Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Methodoleg
Cynhaliwyd y gwaith maes a'r ymchwil a lywiodd Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Cyngor Sir Penfro 2022 yng nghyfnod Tachwedd 2021-Ionawr 2022. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg ar ofal plant yng ngwanwyn 2022. Cynhaliwyd sawl math o ymchwil a dadansoddi:
- Ymchwil strwythuredig o’r ddesg
- Smart Survey Llywodraeth Cymru i rieni
- Data Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth wedi’i ddarparu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
- Cyfweliadau Ffôn â Chymorth Cyfrifiadur (CATI) gyda darparwyr gofal plant
- Grwpiau ffocws a chyfweliadau trylwyr gyda rhieni
- Holiadur Survey Monkey Ar-lein gyda rhanddeiliaid allweddol
- Holiadur Survey Monkey Ar-lein gyda chyflogwyr
- Arolwg Survey Monkey Ar-lein gyda'r ysgol, gan gynnwys penaethiaid, disgyblion cynradd a disgyblion uwchradd
Nodi materion demograffig ac economaidd-gymdeithasol allweddol
Cynhaliwyd ymchwil strwythuredig o’r ddesg er mwyn nodi ffactorau demograffig ac economaidd-gymdeithasol a fyddai â dylanwad amlwg ar ddigonolrwydd ac addasrwydd darpariaeth gofal plant y Blynyddoedd Cynnar a’r hawliau a ariennir ledled yr ALl yn awr ac yn y dyfodol. Roedd yr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar:
- Cyfanswm nifer y plant rhwng 0 a 4 oed sy'n derbyn gofal plant ym mhob ward yn ôl y nifer fras o blant rhwng 0 a 14 oed sy'n byw yn Sir Benfro
- Nifer y plant y rhagwelir y byddant yn byw yn Sir Benfro erbyn 2026 a chyfraddau geni lleol
- Tueddiadau ymfudo rhyngwladol ac ymfudo mewnol Sir Benfro
- Cyfraddau cyflogaeth a diweithdra yn Sir Benfro
- Nifer y plant yn Sir Benfro sy'n byw mewn cartrefi lle mae hawlwyr budd-daliadau diweithdra ac mewn aelwydydd incwm isel
- Nifer yr achosion o deuluoedd unig riant
- Incwm cyfartalog aelwydydd yn ôl ward ac Ardal Cynnyrch Ehangach Canol (MSOA)
- Ethnigrwydd plant dros 5 oed
- Nifer yr achosion o blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- Data’r Gymraeg.
Defnyddiwyd amrywiaeth o ffynonellau i gynnal ymchwil, gan gynnwys ONS, Stats Wales, yr Adran Addysg (DfE), yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
2.2 Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth ac Arolygon Ffôn gyda Darparwyr
Ein prif fethodoleg ar gyfer casglu data gan ddarparwyr Blynyddoedd Cynnar a gofal plant yn CSA Sir Benfro oedd cyfweliadau strwythuredig dros y ffôn. Bu tîm o ymchwilwyr PAG yn cyfweld ag amrywiaeth o ddarparwyr ledled y sir gan ddefnyddio meddalwedd cyfweld dros y ffôn â chymorth cyfrifiadur (CATI), gan ddilyn holiadur a ysgrifennwyd gan PAG ac a gymeradwywyd gan y Cyngor.
Cyfwelwyd tri math o ddarparwyr Blynyddoedd Cynnar a gofal plant:
- Cynrychiolwyr darparwyr gofal plant ar gyfer y sector Blynyddoedd Cynnar yn Sir Benfro, gan gynnwys meithrinfeydd a chyn-ysgolion
- Gwarchodwyr plant cofrestredig.
Cwblhawyd yr arolwg gan gyfanswm o 93 o ddarparwyr, 22 ohonynt yn rhai gofal dydd llawn, 21 gofal dydd sesiynol, 5 o ddarparwyr y tu allan i oriau’r ysgol a 45 o warchodwyr plant. Roedd hyn yn sicrhau cynrychiolaeth lawn ar draws y sir i gydbwyso'r data drwy gydol y broses.
Gofynnodd y cyfwelwyr gwestiynau penodol am ddigonolrwydd yn ogystal â chaniatáu trafodaeth fwy agored a oedd yn rhoi cyfle i ddarparwyr drafod eu profiadau, eu meddyliau a'u pryderon. Roedd y cwestiynau'n ymwneud â'r cyflenwad a'r galw am ofal plant, gan gynnwys y lleoedd gwag a'r rhestrau aros ar gyfer gwahanol fathau o leoliadau, yn ogystal â:
- Tueddiadau a arsylwyd ac a ragwelir o ran y cyflenwad a’r galw am ofal plant Blynyddoedd Cynnar yn ôl math dros y cyfnod o 5 mlynedd ers y CSA diwethaf
- Sut mae darparwyr gofal plant y Blynyddoedd Cynnar yn credu y gallai'r cyngor eu cefnogi orau, neu wella eu cefnogaeth, gan gynnwys o safbwynt cynaliadwyedd, cymorth ariannol a hyfforddiant
- Y cyflenwad o leoedd cynnig gofal plant yn ogystal â meithrin y cyfnod sylfaen a Dechrau'n Deg
- Nifer y lleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg sy'n cael eu llenwi a'u darparu, ynghyd â gwybodaeth am ddarpariaeth gofal plant mewn ieithoedd eraill
- Yr amseroedd y mae gofal plant ar gael a nifer y darparwyr gofal plant sy'n cynnig oriau gofal plant hyblyg
- Yr ystod o wasanaethau a gynigir gan ddarparwyr gofal plant e.e., darpariaeth gofal dydd llawn, ddarparu amrywiaeth o wasanaethau megis meithrinfa ddydd lawn, grwpiau chwarae cofleidiol ac ati.
- Ystod hyd sesiynau ac ystod y ffioedd a gynigir gan ddarparwyr.
Ar gyfer darparwyr gofal dydd nad oedd yn gallu cwblhau cyfweliad ffôn strwythuredig, a hynny oherwydd galw cynyddol neu ddiffyg argaeledd staff oherwydd COVID-19, neu os na lwyddwyd cysylltu â hwy dros y ffôn, cynigiwyd Cyfweliad Gwe â Chymorth Cyfrifiadur (CAWI). Roedd hyn yn dilyn yr un fformat cyfweliad a chwestiynau â'r cyfweliad CATI, ond trwy ddolen we y gallai darparwyr ei ddefnyddio a'i gwblhau yn eu hamser eu hunain.
2.3 Arolwg a Grwpiau Ffocws Llywodraeth Cymru gyda Rhieni
Fel rhan o'n hymgynghoriad, gwnaethom hefyd ystyried y galw am ofal plant drwy ddadansoddi anghenion rhieni/gofalwyr a nodwyd drwy arolwg a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar ffurf Smart Survey ar lefel awdurdod lleol (ALl).
Ategwyd hyn gan grwpiau ffocws a oedd yn cynnwys rhieni/gofalwyr a allai wynebu rhwystrau o ran gofal plant. Cynhaliwyd y sesiynau hyn gyda'r grwpiau canlynol:
- Rhieni sy'n gweithio a rhieni sy'n chwilio am waith neu gyfleoedd hyfforddi, gan sicrhau sylw i ystod eang o alwedigaethau
- Aelwydydd di-waith, teuluoedd incwm isel
- Teuluoedd unig riant
- Teuluoedd o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig
- Teuluoedd â phlant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Teuluoedd sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
Roedd pob sesiwn grŵp ffocws yn para 45 munud ac yn cynnwys rhwng pedwar a deg o gyfranogwyr fesul grŵp. Roedd hyn yn sicrhau bod cyfle i bob cyfranogwr gyfrannu ac i rannu eu meddyliau.
Cynlluniwyd y grwpiau ffocws mewn ffordd a oedd yn annog rhieni/gofalwyr i drafod eu profiadau gofal plant yn ogystal â chasglu nifer o bwyntiau data demograffig allweddol yn canolbwyntio ar:
- Rhwystrau canfyddedig a gwirioneddol sy’n atal defnydd
- Dewisiadau rhieni o ran lleoliadau ar gyfer eu plant
- Pam nad yw rhieni/gofalwyr cymwys yn cael mynediad at eu hawliau a ariennir
- Darpariaeth gofal plant lleol i blant ag ADY.
2.4 Arolwg ar-lein gyda Phenaethiaid a Disgyblion
Yn ogystal ag ymgynghori â rhieni/gofalwyr, crëwyd arolwg ar-lein addas ar gyfer plant a phobl ifanc, gydag arolygon ysgolion cynradd ac uwchradd ar wahân. Roedd yr arolygon yn holi plant a phobl ifanc am ddarpariaethau ar ôl ysgol, gan ganolbwyntio'n benodol ar fynediad, argaeledd ac a oedd eu hoff ddewisiadau ar gael iddynt. Darparwyd arolygon hefyd ar gyfer penaethiaid yr ysgolion, gyda chwestiynau am ofal cofleidiol gan gynnwys clybiau brecwast a darpariaeth ar ôl ysgol.
2.5 Arolwg ar-lein gyda Rhanddeiliaid a Chyflogwyr
Ymgynghorodd PAG ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys pobl sydd â buddiant mewn gofal plant a'u cynrychiolwyr, cyflogwyr lleol a phersonau sy'n eu cynrychioli hwy, a sefydliadau cyflogwyr ac ALlau cyfagos, i gasglu eu barn ar yr economi leol, ar rwystrau o ran gofal plant a allai effeithio ar y gweithlu, a thueddiadau a ddaeth i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Buom yn ymgynghori ag amrywiaeth o gyflogwyr ar draws gwahanol ddiwydiannau i ddarparu'r sampl fwyaf cynrychioliadol posibl o fewn yr amserlen.
Cynhaliwyd ymgynghoriad â rhanddeiliaid a chyflogwyr drwy arolwg ar-lein a oedd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cynlluniwyd yr arolwg ar-lein gan ddefnyddio Survey Monkey a chafodd ei e-bostio at randdeiliaid a chyflogwyr a nodwyd drwy ymarfer mapio rhanddeiliaid.
2.6 Dadansoddi Bylchau ac Argymhellion
Ar ôl cwblhau'r cam ymgynghori, ysgrifennodd PAG grynodeb o'n canfyddiadau ynghylch digonolrwydd lleoedd ar draws yr ALl. Defnyddiwyd technegau amrywiol i gael adroddiad cywir ar y bylchau presennol mewn digonolrwydd gofal plant ledled yr awdurdod a hynny trwy fapio'r cyflenwad i'r galw. Wedi hynny, dadansoddwyd ystod ac amrywiaeth y ddarpariaeth sydd ar gael yn y sir yn ôl grwpiau oedran penodol/priodol.
Yn seiliedig ar y dadansoddiad hwn, mae PAG wedi darparu argymhellion strategol pellach ar gyfer sut y gallai'r Cyngor fynd i'r afael â bylchau yn y cyflenwad neu'r galw a mynd i'r afael ag effaith COVID-19. Bydd PAG yn drafftio cynllun gweithredu manwl ar y cyd â'r Cyngor, a bydd y Cyngor yn gallu ei weithredu ar unwaith. Bydd hyn yn cynnwys cyfres o argymhellion sy'n nodi camau gweithredu cyraeddadwy a realistig yn seiliedig ar werth am arian er mwyn i’r Cyngor eu gweithredu