Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

Nodi Materion Demograffig ac Economaidd-Gymdeithasol Allweddol

Mae'r adran ganlynol yn cyflwyno dadansoddiad o’r sefyllfa yng Ngwanwyn 2022 sy'n canolbwyntio ar sut y gallai ffactorau demograffig ac economaidd-gymdeithasol effeithio ar y galw disgwyliedig a’r galw lleol am leoedd gofal plant.

Mae'r setiau data a'r metrigau perthnasol wedi'u halinio â Sir Benfro gan gynnwys:

  • Poblogaethau ac amcanestyniadau/rhagolygon presennol 0 – 4 blynedd
  • Cyfraddau geni ledled y sir ers 2017 er mwyn helpu i lywio'r dyraniad gofal plant yn y dyfodol
  • Nifer yr achosion o deuluoedd sy'n gweithio (ac sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig gofal plant 30 awr) ac incwm cyfartalog aelwydydd                                                                                                                                               
  • Nifer yr achosion o blant a phobl ifanc o gartrefi incwm isel
  • Nifer yr achosion o blant ag ADY.

Amcan y dadansoddiad canlynol yw ystyried i ba raddau y gallai fod angen i gynllunwyr gofal plant yn Sir Benfro barhau i flaenoriaethu eu galluoedd er mwyn ysgogi neu annog lleoedd gofal plant pellach mewn ardaloedd daearyddol penodol wedi'u targedu. Archwiliwyd amrywiaeth o feysydd, megis tueddiadau mudo, nifer y plant sy'n byw yn Sir Benfro yn ôl grŵp oedran a nifer y plant ag ADY.

Amcanestyniadau o'r boblogaeth ar gyfer Sir Benfro

Tabl 1 – Amcanestyniadau poblogaeth Sir Benfro (ar draws yr ALl) ar gyfer y pum mlynedd nesaf ac ar gyfer y tair blynedd flaenorol (Ffynhonnell: Stats Wales (yn agor mewn tab newydd))

  • 2018 125,055
  • 2019 125,350
  • 2020 125,650
  • 2021 125,989
  • 2022 126,301
  • 2023 126,580
  • 2024 126,838
  • 2025 127,073
  • 2026 127,297
  • 2027 127,486

Fel y dangosir yn Nhabl 1, rhagwelir y bydd y boblogaeth amcanestynedig ar gyfer Sir Benfro yn cynyddu'n gymedrol ar draws y sir, tua 2,400 rhwng 2018 a 2027.

Map o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Uwch (USOA) Cyngor Sir Penfro

Map o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Uwch USOA Cyngor Sir Penfro

Mae Atodiad, Tabl 1 yn dangos y wardiau etholiadol sy'n cyd-fynd â USOA.

Plant sy'n defnyddio gwasanaethau gofal plant yn Sir Benfro

Fel y dangosir yn Siart 1 (gweler Atodiad, Tabl 2) Sir Benfro U002 oedd â'r nifer uchaf o blant sy’n defnyddio gwasanaethau gofal plant, gyda 904 o blant, a Sir Benfro U001 oedd â'r nifer lleiaf o blant yn defnyddio gwasanaethau gofal plant. Roedd 1,009 o blant 3-4 oed yn cael gofal plant yn Sir Benfro, sy'n golygu mai dyma'r grŵp oedran mwyaf o blant rhwng 0-4 oed a oedd yn cael gofal plant yn yr ALl. Dilynir hyn gan 763 o blant 2 oed a 374 o blant 0–1 oed.

Cyfanswm nifer y plant 0-4 oed sy'n defnyddio gofal plant ym mhob USOA yn ol SASS

 

Y boblogaeth bresennol a'r boblogaeth a ragwelir o ran plant a phobl ifanc sy'n byw yn Sir Benfro

Siart 2 - Nifer fras y plant 0 – 4 oed sy'n byw yn Sir Benfro ar ganol 2020 (ffynhonnell: ONS Medi 2021 (yn agor mewn tab newydd))

Nifer fras y plant 0-4 oed sy'n byw yn Sir Benfro ar ganol 2020

Fel y dangosir yn Siart 2 (gweler Atodiad, Tabl 3 hefyd), plant 3–4 oed oedd y grŵp mwyaf o blant yn yr ystod 0-4 oed yn Sir Benfro, gyda 2,457 ohonynt, ac yna plant 0-1 oed, 2,103 a phlant 2 oed, 1,159. Mae'r nifer uwch o blant 3–4 oed a gofnodwyd yn byw yn Sir Benfro yn helpu i egluro'r canlyniadau yn Nhabl 1, sy'n cofnodi'r lefel uchaf o alw am ofal i blant 3-4 oed o fewn y grŵp 0-4 oed.

Mae Siart 2 yn dangos mai Sir Benfro U001 yw'r rhanbarth lleiaf, gyda 1,328 o blant 0-4 oed yn byw yn yr ardal. Sir Benfro U002 yw'r rhanbarth mwyaf, gyda 2,402 o blant 0-4.

Siart 3 - Nifer bras o blant a phobl ifanc rhwng 5 a 14 oed sy'n byw yn Sir Benfro o ganol 2020 (ffynhonnell: ONS Medi 2021 (yn agor mewn tab newydd))

Nifer bras o blant a phobl ifanc rhwng 5 a 14 oed sy'n byw yn Sir Benfro

Fel y dangosir yn Siart 3 (gweler Atodiad, Tabl 4), plant 8–11 oed yw'r grŵp mwyaf o blant yn yr ystod 5-14 oed yn Sir Benfro, gyda 5,907 ohonynt, ac yna pobl ifanc 12-14 oed, 4,416 a phlant 5-7 oed, 3,920. Mae Siart 3 hefyd yn dangos mai Sir Benfro U001 yw'r rhanbarth lleiaf, gyda 3,296 o blant 5-14 oed yn byw yn yr ardal. Sir Benfro U002 yw'r rhanbarth mwyaf, gyda 5,906 o blant 5-14.

Tabl 2 - Nifer y plant y rhagwelir a fydd yn preswylio yn Sir Benfro erbyn 2026 (ffynhonnell: Amcangyfrifon StatsWales (yn agor mewn tab newydd) yn seiliedig ar 2018

0-1 oed
  • Poblogaeth Breswyl 2020: 2215
  • Poblogaeth Breswyl 2023: 2165
  • Newid mewn niferoedd 2020-23: -50
  • Poblogaeth Breswyl 2026: 2122
  • Newid mewn niferoedd 20-26: -93
2 oed
  • Poblogaeth Breswyl 2020: 1141
  • Poblogaeth Breswyl 2023: 1125
  • Newid mewn niferoedd 2020-23: -16
  • Poblogaeth Breswyl 2026: 1095
  • Newid mewn niferoedd 20-26: -46
3-4 oed
  • Poblogaeth Breswyl 2020: 2462
  • Poblogaeth Breswyl 2023: 2316
  • Newid mewn niferoedd 2020-23: -146
  • Poblogaeth Breswyl 2026: 2269
  • Newid mewn niferoedd 20-26: 193
5-7 oed
  • Poblogaeth Breswyl 2020: 3913
  • Poblogaeth Breswyl 2023: 3757
  • Newid mewn niferoedd 2020-23: -156
  • Poblogaeth Breswyl 2026: 3586
  • Newid mewn niferoedd 20-26: -327
8-11 oed
  • Poblogaeth Breswyl 2020: 5887
  • Poblogaeth Breswyl 2023: 5583
  • Newid mewn niferoedd 2020-23: -304
  • Poblogaeth Breswyl 2026: 5309
  • Newid mewn niferoedd 20-26: -578
12-18 oed
  • Poblogaeth Breswyl 2020: 9574
  • Poblogaeth Breswyl 2023: 10,317
  • Newid mewn niferoedd 2020-23: +743
  • Poblogaeth Breswyl 2026: 10,451
  • Newid mewn niferoedd 20-26: +877
Cyfanswm 0-18
  • Poblogaeth Breswyl 2020: 25,192
  • Poblogaeth Breswyl 2023: 25,263
  • Newid mewn niferoedd 2020-23: +71
  • Poblogaeth Breswyl 2026: 24,832
  • Newid mewn niferoedd 20-26: -360 

Yn gyffredinol, disgwylir i bob grŵp oedran ac eithrio pobl ifanc 12–18 oed ddisgyn yn Sir Benfro rhwng 2020-2026. Disgwylir i’r nifer o bobl ifanc 12–18 oed barhau i gynyddu a chyrraedd 877 o blant ychwanegol erbyn 2026. Ar y llaw arall, rhagwelir y bydd 578 yn llai o blant 8–11 oed yn byw yn Sir Benfro rhwng 2020-2026, ac yn gyffredinol, bydd gostyngiad o 360 o blant 0-18 oed yn byw yn y sir yn yr un cyfnod. Byddai'r ffigurau hyn felly'n awgrymu y bydd y galw am ofal plant y Blynyddoedd Cynnar yn gostwng yn y blynyddoedd i ddod yn Sir Benfro.

Cyfraddau geni yn ardal Sir Benfro  

Mae Tabl 3 yn dangos nifer y genedigaethau byw a gofnodwyd yn Sir Benfro rhwng 2015 a 2019.

Cynyddodd cyfradd y genedigaethau byw rhwng 2018-19 ond yna gwelwyd gostyngiad amlwg yn 2020, gostyngiad o 27 rhwng 2019-20. Gallai hyn awgrymu bod COVID-19 wedi effeithio ar gyfradd genedigaethau byw drwy beri iddynt ostwng, ond efallai na cheir eglurhad llawn am y gostyngiad sydyn hwn mewn genedigaethau byw am flynyddoedd.

Yn ôl yr ONS, mae nifer y genedigaethau yn y flwyddyn ledled y DU hyd at ganol 2020 wedi gostwng i'w lefel isaf ers 2003, sy'n awgrymu nad Sir Benfro yw'r unig un sy'n gweld gostyngiad yn ei chyfradd genedigaethau byw.  Nodwyd gostyngiadau mewn cyfraddau ffrwythlondeb ledled y DU fel rheswm dros y digwyddiad hwn ar lefel genedlaethol, tra bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn nodi na ellir priodoli'r gostyngiad yn nifer y genedigaethau i COVID-19. Y rheswm am hyn yw bod yr holl enedigaethau a gofnodwyd hyd at ganol 2020 o leiaf yn deillio o feichiogrwydd a ddigwyddodd cyn y pandemig ym mis Mawrth 2020.

Tabl 4 - Cyfraddau genedigaethau yn Sir Benfro rhwng 2018-2020 (Ffynhonnell: ONS (yn agor mewn tab newydd) a Nomis (yn agor mewn tab newydd) drwy ONS 2021)

  • 2018 Genedigaethau Byw: 1,040
  • 2019 Genedigaethau Byw: 1,052
  • 2020 Genedigaethau Byw: 1,025

Ymfudo

Mae Tabl 4 yn dangos y duedd ymddangosiadol ar gyfer ardal Sir Benfro o ran mewnlifoedd ac all-lifoedd ymfudo rhyngwladol yn ogystal â mewnlifoedd ac all-lifoedd ymfudo mewnol (o fewn y DU). Mae lefelau mewnlif mudo rhyngwladol wedi aros yn weddol sefydlog, ond maent wedi gostwng o 289 yn 2013-14 i'r lefel ddiweddaraf o 248. I'r gwrthwyneb, mae'r gyfradd all-lif wedi cynyddu o 159 yn 2013-14 i 213 yn 2018-19, cyn gostwng eto i 121 yn 2019-20. Felly mae lefelau mewnlif ac all-lif ymfudo rhyngwladol Sir Benfro wedi gostwng yn gyffredinol rhwng 2013-20.

Mae'r ffigurau ar gyfer mudo mewnol yn dangos cynnydd yn y lefelau mewnlif ac all-lif o 2018-19 ymlaen. Fodd bynnag, mae'r lefel all-lif wedi gostwng o 3,629 yn 2013-14 i 2,859 yn 2019-20. I'r gwrthwyneb, mae lefel y mewnlif wedi cynyddu'n gyffredinol rhwng 2013-20 o 4,092 i 4,174 o bobl, ond mae wedi gostwng o'r flwyddyn flaenorol a gofnodwyd, sef 4,479. 

Tabl 4 – Tueddiadau mewnlifoedd ac all-lifoedd (a) mudo rhyngwladol a (b) ymfudo mewnol a welwyd ers 2013 – 2014 hyd at 2018 – 2019 yn Sir Benfro (ffynhonnell: ONS (yn agor mewn tab newydd) 2020) (ffynhonnell: Migration Observatory (yn agor mewn tab newydd)) (ffynhonnell: ONS mid 2020 (yn agor mewn tab newydd))

Ymfudo Rhyngwladol

Sir Benfro (mewnlif)

  • 2013-14: 289
  • 2014-15: 315
  • 2015-16: 297
  • 2016-2017: 289
  • 2017-18: 333
  • 2018-19: 281
  • 2019-20: 248

Sir Benfro (ail-lif)

  • 2013-14: 159
  • 2014-15: 216
  • 2015-16: 122
  • 2016-2017: 200
  • 2017-18: 189
  • 2018-19: 213
  • 2019-20:121

Newid ymfudo net

  • 2013-14: 130
  • 2014-15: 99
  • 2015-16: 175
  • 2016-2017: 89
  • 2017-18: 144
  • 2018-19: 68
  • 2019-20: 127
Ymfudo Mewnol

Sir Benfro (mewnlif)

  • 2013-14: 4092
  • 2014-15: 3717
  • 2015-16: 4410
  • 2016-2017: 4424
  • 2017-18: 4410
  • 2018-19: 4479
  • 2019-20: 4174

Sir Benfro (ail-lif)

  • 2013-14: 3629
  • 2014-15: 3675
  • 2015-16: 3680
  • 2016-2017: 3669
  • 2017-18: 3794
  • 2018-19: 3651
  • 2019-20: 2859

Newid ymfudo net

  • 2013-14: 463
  • 2014-15: 42
  • 2015-16: 730
  • 2016-2017: 755
  • 2017-18: 616
  • 2018-19: 1128
  • 2019-20: 1315 

Mae’n bosibl y bydd effeithiau COVID-19 a Brexit arwain at ostyngiad yn nifer y bobl sy'n dod i Gymru, a gallai olygu y bydd mwy o bobl yn gadael nac sy’n cyrraedd, gan arwain at fudiad net negyddol. Mae sawl rheswm posibl am hyn. Yn gyntaf, mae’r Oxford Migration Observatory yn dadlau y bydd System Mewnfudo newydd y DU, sy’n seiliedig ar bwyntiau, yn gosod mwy o gyfyngiadau ar nifer y gweithwyr sgiliau is o’r UE a gaiff ddod i'r DU, ac y bydd hyn yn debygol o gyfrannu at ostyngiad mewn mudo a allai effeithio ar Awdurdodau Lleol Cymru fel Sir Benfro.

Yn ail, mae'r ONS yn nodi bod cyfradd mudo mewnol wedi gostwng ledled y DU yn y cyfnod hyd at ganol 2020, gyda gostyngiad o 11.5% ers 2019. Y rheswm a awgrymwyd ar gyfer hyn oedd bod y cyfnod clo cenedlaethol a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2020 wedi arwain at lai o bobl yn gallu symud tŷ, a gallai hynny fod wedi cyfrannu'n rhannol at y cwympiadau a welwyd yn lefelau ymfudo mewnlif ac all-lif yn Sir Benfro yn 2020. Nid yw effaith lawn y ddau ffactor yn hysbys eto fodd bynnag.

ond dylid ystyried y ddau wrth amcangyfrif nifer y lleoedd gofal plant sydd eu hangen yn Sir Benfro.

Mae'r newid ymfudo net, y cyfeirir ato yn adrannau Ymfudo Rhyngwladol ac Ymfudo Mewnol Tabl 5, yn cyfeirio at gyfradd y mewnlif minws yr all-lif.

Ethnigrwydd

Tabl 15 – Cefndir ethnig disgyblion 5 oed a hŷn yn Sir Benfro (Ffynhonnell: StatsWales (yn agor mewn tab newydd), 2020/21) 14665

  • Gwyn Prydeinig 13,660
  • Teithiwr 35
  • Sipswn/Sipswn Roma (hyd at 2017) heb ei restru
  • Sipswn (0 2018) 115
  • Roma (o 2018) heb ei restru
  • Unrhyw gefnidr gwyn arall 220
  • Gwyn a Du Caribïaidd 50
  • Gwyn a Du Affricanaidd 40
  • Gwyn ac Asiaidd 95
  • Unrhyw gefndir cymysg arall 100
  • Indiaidd 15
  • Pacistanaidd 15
  • Bangladeshaidd 25
  • Unrhyw gefnidr Asiaidd arall 40
  • Caribïaidd heb ei restru
  • Africanaidd 10
  • Unrhyw gefndir du arall heb ei restru
  • Tsieneaidd neu Tseineaidd Brydeinig 20
  • Unrhyw gefndir ethnig arall 50
  • Anhysbys neu heb ei nodi 17 

Fel y dangosir gan yr uchod, mae gan Sir Benfro gyfran uchel o ddisgyblion 5 oed a throsodd sy'n nodi eu bod yn Wyn Prydeinig, gyda ffigwr o ychydig dros 93%. Dim ond 3% o ddisgyblion sy'n nodi eu bod o gefndir nad yw'n Wyn.

Cyflogaeth

Siart 4 – Nifer yr achosion o gyflogaeth a diweithdra yn Sir Benfro (NOMIS (yn agor mewn tab newydd) 2020 gan ddefnyddio data ONS 2011)

Nifer yr achosion o gyflogaeth yn Sir Benfro

Mae Siart 4 (gweler Atodiad, Tabl 5) yn dangos amlder oedolion sy'n 'economaidd weithgar', gan awgrymu eu bod mewn cyflogaeth. Sir Benfro U001 oedd â'r ganran uchaf o'i phoblogaeth wedi rhestru fel cyflogedig neu'n 'economaidd weithgar', ar 76.57%, gyda Sir Benfro U003 â’r ffigwr isaf, sef 73.91%. Yn seiliedig ar y data hwn, byddem yn disgwyl gweld cyfran uwch o rieni sy'n gweithio yn Sir Benfro U001 ac U002, a llai o rieni sy'n gweithio yn Sir Benfro U003.

Tabl 5 - Nifer yr achosion o blant sy'n byw mewn aelwyd lle mae pawb yn hawlio budd-daliadau diweithdra ym mis Mai 2017 (Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau (yn agor mewn tab newydd) 2019)

Nifer y Plant sy'n byw mewn Aelwydydd lle mae pawb yn Hawlio Budd-daliadau i’r Di-waith ym mis Mai 2017

0-4 oed

  • Sir Benfro U001: 230
  • Sir Benfro U002: 580
  • Sir Benfro U003: 490
  • Cyfanswm: 1,300

5-10 oed

  • Sir Benfro U001: 180
  • Sir Benfro U002: 615
  • Sir Benfro U003: 480
  • Cyfanswm: 1,275

11-15 oed

  • Sir Benfro U001: 165
  • Sir Benfro U002: 430
  • Sir Benfro U003: 385
  • Cyfanswm: 980

16-18 oed

  • Sir Benfro U001: 85
  • Sir Benfro U002: 155
  • Sir Benfro U003: 175
  • Cyfanswm: 415

0-15 oed

  • Sir Benfro U001: 575
  • Sir Benfro U002: 1625
  • Sir Benfro U003: 1355
  • Cyfanswm: 3,555

0-18 oed

  • Sir Benfro U001: 660
  • Sir Benfro U002: 1780
  • Sir Benfro U003: 1530
  • Cyfanswm: 3970 

Mae'r data a ddangosir uchod (gweler atodiad, Tabl 6 am ddadansoddiad pellach) yn dangos mai sir Benfro U002 oedd â'r nifer uchaf o blant sy’n byw mewn aelwydydd lle mae pawb yn hawlio budd-dal diweithdra, gyda 1,780 o bobl ifanc 0–18 oed, tra bo’r ffigwr isaf yn Sir Benfro U001, gyda 660. Er bod y niferoedd hyn yn absoliwt, maent yn dal i fod yn arwydd o ardaloedd lle mae llawer o blant, neu efallai ychydig, yn byw ar aelwydydd di-waith.

Enillion ac incwm teuluoedd

Tabl 6 – Enillion ac incwm teuluol yn ôl preswylfa (Ffynhonnell: ONS Nomis (yn agor mewn tab newydd), 2021)

Gweithwyr llawn amser Cyflog wythnosol gros:
  • Sir Benfro £568.8
  • Cymru £570.6
  • Prydain Fawr £613.1
Gweithwyr llawn amser gwrywaidd Cyflog wythnosol gros:
  • Sir Benfro £593.6
  • Cymru £599.7
  • Prydain Fawr £655.5
Gweithwyr llawn amser benywaidd Cyflog wythnosol gros:
  • Sir Benfro £483.5
  • Cymru £528.3
  • Prydain Fawr £558.1

Fel y nodwyd yn y data yn Nhabl 6, ar y cyfan mae'r cyflog wythnosol gros ar gyfer gweithwyr llawn amser ac ar gyfer gweithwyr llawn amser gwrywaidd yn cyd-fynd yn fras â chyfartaledd Cymru. Fodd bynnag, mae bwlch amlwg rhwng gweithwyr llawn amser benywaidd a'u cymheiriaid gwrywaidd yng Nghymru, yn ogystal ag â menywod gweddill Cymru. Mae hyn yn awgrymu bod mwy o fenywod ar incwm isel yn Sir Benfro ac felly bod ganddynt anghenion uwch o ran gofal plant fforddiadwy.

Menywod mewn cyflogaeth

Tabl 7 – Menywod mewn cyflogaeth a mathau eraill o weithgarwch economaidd (Ffynhonnell: ONS Nomis (yn agor mewn tab newydd), 2020/21)

  • Mewn cyflogaeth Nifer:25,800 Sir Benfro %:69.8 Cymru %:69.4
  • Cyflogeion Nifer:22,600 Sir Benfro %:62.1 Cymru %:63.3
  • Hunangyflogedig Nifer:3,100 Sir Benfro %:7.7 Cymru %:5.8
  • Economaidd weithgar (cyfanswm) Nifer:26,900 Sir Benfro %:73.2 Cymru %:72.3
  • Di - waith Nifer:1,200 Sir Benfro %:4.4 Cymru %:4.0

Mae Tabl 7 yn dangos fod cyfradd cyflogaeth menywod tua chyfartaledd Cymru; fodd bynnag, mae gwahaniaeth amlwg o ran canran y menywod sy'n hunangyflogedig o'i gymharu â gweddill Cymru.

Incwm cyfartalog aelwydydd

Mae Tabl 8 (gweler Atodiad, Tabl 7 am ddadansoddiad pellach) yn nodi mai Sir Benfro 012 oedd â'r cyfartaledd incwm cartref blynyddol gros isaf yn ôl MSOA, sef £29,900, ac mai Sir Benfro 004 oedd â'r uchaf, sef £45,300. Mae hyn yn cynrychioli gwahaniaeth o £15,400 rhwng y cyfartaledd incwm blynyddol gros isaf ac uchaf fesul aelwyd yn Sir Benfro.

Sir Benfro U001 oedd yr USOA gyda'r cyfartaledd incwm cartref blynyddol gros uchaf, sef £39,975, a Sir Benfro U002 oedd yr isaf, ar £36,300 y flwyddyn. Mae'n werth nodi mai'r USOA â'r incwm cyfartalog isaf o ran aelwydydd yw'r rhanbarth sydd hefyd â'r nifer fwyaf o blant mewn aelwydydd sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra, tra mai'r USOA â'r incwm cyfartalog uchaf o ran aelwydydd yw'r rhanbarth sydd â'r nifer lleiaf o blant yn y categori hwn.

Tabl 8 - Cyfartaledd incwm gros aelwydydd fesul MSOA ac USOA (ffynhonnell: SYG (yn agor mewn tab newydd) 2018)

Cyfartaledd Sir Benfro: £37,706

 
Sir Benfro U001

Sir Benfro 001

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 37,900
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 39,975

Sir Benfro 002

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 32,600
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 39,975

Sir Benfro 003

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 44,100
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 39,975

Sir Benfro 004

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 45,300
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 39,975
Sir Benfro U002

Sir Benfro 005

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 33,700
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 36,300

Sir Benfro 006

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 38,400
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 36,300

Sir Benfro 008

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 41,100
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 36,300

Sir Benfro 009

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 42,300
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 36,300

Sir Benfro 010

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 32,400
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 36,300

Sir Benfro 012

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 29,900
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 36,300
Sir Benfro U003

Sir Benfro 007

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 43,800
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 37,600

Sir Benfro 011

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 36,900
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 37,600

Sir Benfro 013

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 30,200
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 37,600

Sir Benfro 014

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 43,800
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 37,600

Sir Benfro 015

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 33,300
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 37,600

Sir Benfro 016

  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl MSOA: 37,600
  • Cyfartaledd incwm gros aelwydydd (£) yn ôl USOA: 37,600

Aelwydydd incwm isel

Fel y dangosir yn Siart 5 (am ddadansoddiad llawn gweler Atodiad, Tabl 8), Sir Benfro U001 sydd â'r ganran uchaf o blant mewn teuluoedd incwm isel absoliwt, sef 17.4%, a hynny er bod ganddynt incwm aelwydydd gros cyfartalog uwch, a Sir Benfro U002 sydd â'r ganran isaf, sef 14.76%. Fodd bynnag, ward yn Sir Benfro U002 sydd â'r gyfradd uchaf o blant mewn teuluoedd incwm isel, sef 24.9%, ac mae ward yn Sir Benfro U001 yn gydradd isaf, gyda 5.6%. Mae hyn yn awgrymu, o fewn rhanbarthau cyfoethocach, fod pocedi o ardaloedd incwm isel a thlodi, ac mewn rhanbarthau ychydig yn dlotach mae pocedi o gyfoeth amlwg hefyd. Mae'n bwysig bod y manylion hyn yn cael eu hystyried wrth ystyried y galw cymharol am ofal plant 

gan deuluoedd o gefndiroedd incwm isel, a bod dull lleol ar waith i ddiwallu anghenion penodol cymunedau.

Siart 5 – Canran y plant (o dan 16 oed) sy'n byw mewn teuluoedd incwm isel absoliwt (Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau (yn agor mewn tab newydd) 2020)

 

Canran y plant sy'n byw mewn teuluedd incwm isel absoliwt

Nifer yr achosion o blant ag ADY

Dangosodd Cyfrifiad ysgolion Sir Benfro fod 17,500 o ddisgyblion yn mynychu ysgolion yn Sir Benfro, a bod 392 o’r disgyblion hynny  â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig – h.y., 2.24%. (Stats Wales (yn agor mewn tab newydd), Stats Wales (yn agor mewn tab newydd) & Explore Education Statistics (yn agor mewn tab newydd)) Roedd hyn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol a chyfartaledd Sir Gaerfyrddin, ond yn uwch na Cheredigion:

  • ALl cyfagos 1: Ceredigion = 1.1%
  • ALl cyfagos 2: Sir Gaerfyrddin= 2.6%
  • Cyfartaledd Cenedlaethol = 3.7% (ffynhonnell: Gov.uk)

Tabl 9 – Hawlwyr budd-daliadau ar gyfer Lwfans Byw i'r Anabl0-16 (Ffynhonnell: ONS Nomis (yn agor mewn tab newydd), 2018)

  • Dan oed 5: 120
  • oed 5-11: 460
  • oed 11-16: 500

Mae Tabl 9 yn dangos nifer y plant ledled Sir Benfro sy'n hawlio Lwfans Byw i'r Anabl ar hyn o bryd. Fel y dangosir yn y tabl, mae cynnydd mawr yng nghyfraddau’r hawlwyr unwaith y bydd plant 5 oed neu’n hŷn.

Datblygiadau tai newydd sydd ar y gweill yn Sir Benfro

Mae Atodiad, Tabl 9, yn dangos nifer y datblygiadau tai cymeradwy a gyflenwyd gan y Cyngor, ac mae’n nodi nifer yr anheddau newydd (7,048) y bwriedir eu hadeiladu a'u llenwi ym mhob ward neu anheddiad yn Sir Benfro (Stats Wales). Mae hyn yn cynnwys nifer o brosiectau tai a phrosiectau adfywio mawr sydd ar y gweill a fydd, yn ôl pob tebyg, yn creu cyfnodau parhaus o alw cynyddol am leoedd hawl/gofal plant a ariennir yn y sir – gan gynnwys lleoliadau cynnig gofal plant 30 awr ac eraill fel Dechrau'n Deg.Er bod amrywiadau sylweddol o ran faint o gapasiti tai sydd i’w ddisgwyl ym mhob ardal, rhagwelir y bydd pob ward ac anheddiad yn gweld cynnydd yn nifer yr anheddau ynddynt erbyn 2024. Gallai hyn ddangos y gallai'r galw am ofal plant gynyddu ym mhob ardal, hyd yn oed os yw'r galw'n debygol o fod yn llawer uwch mewn rhai ardaloedd nag eraill.

Y Gymraeg

Tabl 10 – Y gallu i siarad Cymraeg (Ffynhonnell: StatsWales (yn agor mewn tab newydd), 2021)

  • Pawb sy'n 3 oed neu'n hŷn: 122,400
  • Yn gallu siarad Cymraeg: 39,300
  • Ddim yn gallu siarad Cymraeg: 83,000
  • Canran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg: 32.1

Mae Tabl 10 yn dangos cyfanswm nifer y preswylwyr Cymraeg eu hiaith yng Nghymru, gyda thua 32.1% o bobl Sir Benfro yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant a’r Asesiad o Anghenion Lles Lleol

Yn 2021, crëwyd Asesiad o Anghenion Lles Lleol wedi'i ddiweddaru gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, a bydd ar gael ar wefan y Cyngor o fis Mai 2022. Pan gynhaliwyd yr Asesiad o Anghenion Lles Lleol, roedd mynediad plant a theuluoedd at wasanaethau ac addysg arferol yn dal yn cael ei effeithio gan bandemig Covid-19. Oherwydd hyn, nid yw'r effaith ar iechyd a lles plant dros yr hir dymor yn hysbys ar hyn o bryd. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod ymchwil a rhai dangosyddion yn dangos y bu aflonyddwch, a hynny oherwydd Covid-19 yn arbennig, sy'n gwneud cynllunio ar adeg o ansicrwydd yn arbennig o heriol.O'r ymchwil a wnaed, mae nifer o ganfyddiadau allweddol a allai effeithio ar y sector gofal plant yn y tymor byr a'r tymor hir. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Mae gan Sir Benfro boblogaeth sy'n heneiddio, a gallai hyn effeithio ar y galw am ofal plant
  • Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn cynyddu yn y sir; dylid adlewyrchu hyn yn y ddarpariaeth gofal plant Cymraeg sydd ar gael
  • Mae Covid-19 wedi effeithio ar faint o rieni sy’n gweithio yn y sir
  • Gall gofal plant hygyrch a fforddiadwy fod yn rhwystr i rieni sy'n dychwelyd i'r gwaith

Bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro yn monitro ac yn adolygu eu dadansoddiadau er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu tueddiadau'r presennol a'r dyfodol pan fydd gwybodaeth newydd neu fwy dibynadwy ar gael. Bydd canfyddiadau'r Asesiad o Anghenion Lles Lleol yn llywio'r Cynllun Lles Lleol nesaf, i'w gwblhau erbyn mis Mai 2023.

Canfyddiadau Allweddol

  • Tueddiadau poblogaeth sy'n gostwng: mae'r gyfradd genedigaethau byw wedi aros yn weddol wastad yn Sir Benfro, gyda 1,040 yn 2018, 1,052 yn 2019, a 1,025 yn 2020. Yn ogystal, disgwylir i nifer y plant 0-18 oed ostwng rhwng 2023-2026, o 25,263 i 24,832. Gallai'r dangosyddion hyn awgrymu y gallai'r galw am ofal plant ostwng ychydig yn Sir Benfro yn y blynyddoedd i ddod. Mae data diweddaraf Nomis yn dangos bod y boblogaeth o blant 0-4 oed sy'n byw yn Sir Benfro wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bod gostyngiad yn yr un grŵp i’w weld ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig hefyd. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r gostyngiad yn nifer y plant yn y grŵp oedran hwn yn Sir Benfro yn anghyffredin, gan fod patrwm tebyg yn cael ei ailadrodd ar lefel genedlaethol hyd at ganol y 2020au.
  • Gwahaniaethau o ran ystod oedran: mae llawer mwy o blant 3-4 oed sy'n byw yn Sir Benfro ac sy’n cael mynediad at ofal plant yn y sir o gymharu â phlant o grwpiau oedran eraill, megis plant 0-2 oed. Felly, ar hyn o bryd mae'r galw am ofal plant yn Sir Benfro yn uwch ar mewn rhai grwpiau oedran o gymharu ag eraill. Yn yr un modd, mae rhai Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Uwch (USOA) (sy'n cynnwys 60 ward Sir Benfro, gweler Atodiad, Tabl 1), yn fwy nag eraill o ran y boblogaeth plant, h.y. mae Sir Benfro U002 yn fwy na Sir Benfro U001
  • Gwahaniaeth economaidd rhwng ardaloedd: Mae rhai ardaloedd â lefelau uwch o ddiweithdra a phlant sy’n byw mewn aelwydydd lle mae pawb yn hawlio budd-dal diweithdra o gymharu ag eraill. Er enghraifft, yn 2017, nododd Sir Benfro U002 bod 1,780 o bobl ifanc 0–18 oed y rhanbarth yn byw mewn aelwyd lle mae pawb yn hawlio budd-dal diweithdra, a Sir Benfro U001 ond wedi nodi 660.
  • Tueddiadau ymfudo: mae lefel mewnlif ac all-lif mudo rhyngwladol wedi aros yn sefydlog yn Sir Benfro rhwng 2013-2020, a’r un peth i’w weld yn lefel mewnlif mudo mewnol yn ystod yr un cyfnod. Yr unig duedd ymfudo sydd wedi gostwng yw'r all-lif o fudo mewnol, sydd wedi gostwng o 3,629 i 2,859 rhwng 2013-2020. Yn gyffredinol, gallai'r tueddiadau hyn awgrymu y gallai'r galw am ofal plant gynyddu yn y tymor byr o ganlyniad i fudo

Nifer y disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Canfuwyd bod gan Sir Benfro nifer uwch o ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig o gymharu â sir gyfagos Ceredigion, ond bod y nifer yn is na Sir Gaerfyrddin. At ei gilydd, mae 2.24% o ddisgyblion Sir Benfro gydag ADY.

ID: 9112, adolygwyd 03/10/2023