Atgyweirio a Chynnal Tai'r
Cynnal a chadw cynlluniedig
Er mwyn rhoi’r gwasanaeth mwyaf effeithiol a darbodus, bydd y Cyngor yn ymdrin â’r rhan fwyaf o atgyweiriadau i dai yn ôl ‘rhaglen cynnal a chadw wedi’i chynllunio’. Mae hyn yn golygu y bydd atgyweiriadau neilltuol yn cael eu gwneud yn ôl rhaglen gylchol pum mlynedd ar adegau y bydd y Cyngor yn penderfynu arnynt; ni fyddwch chi’n gorfod hysbysu’r Cyngor yn eu cylch. Y bwriad yw amnewid neu adnewyddu elfennau o’ch cartref sy’n dod i ddiwedd eu hoes o ran bod yn ddefnyddiol.
Fe gewch wybod pan mae’r atgyweiriadau wedi’u cynllunio, ar fin cael eu gwneud yn eich cartref.
Beth mae’r gwaith atgyweiriadau rhaglenedig yn ei gynnwys?
- atgyweiriadau cyn peintio’r tu fas e.e. estyll tywydd, drysau a ffenestri’r tu fas
- peintio’r tu fas
- ailadeiladu’r simnai
- dodi ffenestr newydd, ailadeiladu’r wal derfyn
I gael rhagor o wybodaeth byddwch cystal â chysylltu â:
Rhys Jones, Rheolwr Gweithrediadau
Ffôn: 01437 775921
E-bost: rhys.jones@pembrokeshire.gov.uk