uwchradd. Yn ogystal â hyn, dosbarthwyd yr arolwg i bobl ifanc drwy wefan pobl ifanc Sir Benfro.
Argymhellion allweddol CSA 2017 oedd:
- Nid yw dosbarthiad gwarchodwyr plant yn gyson. Dim ond dau ddarparwr gofal dydd llawn sydd ar gael yn ardal fwyaf gwledig y Sir. Mae'r defnydd mwyaf o leoedd gofal plant yn ddefnydd rhan-amser, ac nid oes lleoedd gofal dydd llawn ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol, a does ond un gwarchodwr plant yn darparu gofal dros nos. Yn ogystal â hyn, nid oes unrhyw warchodwyr plant wedi'u cofrestru i ddarparu Addysg Blynyddoedd Cynnar. Mae diffyg dewis Cymraeg mewn gwirionedd, gan mai dim ond 3 gwarchodwr plant sy'n darparu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae’r nifer cyfyngedig o ddarparwyr Cymraeg i’w weld mewn Meithrinfeydd hefyd, gyda dim ond un feithrinfa ddydd cyfrwng Cymraeg yn y Sir, a honno’n darparu 41 o leoedd. Mae'r rhan fwyaf o ddarpariaethau meithrin i’w cael yng nghanol trefi, gyda'r ardaloedd gwledig yn wynebu diffyg lleoedd. At hynny, nid oes hyblygrwydd i rieni sy'n gweithio y tu allan i'r oriau 08:00am - 18:00pm. Dim ond yn ystod y cyfnod hwn y gellir cael lleoedd mewn meithrinfeydd.
- Mae gofal y tu allan i oriau ysgol yn lleihau ac mae nifer y clybiau gwyliau wedi gostwng ers y CSA blaenorol. Nid oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael yn y sector hwn.
- Un Nani cymeradwy sydd yn Sir Benfro sy'n darparu gofal yn y cartref. Ar hyn o bryd mae un plentyn yn derbyn gofal llawn amser a 2 ar ôl ysgol. Darperir gofal yn Saesneg ac nid oes gan y darparwr unrhyw leoedd gwag. Dim ond yn ystod oriau craidd y maent yn gweithredu ac nid ydynt yn darparu gofal dros y penwythnos na dros nos.
- Nododd rhieni fod gofal plant yn "ddrud". Yr ymateb mwyaf o ran gwelliannau oedd gofal plant mwy fforddiadwy ar gyfer y tymor yn ogystal â gwyliau ysgol. Dywedodd Rhieni a Gofalwyr hefyd yr hoffent gael mwy o ddarpariaeth cyn 8am ac ar ôl ysgol, er mwyn caniatáu iddynt weithio. Mae diffyg gofal cofleidiol yn y Sir. Er hyn, cadarnhaodd rhieni eu bod yn fodlon ag ansawdd y gofal plant a dderbynnir.
- Mae angen gwella mynediad at ofal plant mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal â mynediad at ddarpariaeth yn ystod y gwyliau yn y Sir gyfan.
- Mae angen hyrwyddo sgiliau Cymraeg o fewn y gweithlu gofal plant, er mwyn cynyddu hyder staff sy'n siarad Cymraeg.
- Ar hyn o bryd nid oes darpariaeth chwarae mynediad agored yn Sir Benfro, a bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r Grŵp Cyfleoedd Chwarae Digonol i fynd i'r afael â hyn.
- Mae angen briffio staff o fewn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am y budd-daliadau a’r hawliau sydd ar gael i rieni a gofalwyr cymwys i helpu tuag at gost gofal plant
Y farchnad gofal plant o'i gymharu â'r asesiad digonolrwydd diwethaf
Ers yr asesiad digonolrwydd diwethaf, mae'r Cyngor wedi adrodd bod y darparwyr canlynol yn darparu gwasanaethau yn weithredol yn y sector:
- Gofal dydd llawn: 31
- Gwarchodwyr plant: 56
- Gofal dydd sesiynol: 25
- Darparwyr y tu allan i oriau ysgol: 11
Daw'r ffigurau hyn o ddata Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2021, ond nid yw'r data hwn yn cynnwys unrhyw ddarparwyr nad oedd wedi cwblhau'r Datganiad.
Ers 2017 mae nifer y meithrinfeydd dydd llawn cofrestredig wedi gweld cynnydd bach o 21 i 31, ond mae nifer y gwarchodwyr plant gweithredol wedi gostwng yn sylweddol o 96 i 56.