Atgyweirio a Chynnal Tai'r
Atgyweiriadau
Ar y dudalen hon:
Beth allaf i ddisgwyl ei gael gan wasanaeth atgyweirio’r Cyngor?
Am beth mae’r Cyngor yn gyfrifol am ei gweiro yn fy nghartref?
Am ba waith cweiro, o ddydd i ddydd, wyf i’n gyfrifol yn fy nghartref?
Sut wyf i’n rhoi gwybod i’r Cyngor am waith cweiro?
A wyf i’n gorfod gwneud unrhyw beth cyn rhoi gwybod am waith cweiro?
Ar ôl imi roi gwybod am waith cweiro, beth wedyn?
Beth sy’n digwydd os wyf i, neu ymwelydd â’m cartref, yn gwneud difrod i unrhyw osodiadau neu ffitiadau?
Cyfrifoldeb dwyffordd – rhwng y Cyngor a’n cwsmeriaid – yw sicrhau bod eich cartref mewn cyflwr da. Cofiwch taw nid ar gyfer eich defnydd chi’n unig yr adeiladwyd yr eiddo yr ydych chi’n byw ynddo – bydd e ar gael i’w osod eto pan ddaw eich tenantiaeth i ben.
Eich cyfrifoldeb chi yw byw ynddo mewn modd sy’n sicrhau taw dim ond y costau cynnal a chadw isaf posibl sy’n gorfod cael eu talu.
Byddwch cystal â rhoi gwybod i’r Cyngor am waith cweiro cyn gynted ag y byddwch wedi gweld neu sylwi ar unrhyw broblemau.
Beth allaf i ddisgwyl ei gael gan wasanaeth atgyweirio’r Cyngor?
Ein 10 Addewid i Chi – Byddwn yn:
- Sicrhau bod eich eiddo personol yn cael eu symud bant o’r man gwaith cyn rhoi cychwyn ar y gwaith
- Cael gwared â defnyddiau gwastraff ac offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio tra’r ydym yn gweithio er mwyn peidio â chael unrhyw ddifrod i’ch eiddo a sicrhau eich diogelwch
- Clirio’r holl offer a chyfarpar pan fydd y gwaith wedi’i gwpla a glanhau’r man gwaith
- Defnyddio gorchuddion llwch gydol yr amser er mwyn gwarchod eich eiddo personol
- Peidio ag ysmygu yn eich cartref
- Egluro pa fath o waith cweiro yr ydym wedi dod yno i ddelio ag ef
- Egluro sut i ddefnyddio offer newydd neu amnewid, yr ydym wedi’u dodi
- Gwisgo a dangos bathodynnau adnabod bob amser wrth weithio
- Bod yn gwrtais bob amser a dweud wrthych beth yr ydym yn ei wneud a pham
- Gweithio yn ôl safonau diogelwch trwy gydol yr amser
Am beth mae’r Cyngor yn gyfrifol am ei gweiro yn fy nghartref?
Allanol
- To
- Simnai (heb gynnwys glanhau)
- Cwteri a nwyddau trin dŵr glaw
- Muriau
- Drysau a fframiau allanol
- Ffenestri
- Paentio
Mewnol
- Cypyrddau gosod
- Nenfydau
- Waliau (heb gynnwys addurno)
Rhannau allanol eraill
- Grisiau a llwybrau
- Draeniau
- Muriau terfyn
- Modurdai a thai allan (os adeiladwyd nhw gan y Cyngor)
Mae’r Cyngor yn gyfrifol am rai gwasanaethau a ffitiadau yn eich cartref, gan gynnwys y canlynol:
- Ffitiadau a gwifrau trydanol (os darparwyd nhw gan y Cyngor)
- Gosodiadau nwy (os darparwyd nhw neu y cytunwyd eu cynnal gan y Cyngor)
- Offer gwresogi (os darparwyd ef gan y Cyngor)
- Gosodiadau plymwaith (ond nid sinciau wedi tagu)
Am ba waith cweiro, o ddydd i ddydd, wyf i’n gyfrifol yn fy nghartref?
- Gwydr - Cyfrifoldeb y tenant yw holl wydro. Os caiff unrhyw wydr ei dorri, hyd yn oed trwy ddamwain, cyfrifoldeb y tenant yw cael ei ailosod. Bydd y Cyngor yn ailosod gwydr yn unig os achoswyd y difrod gan weithgaredd troseddol, yr hysbyswyd y mater i’r Heddlu ac y cafwyd cyfeirnod trosedd.
- Diogelwch Cyffredinol - Allweddi a chloeon, oni bai fod y Cyngor yn cytuno i’w hailosod oherwydd traul deg
- Gosodiadau glanwaith
- Plygiau a chadwyni sinciau, baddonau a basnau*
- Pibelli a thrapiau mewnol wedi tagu
- Seddau a chaeadau toiledau*
- Gosodiadau trydanol
- Socedi, switshis, ffiwsiau, holl ffitiadau ac offer os na ddarparwyd fel safonol gan y Cyngor
- Adnewyddu ffiwsiau
- Tanau tanwydd soled
- Glanhau padelli lludw a gyddfblatiau
- Ffitiadau mewnol e.e. llacio drysau mewnol, ffyn llenni, bylbiau golau, tiwbiau a thanwyr fflworolau, bleindiau rholio, silffoedd, cloeon, colynnau, bachau, ac ati
- Addurn mewnol
- Teils waliau a lloriau*
- Mân daclau allanol e.e. sychwyr cylchdro a leiniau dillad
- Ffensys rhwng gerddi*
- Llwybrau gerddi a chytiau gerddi
*Fe allai defnyddiau fod ar gael ar gyfer y pethau a enwir, fel y gwêl y Cyngor orau.
Sut wyf i’n rhoi gwybod i’r Cyngor am waith cweiro?
- Ffonio Llinell Frys Atgyweiriadau Tai ar 0800 085 6622 neu 01437 775522 9am tan 5pm o ddydd Llun i Gwener
- Ysgrifennu atom yn: Cyngor Sir Penfro, Yr Adran Cynnal a Chadw, Uned 23, Ystad Ddiwydiannol Thornton, Aberdaugleddau, SA73 2RR
Mae modd hysbysu argyfyngau allan o oriau arferol trwy ffonio 01437 775522
A wyf i’n gorfod gwneud unrhyw beth cyn rhoi gwybod am waith cweiro?
Byddwch cystal â dilyn y canllawiau hyn:
- Edrychwch ar y tabl uchod (am ba waith cweiro, o ddydd i ddydd, wyf i’n gyfrifol yn fy nghartref?) er mwyn sicrhau nad eich cyfrifoldeb chi yw’r gwaith cweiro.
- Sicrhau bod gyda chi’ch manylion cyswllt wrth law cyn ffonio
- Gwybod pryd y byddwch chi ar gael er mwyn inni ddod draw i wneud y gwaith cweiro
- Sicrhau bod gyda chi gymaint o fanylion ag y bo modd am y cweiro - po fwyaf y bydd y Cyngor yn ei wybod am y broblem, yna cyflyma’n y byd y gallwn ni drefnu iddo gael ei gweiro - efallai na fydd rhaid inni ddod i’w archwilio gyntaf chwaith.
Ar ôl imi roi gwybod am waith cweiro, beth wedyn?
Ar ôl cael gwybod pryd y byddwch chi ar gael er mwyn inni wneud y gwaith cweiro, bydd y Cyngor yn ei ddodi yn un o’r tri chategori hyn.
Atgyweiriadau Argyfwng
Atgyweiriadau cychwynnol yw’r rhain er mwyn gwneud pethau’n ddiogel a chweiro os yw pobl mewn perygl ac/neu bod difrod difrifol wedi’i wneud i eiddo.
Peipiau dŵr wedi bosto, dim trydan o gwbl, diffygion nwy, y to’n gollwng yn ddifrifol.
Sylwer: Disgwylir i denantiaid wybod ble mae’r Stopfalf Ddŵr, Mesurydd Nwy a’r Blwch Ffiwsiau Trydanol, er mwyn ichi allu arunigo’r rhain mewn argyfwng.
Amser Targed: 24 awr
Atgyweiriadau Ar Frys
Mae yna waith hanfodol / brys nad yw’n achosi perygl uniongyrchol i bobl neu eiddo perty.
Dŵr twym yn ddiffygiol, diffygion trydanol, difrod oherwydd storm, peipiau’n gollwng
Amser Targed: 9 diwrnod
Atgyweiriadau Arferol
Gwaith cyweirio cyffredinol arferol sydd heb fod yn Argyfwng neu Frys.
Adnewyddu borden wal, dodi drysau newydd ar uned cegin, cweiro tapiau dŵr diffygiol.
Amser Targed: 35 diwrnod
Y drefn atgyweirio
Os yw jobyn cweiro yn un rhwydd, caiff archeb ei threfnu ar unwaith.
Mewn rhai achosion bydd yn rhaid cynnal archwiliad er mwyn cael rhagor o fanylion ynghylch beth sydd ei angen cyn trefnu archeb.
Os ydych chi mas pan fydd Swyddog Tai neu weithiwr yn dod i’ch gweld, bydd ef/hi’n gadael cerdyn er mwyn ichi gael gwybod pryd y daw eto neu er mwyn rhoi cyfarwyddiadau ichi ynghylch sut i drefnu dyddiad sy’n addas ar eich cyfer. Os na fyddwn yn cael ateb o fewn 7 diwrnod, bydd y cais am waith cweiro yn cael ei ddileu.
Os ydych yn ein ffonio a’n bod yn gweld taw gwaith a wnaed gan bobl heblaw am y Cyngor neu ei gynrychiolwyr sy’n gyfrifol am y broblem, er enghraifft gwaith plymio neu beiriannau golchi diffygiol, yna byddwn yn codi tâl am y gwaith sy’n cael ei gwneud.
Beth sy’n digwydd os wyf i, neu ymwelydd â’m cartref, yn gwneud difrod i unrhyw osodiadau neu ffitiadau?
Efallai y bydd atgyweiriadau sy’n gorfod cael eu gwneud yn eich cartref oherwydd difrod bwriadol neu ddifrod damweiniol cyson sydd wedi’i achosi gyda chi’ch hun, aelod o’ch tyaid neu ymwelydd â’ch cartref yn cael eu hystyried yn waith ‘cweiro y mae’n rhaid talu amdano’. Mae hyn yn cynnwys dodi cloeau newydd os collwch chi eich allweddi neu gweiro difrod i osodion neu ffitiadau fel drysau neu ffenestri. Bydd gyda chi dewis: naill ai gwneud y gwaith cweiro eich hun ar eich traul eich hun neu gallwch chi ofyn i’r Cyngor wneud y gwaith hwn – ond bydd rhaid i chi dalu amdano. Bydd y Cyngor yn gofyn ichi dalu ymlaen llaw am unrhyw waith a wneir.
Difrod a achoswyd o ganlyniad i fandaliaeth
Os achosir difrod i’ch eiddo o ganlyniad i fandaliaeth byddwch cystal â chysylltu â’r heddlu a chael rhif digwyddiad cyn ichi roi gwybod i’r Cyngor am y gwaith cweiro.