Atgyweirio a Chynnal Tai'r
Atgyweirio a Chynnal Tai'r Cyngor
Mae tîm Cynnal a Chadw Adeiladau Cyngor Sir Penfro yn rheoli 5,875 o eiddo domestig. Rydym yn gweithredu rhaglen gynnal a chadw barhaus sy’n unol â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023, gan sicrhau bod cartrefi’n parhau’n ddiogel, yn gynnes ac yn fforddiadwy i’w gwresogi, tra’n cefnogi ein nodau datgarboneiddio lle bo hynny’n bosibl.
Pa waith allaf ei ddisgwyl ar fy eiddo?
Bydd rhaglen o arolygon eiddo yn dechrau yn 2025–26. Bydd y data a gesglir yn llywio gwaith atgyweirio strwythurol a gwelliannau SATC.
Rydym yn cyflwyno dwy brif ffrwd waith:
- Gwelliannau wedi’u Cynllunio – uwchraddiadau ar raddfa lai.
- Atgyweiriadau Cyfalaf – gwaith helaeth i godi safon yr eiddo i safonau SATC.
Mae’r rhaglenni hyn wedi’u nodi yn y Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai (HRA), sy’n amlinellu blaenoriaethau ac arian atgyweirio ar gyfer y 30 mlynedd nesaf. Mae’r gwaith yn cynnwys disodli ac uwchraddio cydrannau ar ddiwedd eu cylch bywyd. Mae enghreifftiau o’r rhain wedi’u rhestru isod:
- Ceginau
- Ystafelloedd ymolchi
- Awyru
- Toi
- Drysau
- Ffenestri
- Gwres canolog
- Ail-weirio trydanol
- Gwelliannau mewnol (Cyffredinol)
- Gwaith atal lleithder
- Uwchraddiadau / Atgyweiriadau strwythurol
- Paentio allanol
- Mannau allanol, llwybrau a ffiniau (ffensys / waliau)
Sut bydd y gwaith hwn yn cael ei ariannu?
Gwelliannau wedi’u Cynllunio
2024–25: £10.063m wedi’i wario ar waith cylchol ac ymatebol (wedi’i ariannu gan incwm rhent tai cyngor).
2025–26: Cost amcangyfrifedig £9.891m.
Atgyweiriadau Eiddo Gwag
2024–25: £2.449m wedi’i wario i ddod ag eiddo gwag i safon llogi.
2025–26: Cost amcangyfrifedig £2.284m.
Rhaglen Gyfalaf
Yn 2024–25: £15.386m wedi’i wario ar atgyweiriadau mawr, ynghyd â £17.238m ar gaffaeliadau, adeiladau newydd, a chynlluniau ôl-osod.
Ffynonellau ariannu’n cynnwys:
- Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru – £4.000m yn 2024–25.
- Incwm rhent tai cyngor.
- Gwerthu tai cyngor a thir.
- Benthyca darbodus lle bo angen i ariannu rhaglenni gwaith.
Yn 2025–26, mae cyllideb gyfalaf gymeradwyedig o £52.695m. Grant MRA Llywodraeth Cymru cymeradwyedig ar gyfer y flwyddyn yw £4.000m.
Hysbysiad Preifatrwydd
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn