Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

Trosolwg o'r Ddarpariaeth Gofal Plant Bresennol a Chanlyniadau Arolygon Darparwyr a Gwarchodwyr Plant

Gofal Plant a Ariennir yng Nghymru

Yng Nghymru, mae amrywiaeth o hawliau a ariennir yn bodoli i gefnogi rhieni/gofalwyr gyda chost gofal plant. Mae'r canlynol yn manylu ar y gwahanol fathau hyn o hawliau a ariennir sydd ar gael ledled Cymru.

Cyfnod Sylfaen (h.y., Hawl i Addysg Gynnar/Addysg Gynnar a Ariennir)

10 Awr ar gyfer Plant 3-4 Oed

Mae gan bob plentyn 3-4 oed hawl i gael hyd at bum tymor o addysg Blynyddoedd Cynnar rhan amser cyn iddynt ddechrau addysg orfodol. Cynigir hyn mewn cymysgedd o leoliadau a ariennir, gan gynnwys Cylchoedd Chwarae, Cylchoedd Meithrin, ysgolion a meithrinfeydd dydd.

Cynnig Gofal Plant Cymru

20 Awr Ychwanegol ar gyfer Plant 3-4 Oed

Mae rhai plant yn gymwys i dderbyn 20 awr ychwanegol o ofal plant wedi'i ariannu ar gyfer dechrau'r tymor ar ôl iddynt droi'n 3 oed. Gall rhieni/gofalwyr wirio a ydynt yn gymwys (yn agor mewn tab newydd)

Dechrau'n Deg

Gall rhai plant dwyflwydd oed yng Nghymru gael 12.5 awr yr wythnos o addysg gynnar am ddim fel rhan o gynllun Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn darparu gofal plant o safon i rieni/gofalwyr pob plentyn cymwys, am 2 awr a hanner y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, am 39 wythnos. Rhaid i blant cymwys fyw o fewn ardal Dechrau'n Deg i dderbyn y cyllid hwn; caiff hyn ei bennu gan godau post.

Elfen Gofal Plant y Credyd Cynhwysol

Efallai y gall rhieni/gofalwyr hawlio hyd at 85% o gostau gofal plant yn ôl os ydynt yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Fel arfer, mae'n rhaid i ymgeiswyr naill ai fod yn gweithio (waeth beth fo'r oriau a weithir) neu fod wedi cael cynnig swydd.

Gofal Plant Di-dreth

Pan fydd rhieni/gofalwyr yn cofrestru ar gyfer cyfrif gofal plant di-dreth, am bob £8 y maent yn ei dalu i mewn, bydd y llywodraeth yn talu £2 i dalu'r darparwr gofal plant. Gall rhieni/gofalwyr gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) i bob plentyn i helpu gyda chostau gofal plant.

Help i Fyfyrwyr

Os yw rhiant/gofalwr yn mynychu cwrs amser llawn neu ran-amser ac yn cael cyllid myfyrwyr israddedig a bod ganddynt o leiaf un plentyn o dan 15 oed sy'n ddibynnol yn ariannol (neu o dan 17 oed os oes ganddynt ADY), efallai y bydd ganddynt hawl i gael y grant gofal plant a Lwfans Dysgu Rhieni drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae'r adran hon wedi'i llywio gan yr arolygon/ymchwil canlynol:

  1. Arolwg Darparwyr Gofal Plant CSA Cyngor Sir Penfro – a gynhaliwyd gan Premier Advisory Group drwy Gyfweliadau Ffôn â Chymorth Cyfrifiadur (CATI) rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Ionawr 2022.
  2. Cyfraniad darparwyr gofal plant Cyngor Sir Penfro at adroddiad/ymarfer casglu data Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) haf 2021.

Cafodd Arolwg Darparwyr Gofal Plant CSA y Cyngor ar gyfer 2021-22 ei gwblhau gan gyfanswm o 93 o ddarparwyr gofal plant. Dyma ddadansoddiad o'r mathau o ddarparwyr a gwblhaodd yr arolwg:

  • Gofal dydd llawn – 24% (Mae'r canrannau yn yr adran hon wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf. Efallai na fydd swm y canrannau yn 100% oherwydd talgrynnu)
  • Gwarchodwyr plant cofrestredig – 48%
  • Gofal dydd sesiynol – 23%
  • Gofal y Tu Allan i Oriau Ysgol (gan gynnwys Clybiau ar ôl Ysgol, Clybiau Brecwast, Clybiau Gwyliau a Chynlluniau Chwarae Gwyliau) – 5%

Cwblhaodd cyfanswm o 118 o ddarparwyr y datganiad hunanasesu gwasanaeth, gan gynnwys 64 o ddarparwyr gofal dydd i blant a 54 o warchodwyr plant cofrestredig, sy'n cyfateb i gyfradd ymateb o 96%.

Nifer y darparwyr gofal plant a'r math o wasanaeth

Ar hyn o bryd yn Sir Benfro mae’r canlynol yn gweithredu:

  • Gofal dydd llawn: 31
  • Gwarchodwyr plant: 56
  • Gofal dydd sesiynol: 25
  • Darparwyr y tu allan i oriau ysgol: 11

At ei gilydd, mae darparwyr wedi'u cofrestru i ofalu am 2407 o blant (Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys y 5 lleoliad na wnaethant gwblhau'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth)

Mae'r cyfrannau o fathau penodol o ofal a ddarperir ar draws y sir i'w gweld yn y siart isod:

Mae'r cyfrannau o fathau penodol o ofal a ddarperir ar draws y sir

 

Ar hyn o bryd dim ond un Crèche cofrestredig sy'n gweithredu yn y Sir. Ar hyn o bryd nid oes darpariaeth Nani na darpariaeth Chwarae Mynediad Agored yn gweithredu yn Sir Benfro.

Nifer y plant ar lyfrau darparwyr gofal plant, yn nhymor yr hydref 2021, wedi’i alinio â grŵp oedran:

 

0-1 oed: 85

1-2 oed: 311

2 oed: 766

3 oed: 707

4 oed: 308

5-7 oed: 59

8-11 oed: 404

12-14 oed: 25

15-17 oed: 1

Mae Tabl 2 yn yr Atodiad yn dangos nifer y plant sy'n cael gofal plant ym mhob grŵp oedran, wedi’i alinio â'r ward.

Nifer y plant sydd â lleoedd ar amser llawn, rhan-amser ac ad hoc, o hydref 2021, wedi'u halinio â ward a USOA:

Sir Benfro U001

Ward
Cyfanswm y plant ar y llyfrau
Cyfanswm sy'n mynychu yn llawn amser
Cyfanswm sy'n mynychu yn rhan-amser
Cyfanswm sy'n mynychu ar sail ad hoc
Cilgerran 38 2 36 0
Clydau 6 5 1 0
Crymych 154 46 75 33
Llandudoch 19 1 18 0
Dinas Cross 21 0 21 0
Gogledd Ddwyrain Abergwaun 120 0 87 33
Gogledd Orllewin Abergwaun 57 9 44 4
Wdig 11 0 11 0
Trefdraeth 16 16 0 0
Scleddau 10 1 5 4
Treletert n/a n/a n/a n/a
Llanrhian 15 15 0 0
Tyddewi 26 0 26 0
Solfach 44 20 23 1
Maenclochog 36 14 22 0
Rudbaxton 51 2 49 0
Wiston 57 13 42 2
Cyfanswm 690 144 464 82

Sir Benfro U002

Ward
Cyfanswm y plant ar y llyfrau
Cyfanswm sy'n mynychu yn llawn amser
Cyfanswm sy'n mynychu yn rhan-amser
Cyfanswm sy'n mynychu ar sail ad hoc
Hwlffordd castell 70 0 65 5
Hwlffordd Garth 189 7 121 61
Hwlffordd Prendergast 125 30 46 49
Hwlffordd Portfield 255 38 159 58
Hwlffordd Priordy 21 3 18 0
Bont Myrddin 10 2 7 1
Camros 95 1 84 10
Johnston 133 5 103 25
Llanisan-yn-rhos 9 0 4 5
The Havens 57 0 27 30
Burton 5 0 4 1
Llangwm 54 1 26 27
Neyland Dwyrain 39 14 22 3
Neyland Gorllewin 7 1 6 0
Aberdaugleddau Canol n/a n/a n/a n/a
Aberdaugleddau Dwyrain 15 6 5 4
Aberdaugleddau Gogledd 9 0 9 0
Aberdaugleddau Hakin n/a n/a n/a n/a
Aberdaugleddau Hubberston 202 10 171 21
Aberdaugleddau Gorllewin 36 0 36 0
Cyfanswm 1322 118 909 295

Pembrokeshire U003

Ward
Cyfanswm y plant ar y llyfrau
Cyfanswm sy'n mynychu yn llawn amser
Cyfanswm sy'n mynychu yn rhan-amser
Cyfanswm sy'n mynychu ar sail ad hoc
Llanbed Felffre 21 2 19 0
Martletwy
Arberth 211  19  190 
Arberth Wledig 46  35 
Amroth  n/a  n/a  n/a  n/a 
East Williamston  69  34  32 
Cilgeti/Begeli 24  19 
Saundersfoot  48  22  25 
Doc Penfro: Canol n/a  n/a  n/a  n/a 
Doc Penfro: Llanion  145  87  53 
Doc Penfro: Marchnad
Doc Penfro:Pennar  47  45 
Caeriw 30  22 
Llandyfai 12  12 
Maenorbyr 29  21 
Penfro St Michael  n/a  n/a  n/a  n/a 
Hundleton  21  18 
Pembroke Monkton  27  27  0
Penfro St Mary Gogledd 161 3 109 49
Penfro St Mary De 16 1 15 0
Penalun 6 1 4 1
Dinbych-y-pysgod Gogledd 147 16 84 47
Dinbych-y-pysgod De 17 1 9 7
Cyfanswm 1144 144 805 195

Ar draws bron pob ward, roedd y rhan fwyaf o'r plant a oedd yn defnyddio lleoedd gofal plant yn gwneud hynny ar sail rhan-amser.

Cyflenwad a Galw yn ôl Math o Ofal Plant

Mae'r tabl isod yn cyflwyno’r canlynol yn ôl y math o ddarparwr/sector:

  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd a gynigir ar ddiwrnod arferol yn ystod y tymor
  • Nifer cyfartalog y lleoedd a gynigir ar ddiwrnod arferol yn ystod y tymor         
  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd a gynigir ar ddiwrnod arferol yn ystod y gwyliau
  • Nifer cyfartalog y lleoedd a gynigir ar ddiwrnod arferol yn ystod y gwyliau

Gofal dydd llawn

  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd yn ystod y tymor: 30
  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd yn ystod y gwyliau: 0
  • Nifer cyfartalog y lleoedd yn ystod y tymor: 28
  • Nifer cyfartalog y lleoedd yn ystod gwyliau: 21

Gofal dydd sesiynol

  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd yn ystod y tymor: 14
  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd yn ystod y gwyliau: 0
  • Nifer cyfartalog y lleoedd yn ystod y tymor: 18
  • Nifer cyfartalog y lleoedd yn ystod gwyliau: 1

Gwarchodwr plant cofrestredig

  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd yn ystod y tymor: 6
  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd yn ystod y gwyliau: 8
  • Nifer cyfartalog y lleoedd yn ystod y tymor: 6
  • Nifer cyfartalog y lleoedd yn ystod gwyliau: 6

Clwb ar ôl Ysgol

  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd yn ystod y tymor: 15
  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd yn ystod y gwyliau: 0
  • Nifer cyfartalog y lleoedd yn ystod y tymor: 21
  • Nifer cyfartalog y lleoedd yn ystod gwyliau: 7

Arall

  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd yn ystod y tymor: 14
  • Y nifer fwyaf cyffredin o leoedd yn ystod y gwyliau: 4
  • Nifer cyfartalog y lleoedd yn ystod y tymor: 14
  • Nifer cyfartalog y lleoedd yn ystod gwyliau: 4

Nifer y darparwyr sy'n gweithredu ar ddiwrnodau penodol yn ystod gwyliau'r ysgol, yn ôl y math o ddarparwr:

Gwarchodwyr plant

Gwyliau Ysgol

Llun

Mawrth

Mercher

Iau

Gwener

Sadwrn

Sul

Gwyliau'r Haf 9 8 9 8 8 0 0
Hanner Tymor Hydref 3 4 4 3 4 0 0
Gwyliau'r Nadolig 5 3 5 4 5 0 0
Hanner Tymor Chwefror 5 4 5 5 4 0 0
Gwyliau'r Pasg 9 8 9 8 8 0 0
Hanner tYMOR mAI 9 8 9 8 8 0 0

Gofal dydd llawn

Gwyliau Ysgol

Llun

Mawrth

Mercher

Iau

Gwener

Sadwrn

Sul

Gwyliau'r Haf 2 2 2 2 2 0 0
Hanner Tymor Hydref 2 2 2 2 2 0 0
Gwyliau'r Nadolig 2 2 2 2 2 0 0
Hanner Tymor Chwefror 2 2 2 2 2 0 0
Gwyliau'r Pasg 2 2 2 2 2 0 0
Hanner Tymor Mai 2 2 2 2 2 0 0

 

Ar hyn o bryd, nid yw'r un o’r darparwyr gofal dydd sesiynol na’r darparwyr gofal y tu allan i oriau ysgol a ymatebodd i'r arolwg yn cynnig gofal yn ystod gwyliau ysgol.

Cadarnhaodd 89% o'r gwarchodwyr plant a holwyd eu bod yn parhau i ddarparu gofal plant ar ddiwrnodau HMS ysgol, o gymharu â 67% o ddarparwyr gofal dydd llawn, ac mae 62% o ddarparwyr gofal dydd sesiynol yn parhau i ddarparu gofal ar ddiwrnodau HMS ysgol, ac nid oes clybiau ar ôl ysgol na gofal y tu allan i oriau ysgol yn darparu gofal yr adegau hyn.

O'r rhai a arolygwyd, ar hyn o bryd mae 2 warchodwr plant yn cynnig gofal ar benwythnosau a 2 warchodwr plant yn cynnig gofal dros nos yn Sir Benfro. Mae’r gwarchodwyr plant hyn wedi’u lleoli yn Sir Benfro U002 a Sir Benfro U003.

Nid oes unrhyw ofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol na darparwyr gofal y tu allan i oriau ysgol yn cynnig gofal ar benwythnosau neu dros nos.

Nifer yr achosion o restrau aros

Yn ystod y 12 mis diwethaf, dywedodd 16% o warchodwyr plant, 10% o ddarparwyr gofal dydd llawn, 10% o ddarparwyr gofal dydd sesiynol a 50% o ddarparwyr gofal y tu allan i oriau ysgol fod ganddynt restr aros yn ystod y tymor. Dywedodd y rhan fwyaf o'r gwarchodwyr plant a'r darparwyr gofal dydd a ymatebodd fod ganddynt 2 blentyn ar eu rhestrau aros yn y gwanwyn, yr haf a'r hydref 2021. Dywedodd un darparwr gofal dydd llawn yn Sir Benfro U001 fod ganddynt 25 o blant ar restr aros.

Dywedodd 5% o ddarparwyr gofal dydd llawn a 5% o warchodwyr plant hefyd fod ganddynt restr aros yn ystod gwyliau'r ysgol. Ni ddywedodd unrhyw fathau eraill o ddarparwyr fod ganddynt restr aros ar gyfer gwyliau ysgol. Roedd gan bob un o'r tair ardal USOA o leiaf 1 ward lle'r oedd gan ddarparwyr gofal plant restrau aros yn ystod gwyliau ysgol.

Erbyn hydref 2021, roedd 82 o blant ar restr aros ar gyfer gofal plant.

Nifer yr achosion o leoedd gwag

Yng ngwanwyn 2022, roedd 66 o leoedd gan warchodwyr plant ar gyfer gofal dydd llawn ar draws y sir. Wardiau o fewn Sir Benfro U001 a Sir Benfro U003 oedd â'r nifer uchaf o leoedd gofal dydd llawn gyda gwarchodwyr plant. Roedd 8 o leoedd gwag gyda gwarchodwyr plant ar gyfer gofal ar ôl ysgol a 5 lle gyda gwarchodwyr plant ar gyfer gofal yn ystod y gwyliau.

Nododd darparwyr gofal dydd llawn fod 49 o leoedd gwag ar draws y sir, a bod 12 o’r rhain yn Hwlffordd: Priordy a 10 yn Aberdaugleddau: Canolog.

Roedd gan ddarparwyr gofal dydd sesiynol gyfanswm o 124 o leoedd gwag, gyda Llanisan-yn-Rhos, Cilgerran a Phenfro: Monkton â'r niferoedd uchaf o ran lleoedd gwag, yn y drefn honno.

Cofnodwyd 22 o leoedd gwag yn un clwb ar ôl ysgol yn Sir Benfro U002 yng ngwanwyn 2022.

Roedd y rhan fwyaf o’r lleoedd gwag gwahanol sydd i’w cael ym mhob math o ofal plant ar gael yn Sir Benfro U002. Dylid nodi bod nifer fach o ddarparwyr yn teimlo na allent wneud sylwadau ar nifer y lleoedd gwag, oherwydd amrywiadau yn y niferoedd a achosir gan COVID-19.

Nifer yr achosion o gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a/neu anghenion meddygol cymhleth

Yn nhymor yr Hydref 2021, roedd 63 o blant ag ADY neu anableddau cofrestredig yn defnyddio lleoedd gofal plant cofrestredig yn Sir Benfro.

Mae'r tabl isod yn dangos nifer y darparwyr gofal dydd a gwarchodwyr plant sy'n darparu cymorth ar hyn o bryd, neu sy'n gallu darparu cymorth, ar gyfer gwahanol fathau o ADY.

Anawsterau Dysgu a Gwybyddol

  • Nifer y darparwyr gofal dydd sy'n rhoi cefnogaeth: 37
  • Nifer y gwarchodwyr plant sy'n rhoi cefnogaeth: 10

Anawsterau Ymddygiadol, Cymdeithasol, Emosiynol

  • Nifer y darparwyr gofal dydd sy'n rhoi cefnogaeth: 38
  • Nifer y gwarchodwyr plant sy'n rhoi cefnogaeth: 10

Anghenion Cyfathrebu a Rhyngweithio

  • Nifer y darparwyr gofal dydd sy'n rhoi cefnogaeth: 49
  • Nifer y gwarchodwyr plant sy'n rhoi cefnogaeth: 15

Anghenion Synhwyraidd a Chorfforol

  • Nifer y darparwyr gofal dydd sy'n rhoi cefnogaeth: 42
  • Nifer y gwarchodwyr plant sy'n rhoi cefnogaeth: 11 

Yng Ngwanwyn 2022, roedd 27 o blant 2 flwydd oed ag ADY yn defnyddio darpariaeth Dechrau'n Deg.

Roedd 4 o blant 3-4 oed gydag ADY a oedd yn manteisio ar y cynnig gofal plant 30 awr yng Ngwanwyn 2022.

Dywedodd 6% o warchodwyr plant a 5% o'r darparwyr gofal dydd llawn a holwyd eu bod yn derbyn ymholiadau gan rieni o leiaf unwaith y tymor am le 30 awr ar gyfer plentyn ag ADY.

Yn ôl y darparwyr, y mathau mwyaf cyffredin o ADY y gofynnir iddynt ddarparu ar eu cyfer oedd, yn nhrefn amlder:

  1. Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
  2. Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth
  3. Anableddau Corfforol

Hefyd, gofynnwyd i ddarparwyr gofal plant a oes unrhyw faterion a allai ei gwneud yn fwy heriol i'r sector gofal plant ffurfiol yn Sir Benfro i ddarparu gofal plant yn y ffordd fwyaf effeithiol ar gyfer plentyn sydd ag ADY neu anableddau. Y materion a nodwyd amlaf, yn nhrefn amlder, oedd:

  1. Anallu i ddarparu cymorth 1:1
  2. Cyllid annigonol
  3. Dim
  4. Problemau gyda mynediad/hygyrchedd corfforol mewn lleoliad

Ymhelaethodd darparwyr ar hyn trwy ddweud:

"Gall cynllunio ar gyfer plentyn ag ADY gymryd mwy o amser a gall y gwaith eich llethu."

"Ni allwn gael staff sydd wedi'u hyfforddi na chludiant, a hynny gan ein bod mewn ardal wledig iawn. Angen mwy o Dechrau'n Deg i blant 2 oed."

"Dyw rhieni ddim yn rhoi digon o wybodaeth, ac mae diffyg ymwybyddiaeth ymhlith rieni o ran ADY."

Gofynnwyd i ddarparwyr hefyd roi disgrifiad byr o’r hyn sydd, yn eu barn hwy, yn heriau allweddol i rieni plant ag ADY ac anableddau o ran dod o hyd i ofal plant i'w plant. Rhestrir rhai o'r pwyntiau allweddol a glywyd sawl gwaith isod:

"Mae'r holl ddarpariaethau i lawr i'r de. Mae rhieni yn y gogledd yn gorfod teithio’n bell i gyrraedd darpariaethau ADY. Mae darparwyr Cymraeg eu hiaith yng ngogledd Sir Benfro yn cael eu hanghofio."

"Mae diffyg cyfathrebu rhwng staff, rhieni a'r Cyngor."

"Mae rhieni yn ei chael hi'n anodd cael cefnogaeth 1:1 i'w plant ac mae diffyg ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ADY i rieni."

"Mae cyfyngiadau symud a chyfyngiadau COVID wedi ei gwneud hi'n anoddach i bawb. Mae'r lleferydd plant wedi cael ei effeithio gan nad ydynt yn gallu cymdeithasu'n llawn."

"Weithiau, nid yw rhieni'n ymwybodol o ADY eu plentyn, neu nid ydynt yn awyddus i ddweud wrthym amdano."

"Mae'n rhaid cael mwy o ddarpariaeth Gymraeg, mae llawer o rieni Cymraeg eu hiaith ond diffyg staff Cymraeg."

Roedd yr anallu canfyddedig i ddarparu cymorth 1:1 i blant ag ADY ac anableddau yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro drwy gydol yr ymgynghoriad, yn ogystal â mewn grwpiau ffocws â rhieni, ynghyd â darparwyr yn nodi bod angen i’r ALl, asiantaethau, rhieni a lleoliadau gofal plant gyfathrebu yn fwy eglur a’i gilydd.

Cost gofal plant

Gofynnwyd i'r holl ymatebwyr am eu cyfradd yr awr gyfartalog fesul gwasanaeth. Gwarchodwyr plant cofrestredig oedd â’r gost gyfartalog uchaf yr awr yng ngwanwyn 2022.

Gellir gweld yr ystod o ffioedd a nodwyd isod:

  • Y gyfradd yr awr isaf gan ddarparwr gofal dydd llawn isaf = £3.30
  • Y gyfradd yr awr uchaf gan ddarparwr gofal dydd llawn = £6.50
  • Y gyfradd yr awr isaf gan warchodwyr plant/diwrnod llawn = £3.00
  • Y gyfradd yr awr uchaf gan warchodwr plant/diwrnod llawn = £7.25
  • Y gyfradd yr awr isaf gan warchodwyr plant/hanner diwrnod = £3.50
  • Y gyfradd yr awr uchaf gan warchodwr plant/hanner diwrnod = £9.00
  • Y gyfradd yr awr isaf ar gyfer clwb brecwast/clwb ar ôl ysgol = £3.00
  • Y gyfradd yr awr uchaf ar gyfer clwb brecwast/clwb ar ôl ysgol = £5.30

Nifer yr ymatebwyr a oedd yn cynnig gostyngiad i frodyr a chwiorydd:

Gofal dydd llawn

  • Gostyngiad i frodyr a chwiorydd: 52%
  • Dim Gostyngiad i frodyr a chwiorydd: 48%

Gofal Dydd Sesiynol

  • Gostyngiad i frodyr a chwiorydd: 10%
  • Dim Gostyngiad i frodyr a chwiorydd: 90%

Gwarchodwr plant cofrestredig

  • Gostyngiad i frodyr a chwiorydd: 32%
  • Dim Gostyngiad i frodyr a chwiorydd: 68%

Gofal plant y tu allan i oriau ysgol

  • Gostyngiad i frodyr a chwiorydd: 100
  • Dim Gostyngiad i frodyr a chwiorydd: 0

Y gostyngiadau mwyaf cyffredin a gynigir i frodyr a chwiorydd oedd 5% neu 10% ar gyfer pob brawd neu chwaer.

Oriau agor

Mae'r tabl isod yn amlinellu'r amseroedd dechrau a gorffen mwyaf cyffredin a nodwyd gan y darparwyr gofal dydd llawn a ymatebodd, yn ystod y tymor ysgol.

Prif Sesiwn 1

Dydd Llun: 8:00 - 18:00

Dydd Mawrth: 8:00 - 18:00

Dydd Mercher: 8:00 - 18:00

Dydd Iau: 8:00 - 18:00

Dydd Gwener: 8:00 - 18:00

Yr amseroedd agor mwyaf cyffredin yn ystod yr wythnos gan ddarparwyr gofal dydd llawn yn Sir Benfro, yng Ngwanwyn 2022, oedd 8:00am – 6:00pm. Mae'r tabl isod yn amlinellu'r amseroedd dechrau a gorffen mwyaf cyffredin a nodwyd gan y darparwyr gofal dydd sesiynol a ymatebodd, yn ystod y tymor ysgol.

Prif sesiwn 1

Dydd Llun: 9:00 - 11:30

Dydd Mawrth: 9:00 - 11:30

Dydd Mercher: 9:00 - 11:30

Dydd Iau: 9:00 - 11:30

Dydd Gwener: 9:00 - 11:30

Sesiwn 2

Dydd Llun: 12:15 - 14:45

Dydd Mawrth: 12:15 - 14:45

Dydd Mercher: 12:15 - 14:45

Dydd Iau: 12:15 - 14:45

Dydd Gwener: 12:15 - 14:45

Yr amseroedd agor mwyaf cyffredin yn ystod yr wythnos ar gyfer darparwyr gofal dydd sesiynol sy'n gweithredu yn Sir Benfro, yng Ngwanwyn 2022, oedd 9:00am – 11:30am ar gyfer sesiynau bore a 12:15pm-14:45pm ar gyfer sesiynau prynhawn. Mae'r tabl isod yn amlinellu'r amseroedd dechrau a gorffen mwyaf cyffredin a nodwyd gan y gwarchodwyr plant a ymatebodd, yn ystod y tymor ysgol.

Prif sesiwn 1

Dydd Llun: 8:00 - 17:00 

Dydd Mawrth: 8:00 - 17:00

Dydd Mercher: 8:00 - 17:00

Dydd Iau: 8:00 - 17:00

Dydd Gwener: 08:00 - 17:00

Yr amseroedd agor mwyaf cyffredin yn ystod yr wythnos gan warchodwyr plant gofal dydd llawn yn Sir Benfro, yng Ngwanwyn 2022, oedd 8:00am – 5:00pm. Mae'r tabl isod yn amlinellu'r amseroedd cychwyn a gorffen mwyaf cyffredin a nodwyd gan y darparwyr gofal plant y tu allan i oriau ysgol/clybiau ar ôl ysgol a ymatebodd, yn y ystod y tymor ysgol.

Prif Sesiwn 1

Dydd Llun: 15:30 - 17:45

Dydd Mawrth: 15:30 - 17:45

Dydd Mercher: 15:30 - 17:45

Dydd Iau: 15:30 - 17:45

Dydd Gwener: 15:30 - 17:45

Yr amseroedd agor mwyaf cyffredin yn ystod yr wythnos ar gyfer clybiau ar ôl ysgol Sir Benfro, yn Ngwanwyn 2022, oedd 3:30pm – 5:30pm.

Yn ystod y tymor, dywedodd 30% o'r gwarchodwyr plant a ymatebodd a 29% o'r darparwyr gofal dydd llawn a ymatebodd eu bod yn agor cyn 8am. Ar gyfer gwyliau ysgol, y ffigyrau oedd 27% ar gyfer gwarchodwyr plant a 29% ar gyfer darparwyr gofal dydd. Dywedodd 7% o warchodwyr plant a 5% o ddarparwyr gofal dydd llawn (1 darparwr) eu bod yn darparu gofal plant ar ôl 6pm yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Roedd y darparwyr a oedd yn cynnig gofal plant cyn 8am wedi'u lleoli ar draws y tair ardal USOA, gyda'r mwyafrif yn Sir Benfro U002. 

Roedd darparwyr a oedd yn cynnig gofal plant ar ôl 6pm wedi'u lleoli mewn pedair ward ar draws y tri USOA.

Y Cynnig Gofal Plant a Gofal Plant Di-dreth

Ar hyn o bryd, mae 102 o ddarparwyr wedi'u cofrestru i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant yn Sir Benfro, gan gynnwys 50 o warchodwyr plant a 52 o ddarparwyr gofal dydd. O'r rhain, mae 79 (77%) yn derbyn cyllid gan y Cynnig Gofal Plant, gan gynnwys 35 o warchodwyr plant a 44 o ddarparwyr gofal dydd.

Mae nifer y lleoedd Cynnig Gofal Plant sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd gan ddarparwyr a gwblhaodd ein harolwg CATI ac sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yng ngwanwyn 2022 i'w gweld yn y tabl isod: 

Sir Benfro U001

Nifer y lleoedd Cynnig Gofal Plant sydd ar gael: 285

Nifer y lleoedd cynnig Gofal Plant sy'n cael eu defnyddio: 105

Sir Benfro U002

Nifer y lleoedd Cynnig Gofal Plant sydd ar gael: 302

Nifer y lleoedd cynnig Gofal Plant sy'n cael eu defnyddio: 101

Sir Benfro U003

Nifer y lleoedd Cynnig Gofal Plant sydd ar gael: 251

Nifer y lleoedd cynnig Gofal Plant sy'n cael eu defnyddio: 128

O'r data a gasglwyd yng ngwanwyn 2022, ar hyn o bryd nid yw hanner y lleoedd Cynnig Gofal Plant ledled Sir Benfro yn cael eu defnyddio. Dylid nodi nad yw hyn yn cynrychioli Sir Benfro gyfan, gan mai dim ond 93 o ddarparwyr a gwblhaodd yr arolwg CATI.

Yr USOA â’r nifer isaf o ddarparwyr sy’n cynnig cyfran neu’r holl gynnig gofal plant 30 awr ar hyn o bryd yw Sir Benfro U003. 

I'r darparwyr gofal plant hynny nad ydynt yn darparu'r Cynnig Gofal Plant ar hyn o bryd, y rhesymau mwyaf cyffredin a roddwyd oedd:

  • Dim galw amdano
  • Gwaith papur/gweinyddu

Dywedodd 30 o ddarparwyr gofal dydd ac 8 o warchodwyr plant fod rhieni'r plant y maent yn gofalu amdanynt yn derbyn gofal plant di-dreth neu'n defnyddio talebau gofal plant ar yr adeg y cwblhawyd y ffurflen hunanasesu.

Mae 18 o ddarparwyr gofal dydd yn derbyn cyllid i ddarparu addysg ran-amser ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar.

Darpariaeth Dechrau'n Deg

Mae 12 o bob 126 o ddarparwyr yn derbyn cyllid i ddarparu lleoedd Dechrau'n Deg. Mae hyn yn cynrychioli 9.5% o ddarparwyr. O'r rhain, mae 6 darparwr yn darparu darpariaeth Dechrau'n Deg yn unig. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr Dechrau'n Deg wedi'u lleoli yn Sir Benfro U003, gyda nifer isaf yn Sir Benfro U001. 

Darpariaeth Gymraeg

Mae'r tabl isod yn dangos y brif iaith a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau gofal plant:

Saesneg

  • Nifer y darparwyr gofal plant: 48
  • Nifer y gwarchodwyr plant: 48
  • Cyfanswm nifer y darparwyr: 96

Cymraeg

  • Nifer y darparwyr gofal plant: 13
  • Nifer y gwarchodwyr plant: 3
  • Cyfanswm nifer y darparwyr: 16

Dwyiethog

  • Nifer y darparwyr gofal plant: 3
  • Nifer y gwarchodwyr plant: 3
  • Cyfanswm nifer y darparwyr: 6 

Ieithoedd eraill a ddefnyddiwyd mewn lleoliadau: Dywedodd 1 darparwr eu bod yn defnyddio Ffrangeg/Almaeneg/Sbaeneg fel ail iaith yn eu lleoliad, dywedodd 1 eu bod yn defnyddio Eidaleg, ac un yn dweud eu bod yn defnyddio Swedeg.

Saesneg 

  • Nifer y darparwyr: 1
  • Nifer y gwarchodwyr plant: 4
  • Cyfanswm nifer y darparwyr: 5

Cymraeg

  • Nifer y darparwyr: 24
  • Nifer y gwarchodwyr plant: 22
  • Cyfanswm nifer y darparwyr: 46

Ffraneg/Almaeneg/Sbaeng

  • Nifer y darparwyr: 1
  • Nifer y gwarchodwyr plant: 0
  • Cyfanswm nifer y darparwyr: 1

Eidaleg

  • Nifer y darparwyr: 0
  • Nifer y gwarchodwyr plant: 1
  • Cyfanswm nifer y darparwyr: 1

Swedeg

  • Nifer y darparwyr: 0
  • Nifer y gwarchodwyr plant: 1
  • Cyfanswm nifer y darparwyr: 1 

Mae'r holl leoliadau Cymraeg neu ddwyieithog wedi'u lleoli yn Sir Benfro U001, ac eithrio 1 sydd wedi'i leoli yn Sir Benfro 003. Mae'r tabl isod yn dangos nifer y darparwyr gofal plant, yn ôl math, sydd naill ai'n cynnig neu'n gweithio tuag Gynnig Gweithredol Cymraeg, yn hydref 2021.

Darparwyr Gofal Dydd Llawn

  • Cynnig Gweithredol Cymraeg wedi'i ddarparu: 6
  • Gweithio tuag at Gynnig Gweithredol Cymraeg: 9

Darparwyr Gofal Dydd Sesiynol

  • Cynnig Gweithredol Cymraeg wedi'i ddarparu: 9
  • Gweithio tuag at Gynnig Gweithredol Cymraeg: 7

Gwarchodwyr plant

  • Cynnig Gweithredol Cymraeg wedi'i ddarparu: 5
  • Gweithio tuag at Gynnig Gweithredol Cymraeg: 8

Gofal y Tu Allan i Oriau Ysgol

  • Cynnig Gweithredol Cymraeg wedi'i ddarparu: 0
  • Gweithio tuag at Gynnig Gweithredol Cymraeg: 3 

O'r data uchod, mae'r diffyg darpariaeth Gymraeg yn Sir Benfro U002 a Sir Benfro U003, ynghyd â diffyg gwarchodwyr plant Cymraeg a gofal y tu allan i oriau ysgol yn gyffredinol, wedi’i nodi fel maes i’w ddatblygu.

Canfyddiadau ar weithrediad yn y dyfodol

Gofynnwyd i ymatebwyr, o gymharu â’u ffigyrau cyfredol, faint yn uwch neu'n is fydd nifer y lleoedd y maent yn disgwyl y byddent yn eu darparu yn 2023.

Gofal dydd llawn

  • Yn sylweddol uwch: 0%
  • Uwch: 57%
  • Tua'r un fath: 14%
  • Is: 5%
  • Yn sylweddol is: 0%
  • Ddim yn gwybod/Ddim am ddweud: 24%

Gofal dydd sesiynol

  • Yn sylweddol uwch: 5%
  • Uwch: 48%
  • Tua'r un fath: 29%
  • Is: 0%
  • Yn sylweddol is: 5%
  • Ddim yn gwybod/Ddim am ddweud: 14%

Gwarchodwr Plant Cofrestredig

  • Yn sylweddol uwch: 7%
  • Uwch: 49%
  • Tua'r un fath: 30%
  • Is: 5%
  • Yn sylweddol is: 5%
  • Ddim yn gwybod/Ddim am ddweud: 5%

Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol 

  • Yn sylweddol uwch: 0%
  • Uwch: 50%
  • Tua'r un fath: 33%
  • Is: 0%
  • Yn sylweddol is: 0%
  • Ddim yn gwybod/Ddim am ddweud: 17% 

Fel y dangosir uchod, mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr yn rhagweld y bydd y galw'n uwch neu tua'r un peth erbyn hydref 2023, er bod llawer yn ansicr, a gallai hynny fod yn rhannol oherwydd yr ansicrwydd a achoswyd gan y pandemig.

Ar hyn o bryd, mae gan 7% o warchodwyr plant, 10% o ddarparwyr gofal dydd llawn a 10% o ddarparwyr gofal dydd sesiynol gynlluniau i gynyddu nifer y lleoedd y gallant eu cynnig dros y ddwy flynedd nesaf.

Canfyddiadau ar ddigonolrwydd presennol gofal plant

Gofynnwyd i ymatebwyr os ydynt yn credu'n bersonol bod nifer digonol o leoedd gofal plant ar hyn o bryd o fewn grwpiau oedran penodol a grwpiau penodol yn eu hardal ddaearyddol gyfagos. Mae'r canlyniadau i'w gweld isod: 

Gofal Dydd Llawn

0-2 oed
  • Digon: 33%
  • Dim Digon: 62%
  • Ddim yn gwybod: 5%
3-4 oed
  • Digon: 38%
  • Dim Digon: 57%
  • Ddim yn gwybod: 5%
5-14 oed
  • Digon: 29%
  • Dim Digon: 57%
  • Ddim yn gwybod: 14%
Plant ag ADY
  • Digon: 10%
  • Dim Digon: 76%
  • Ddim yn gwybod: 14%
Plant ag anghenion meddygol cymhleth
  • Digon: 0%
  • Dim Digon: 62%
  • Ddim yn gwybod: 38%

Gwarchodwyr plant

0-2 oed
  • Digon: 16%
  • Dim Digon: 73%
  • Ddim yn gwybod: 11%
3-4 oed
  • Digon: 20%
  • Dim Digon: 68%
  • Ddim yn gwybod: 11%
5-14 oed
  • Digon: 45%
  • Dim Digon: 36%
  • Ddim yn gwybod: 18%
Plant ag ADY
  • Digon: 7%
  • Dim Digon: 34%
  • Ddim yn gwybod: 59%
Plant ag anghenion meddygol cymhleth
  • Digon: 7%
  • Dim Digon: 32%
  • Ddim yn gwybod: 61%

Gofal Dydd Sesiynol

0-2 oed
  • Digon: 24%
  • Dim Digon: 76%
  • Ddim yn gwybod: 0%
3-4 oed
  • Digon: 29%
  • Dim Digon: 71%
  • Ddim yn gwybod: 0%
5-14 oed
  • Digon: 38%
  • Dim Digon: 43%
  • Ddim yn gwybod: 19%
Plant ag ADY
  • Digon: 14%
  • Dim Digon: 67%
  • Ddim yn gwybod: 19%
Plant ag anghenion meddygol cymhleth
  • Digon: 10%
  • Dim Digon: 57%
  • Ddim yn gwybod: 33%

Gofal y Tu Allan i Oriau Ysgol

0-2 oed
  • Digon: 33%
  • Dim Digon: 33%
  • Ddim yn gwybod: 33%
3-4 oed
  • Digon: 33%
  • Dim Digon: 33%
  • Ddim yn gwybod: 33%
5-14 oed
  • Digon: 67%
  • Dim Digon: 33%
  • Ddim yn gwybod: 0%
Plant ag ADY
  • Digon: 17%
  • Dim Digon: 67%
  • Ddim yn gwybod: 33%
Plant ag anghenion meddygol cymhleth
  • Digon: 0%
  • Dim Digon: 33%
  • Ddim yn gwybod: 67% 

Mae'r tablau uchod yn dangos nad yw'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal dydd llawn, darparwyr gofal dydd sesiynol a gwarchodwyr plant yn teimlo bod digon o leoedd ar hyn o bryd ar gyfer plant 0–2 oed neu blant 3-4 oed yn eu hardal ddaearyddol. Nodwyd hyn hefyd gan draean o ddarparwyr gofal y tu allan i oriau ysgol. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal dydd llawn hefyd yn teimlo nad oes digon o leoedd ar gyfer plant 5-14 oed hefyd; roedd hyn yn llai amlwg ymhlith mathau eraill o ddarparwyr.

O’r data a gasglwyd gan ddarparwyr trwy CATI yng ngwanwyn 2022, mae digonolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer plant ag ADY ac anghenion meddygol cymhleth yn wendid canfyddedig, yn enwedig ymhlith darparwyr gofal dydd llawn a gofal dydd sesiynol.

Canfyddiadau o ran mathau buddiol o gymorth

Mae'r tabl isod yn dangos i ba raddau y dywedodd darparwyr gofal dydd a gwarchodwyr plant cofrestredig eu bod yn teimlo y byddai eu darpariaeth yn elwa o fathau penodol o gymorth – drwy'r Cyngor o bosibl. 

Recriwtio a Chadw Staff

  • Canran darparwyr gofal dydd: 18%
  • Canran gwarchodwyr plant: 5%

Hyfforddiant staff

  • Canran darparwyr gofal dydd: 14%
  • Canran gwarchodwyr plant: 3%

Cymorth/cyngor marchnata

  • Canran darparwyr gofal dydd: 10%
  • Canran gwarchodwyr plant: 3%

Cymorth/cyngor modelu busnes

  • Canran darparwyr gofal dydd: 2%
  • Canran gwarchodwyr plant: 8%

Cymorth/cyngor arolygu/cofrestru

  • Canran darparwyr gofal dydd: 0%
  • Canran gwarchodwyr plant: 3%

Cymorth i rwydweithio gyda darparwyr/gwarchodwyr plant eraill

  • Canran darparwyr gofal dydd: 2%
  • Canran gwarchodwyr plant: 5%

Cyngor/cymorth ar anghenion

  • Canran darparwyr gofal dydd: 18%
  • Canran gwarchodwyr plant: 10%

Dim

  • Canran darparwyr gofal dydd: 18%
  • Canran gwarchodwyr plant: 42%

Arall

  • Canran darparwyr gofal dydd: 18%
  • Canran gwarchodwyr plant: 18% 

O'r rhai a nododd 'Arall', gofynnwyd am y mathau canlynol o gymorth:

  • Cymorth ariannol/cymorth cyfrifyddu
  • Cymorth gweinyddol (e.e., templedi/banciau adnoddau), ceisiadau am grantiau ac ysgrifennu ceisiadau
  • Cymorth TGCh
  • Cymorth i ddarparu 1:1 i blant ag ADY

O'r rhai a ddewisodd hyfforddiant staff fel maes lle maent angen cymorth, y gofyniad mwyaf cyffredin oedd cymorth i blant ag ADY. Gofynnodd darparwyr hefyd am fwy o hyfforddiant staff wyneb yn wyneb a hyfforddiant gyda'r nos. Gofynnodd 2% o ddarparwyr am hyfforddiant Cymraeg.

Gofynnwyd i ddarparwyr hefyd awgrymu tri blaenoriaeth o ran y math o wybodaeth, cymorth a hyfforddiant y gallai'r Cyngor eu darparu'n ddelfrydol i helpu darparwyr gofal plant lleol i gefnogi a darparu lleoedd gofal plant i blant ag ADY.

 Yr atebion mwyaf cyffredin, yn nhrefn amlder, oedd:

  1. Mwy o hyfforddiant ADY, gan gynnwys awtistiaeth, ymddygiad a hyfforddiant iaith arwyddion
  2. Cymorth gyda recriwtio mwy o staff cymwysedig yn gyffredinol, neu i ddarparu hyfforddiant ar oriau mwy addas
  3. Mwy o gyrsiau Cymraeg.

Effaith COVID-19 ar alw ac ar ddigonolrwydd

Yn ystod cyfnod clo Covid-19, arhosodd 42% o ddarparwyr gofal dydd llawn ar agor i ddarparu gofal plant i blant gweithwyr allweddol. Arhosodd 47% o warchodwyr plant yn weithredol yn ystod y cyfnod hwn gyda 53% ddim yn gweithio. Caeodd yr holl ddarparwyr gofal dydd sesiynol a darparwyr gofal y tu allan i oriau ysgol yn ystod y cyfnod clo.

Roedd 71% o'r darparwyr gofal dydd llawn a sesiynol a ymatebodd, 55% o warchodwyr plant, a 100% o ddarparwyr y tu allan i oriau ysgol, yn teimlo bod COVID-19 wedi effeithio ar gynaliadwyedd eu busnes, gyda llawer wedi gorfod cau ar ddechrau'r pandemig. Roedd yr ymatebion i'r cwestiwn hwn yn gymysg - roedd y rhai a oedd yn teimlo ei fod wedi effeithio ar gynaliadwyedd yn nodi gostyngiad yn y galw oherwydd bod mwy o rieni'n gweithio gartref neu'n ddi-waith, costau glanhau/PPE uwch, anhawster wrth ddod o hyd i gyllid ar gyfer staff a lefelau staffio is. Roedd llawer yn teimlo ei fod wedi effeithio ar gynaliadwyedd i ddechrau, oherwydd y cyfyngiadau cychwynnol, a’u bod ond wedi gallu gofalu a chodi tal am blant gweithwyr allweddol yn unig. Dywedodd sawl darparwr eu bod yn cael trafferth gyda chyflogau staff tra bu defnydd o’r gwasanaeth yn isel. Cyfeiriodd rhai darparwyr at gael gafael ar grantiau, a nodwyd bod hynny wedi eu helpu'n aruthrol, er bod nifer fach o ddarparwyr wedi dweud nad oeddent yn wedi cael gafael ar unrhyw grantiau.

Gofynnwyd i ymatebwyr a oeddent yn teimlo bod COVID-19 wedi cael effaith ar les meddyliol eu staff a’u gallu i gadw staff. Roedd y cyfraddau ymateb fel a ganlyn:

  • Ymatebodd 23% o warchodwyr plant yn gadarnhaol
  • Ymatebodd 71% o ddarparwyr gofal dydd llawn yn gadarnhaol
  • Atebodd 57% o ddarparwyr gofal dydd sesiynol yn gadarnhaol
  • Ymatebodd 50% o ddarparwyr y tu allan i oriau ysgol yn gadarnhaol

Yr effeithiau a nodwyd amlaf o ran iechyd meddwl a chadw staff oedd straen, amharodrwydd staff i barhau ym maes gofal plant, a morâl isel. Mae rhai o'r sylwadau a wnaed dro ar ôl tro ar y pwnc yn cynnwys:

"Ar y dechrau roedd yn straen, ond mae pawb wedi addasu nawr."

"Wedi colli ychydig o aelodau staff oherwydd COVID. Wnaethon nhw ddim dychwelyd ar ôl cael eu rhoi ar ffyrlo."

"Morâl a chymhelliant yn isel."

Gofynnwyd i ymatebwyr hefyd roi sylwadau ar agweddau masnachol rheoli eu busnesau yn ystod y pandemig. Roedd amrywiaeth o ran barn y lleoliadau; roedd llawer yn ei chael hi'n anodd rheoli eu busnesau ar-lein pan oeddent ar gau, gyda rhai yn dweud nad oedd ganddynt lawer o gefnogaeth. Roedd eraill yn teimlo bod ffyrlo a grantiau eraill wedi helpu llawer, a dywedodd rhai na chafwyd unrhyw anhawster a bod cau wedi rhoi cyfle iddynt ddal i fyny ar waith gweinyddol a gwaith papur. Dyma rai o'r safbwyntiau mwyaf cyffredin a rannwyd:

"Mae llawer mwy o waith papur a gweinyddu wedi bod. Dechreuodd ein llethu a chynyddodd y llwyth gwaith."

"Ar gau am 3 mis ac roedd y rhieni'n deall yn iawn. Roedd yn anodd dilyn y canllawiau, gan eu bod ar gyfer meithrinfeydd yn hytrach na gwarchodwyr plant sy'n gofalu am blant yn eu cartrefi eu hunain."

"Ar gau yn ystod y cyfnod clo felly doedd hyn ddim yn anodd."

"Roeddwn yn teimlo'n ynysig ac yn ddryslyd wrth i'r rheolau newid o hyd - roeddwn yn ddiolchgar am y rhwydwaith gwarchod plant."

Ar adeg yr arolwg, dywedodd yr holl ymatebwyr eu bod yn parhau i ddilyn canllawiau perthnasol y llywodraeth ar COVID-19, gan gynnwys cwblhau asesiadau risg COVID, profi staff yn rheolaidd, golchi dwylo, PPE priodol a glanhau teganau ac arwynebau yn rheolaidd.

Cynaliadwyedd

Gofynnwyd i ddarparwyr a oeddent yn teimlo y byddai COVID-19 yn parhau i effeithio ar eu cynaliadwyedd:

Gofal dydd llawn

  • Yn y 3 mis nesaf: 9%
  • Yn y 6 mis nesaf: 20%
  • Yn ystod y 12 mis nesaf: 2%
  • Nifer: 68%

Gofal dydd sesiynol

  • Yn y 3 mis nesaf: 14%
  • Yn y 6 mis nesaf: 24%
  • Yn ystod y 12 mis nesaf: 5%
  • Nifer: 57%

Gwarchodwr Plant Cofrestredig

  • Yn y 3 mis nesaf: 10%
  • Yn y 6 mis nesaf: 19%
  • Yn ystod y 12 mis nesaf: 19%
  • Nifer: 52%

Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol

  • Yn y 3 mis nesaf: 33%
  • Yn y 6 mis nesaf: 17%
  • Yn ystod y 12 mis nesaf: 17%
  • Nifer: 33% 

Nid oedd y mwyafrif yn teimlo y byddai COVID-19 yn effeithio ar gynaliadwyedd y tu hwnt i'r 12 mis nesaf.

Er i bob darparwr gofal dydd nodi eu bod yn bwriadu parhau i ddarparu gofal plant am o leiaf y 5 mlynedd nesaf, dywedodd 36% o warchodwyr plant nad oeddent yn disgwyl darparu gofal plant ymhen 5 mlynedd, gyda 18% o'r rhain yn meddwl y byddent yn gadael y proffesiwn o fewn y 3 blynedd nesaf. Yr ardal lle cafwyd o mwyaf o adroddiadau am hyn oedd Sir Benfro U002.

Trawsffiniol

Mae gan Gyngor Sir Penfro drefniadau trawsffiniol ar waith ar gyfer Grant Meithrin y Cyfnod Sylfaen (FPN) a'r Cynnig Gofal Plant i Gymru gyda dau awdurdod cyfagos, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Felly, gall teuluoedd yn Sir Benfro arfer eu hawl i addysg gynnar ran-amser (FPN) am ddim ac i dderbyn cyllid y Cynnig Gofal Plant yn unrhyw un o'r awdurdodau lleol hyn. 

Dyma'r dadansoddiad o blant o'r tu allan i'r awdurdod lleol a ddefnyddiodd eu darpariaeth FPN mewn lleoliadau nas cynhelir yn Sir Benfro yn ystod tymor y Gwanwyn 2022:

  • Sir Gaerfyrddin - 6 (Nifer y plant sy'n mynychu lleoliad nas cynhelir yn Sir Benfro)
  • Ceredigion - 0 (Nifer y plant sy'n mynychu lleoliad nas cynhelir yn Sir Benfro)

Mae gan Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro bolisi derbyn gwahanol i ysgolion; mae hyn yn effeithio ar gymhwysedd y Cynnig Gofal Plant a'r trefniadau trawsffiniol. Pan fydd rhiant sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin yn cael cynnig lle addysg llawn amser i'w plentyn, ni fyddent yn gymwys mwyach i fanteisio ar y cynnig yn ystod y tymor, p'un a yw lle addysg llawn amser eu plentyn mewn ysgol yn Sir Benfro neu mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin. Yn awdurdod lleol Sir Benfro, cynigir lleoliad llawn amser i blant y tymor ar ôl iddynt droi'n 3 oed. Yn awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, cynigir lleoliad llawn amser i blant o ddechrau'r tymor mae'r plentyn yn troi'n 4 oed. Er bod plentyn wedi cael cynnig lle addysg llawn amser mewn ysgol yn Sir Benfro, mae polisi derbyn awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin yn berthnasol.

Mae gan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) Sir Benfro berthynas waith drawsffiniol dda gyda Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac ymdrinnir ag unrhyw ymholiadau neu alwadau FIS sy'n dod i mewn yn unol â'r polisi FIS a'u cyfeirio'n uniongyrchol at yr awdurdod lleol cywir.

Datblygu'r gweithlu a hyfforddi

Lefelau cymwysterau, fesul math o ofal plant: 

Gwarchodwyr plant

  • Lefel 2: Ymarferwyr Gofal Plant = 24
  • Lefel 2: Ymarferwyr Chwarae = 28
  • Lefel 3: Ymarferwyr Gofal Plant = 14
  • Lefel 3: Ymarferwyr Chwarae = 3
  • Lefel 5: Ymarferwyr Gofal Plant = 2
  • Lefel 5: Ymarferwyr Chwarae = 0
  • Heb ei nodi: Ymarferwyr Gofal Plant = 9
  • Heb ei nodi: Ymarferwyr Chwarae = 8
  • Dim: Ymarferwyr Gofal Plant = 5
  • Dim: Ymarferwyr Chwarae = 8

Gofal Dydd Llawn

  • Lefel 2: Ymarferwyr Gofal Plant = 25
  • Lefel 2: Ymarferwyr Chwarae = 10
  • Lefel 3: Ymarferwyr Gofal Plant = 149
  • Lefel 3: Ymarferwyr Chwarae = 48
  • Heb ei nodi: Ymarferwyr Gofal Plant = 22
  • Heb ei nodi: Ymarferwyr Chwarae = 10
  • Dim - Ymarferwyr Gofal Plant = 34
  • Dim - Ymarferwyr Chwarae = 55

Gofal Dydd Sesiynol

  • Lefel 2: Ymarferwyr Gofal Plant = 6
  • Lefel 2: Ymarferwyr Chwarae = 1
  • Lefel 3: Ymarferwyr Gofal Plant = 65
  • Lefel 3: Ymarferwyr Chwarae = 4
  • Lefel 5: Ymarferwyr Gofal Plant = 23
  • Lefel 5: Ymarferwyr Chwarae = 0
  • Heb ei nodi: Ymarferwyr Gofal Plant = 12
  • Heb ei nodi: Ymarferwyr Chwarae = 4
  • Dim: Ymarferwyr Gofal Plant = 8
  • Dim: Ymarferwyr Chwarae = 5

Gofal y Tu Allan i Oriau Ysgol

  • Lefel 2: Ymarferwyr Gofal Plant = 0
  • Lefel 2: Ymarferwyr Chwarae = 6
  • Lefel 3: Ymarferwyr Gofal Plant = 28
  • Lefel 3: Ymarferwyr Chwarae = 31
  • Lefel 5: Ymarferwyr Gofal Plant = 4
  • Lefel 5: Ymarferwyr Chwarae = 3
  • Heb ei nodi: Ymarferwyr Gofal Plant = 3
  • Heb ei nodi: Ymarferwyr Chwarae = 2
  • Dim: Ymarferwyr Gofal Plant = 24
  • Dim: Ymarferwyr Chwarae = 28

Dywedodd pob darparwr gofal dydd llawn, pob darparwr gofal y tu allan i oriau ysgol, a 96% o ddarparwyr gofal dydd sesiynol fod ganddynt aelod staff dynodedig sy'n gyfrifol am wneud trefniadau ar gyfer plant ag ADY/anghenion meddygol cymhleth. Ymatebodd 46% o warchodwyr plant eu bod yn gyfrifol am hyn.

Cofnododd 17% o warchodwyr plant eu bod yn cael hyfforddiant arbenigol ychwanegol i gefnogi plant ag ADY ac anableddau, o gymharu ag 86% o ddarparwyr gofal dydd llawn ac 80% o ddarparwyr gofal dydd sesiynol. Ar gyfer gofal y tu allan i oriau ysgol, y ffigur hwn oedd 60%.

Pe baent yn chwilio am gymorth gyda hyfforddiant y gweithlu, dywedodd y rhan fwyaf o ddarparwyr y byddent yn cysylltu â'r cyngor, FIS neu PACEY, ac y byddent yn gwneud hynny ar-lein. 

Fel y nodir isod yn Adran 7, mae rhanddeiliaid wedi canfod bod problemau o ran recriwtio staff, a bod swyddi gwag i’w gweld ar draws y sector yn Sir Benfro. Mae anallu i recriwtio staff newydd, a’r nifer gyfyngedig o fyfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau yn y coleg, yn arwain at anallu i leoli plant mewn lleoedd gofal plant a ariennir.

Canfyddiadau allweddol gan ddarparwyr

  • Yr amseroedd agor mwyaf cyffredin yn ystod yr wythnos gan ddarparwyr gofal dydd llawn yn Sir Benfro, yn nhymor y Gwanwyn 2022, oedd 8:00am – 6:00pm, a rhwng 8:00am a 5:00pm ar gyfer gwarchodwyr plant. Ar hyn o bryd mae 15 ward lle mae darparwyr yn cynnig gofal plant cyn 8am a phedair ward lle mae darparwyr yn cynnig gofal plant ar ôl 6pm.
  • Mae 12 o bob 121 o ddarparwyr yn derbyn cyllid i ddarparu lleoedd Dechrau'n Deg. Mae hyn yn cynrychioli 10% o ddarparwyr. O'r rhain, mae 4 darparwr yn darparu darpariaeth Dechrau'n Deg yn unig. Mae darparwyr Dechrau'n Deg wedi'u lleoli'n bennaf yn Sir Benfro U002.
  • Ar hyn o bryd, mae 2 warchodwr plant yn cynnig gofal ar benwythnosau, ac mae 2 warchodwr plant yn cynnig gofal dros nos yn Sir Benfro.
  • Yn ystod y 12 mis diwethaf, dywedodd 16% o warchodwyr plant, 10% o ddarparwyr gofal dydd llawn, 10% o ddarparwyr gofal dydd sesiynol a 50% o ddarparwyr gofal y tu allan i oriau ysgol fod ganddynt restr aros yn ystod y tymor. Cafwyd adroddiadau o restrau aros ar gyfer gofal yn ystod gwyliau ysgol ar draws pob un o'r tri USOA.
  • Yng ngwanwyn 2022, roedd 66 o leoedd gwag gan warchodwyr plant ar gyfer gofal dydd llawn ar draws y sir. Nododd darparwyr gofal dydd llawn fod 49 o leoedd gwag ar draws y sir. Roedd y rhan fwyaf o’r lleoedd gwahanol sydd i’w cael ym mhob math o ofal plant ar gael yn Sir Benfro U002.
  • Mae diffyg darpariaeth ADY yn y gogledd, yn ogystal â diffyg gweithio/cyfathrebu cydgysylltiedig rhwng y rhai sy'n ymwneud â gofal i blant ag ADY.
  • Mae digonolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer plant ag ADY ac anghenion meddygol cymhleth yn wendid canfyddedig, yn enwedig ymhlith darparwyr gofal dydd llawn a gofal dydd sesiynol. Roedd yr anallu canfyddedig i ddarparu cymorth 1:1 i blant ag ADY ac anableddau yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro drwy gydol yr ymgynghoriad, ynghyd â darparwyr yn nodi bod angen i’r ALl, asiantaethau, rhieni a lleoliadau gofal plant gyfathrebu yn fwy eglur a’i gilydd. Roedd yr anallu i ddarparu cymorth 1:1 a chyllid annigonol yn ddau reswm allweddol a nodwyd.
  • O ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg, mae 13 o'r 64 darparwr gofal dydd a gwblhaodd y ffurflen hunanasesu gwasanaeth yn darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg ac yn darparu gofal plant dwyieithog. Mae'r holl leoliadau hyn wedi'u lleoli yn Sir Benfro U001, ac eithrio 1 sydd wedi'i leoli yn Sir Benfro U003. O'r 54 o warchodwyr plant, mae 3 yn darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg ac mae 3 yn ddwyieithog. Unwaith eto, mae pob un yn gweithredu yn Sir Benfro U001. Mae'n anawsterau o ran canfod a chyflogi staff Cymraeg

O ran tueddiadau ehangach, mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal plant yn teimlo nad oes digon o leoedd ar gyfer plant 0–2 oed neu blant 3-4 oed yn eu hardal. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal dydd llawn yn teimlo nad oes digon o leoedd ar gyfer plant 5-14 oed hefyd; roedd hyn yn llai amlwg ymhlith mathau eraill o ddarparwyr.

 

ID: 9124, adolygwyd 03/10/2023