Atgyweirio a Chynnal Tai'r

Rhoi gwybod am atgyweiriad

Ar gyfer atgyweiriadau mewn argyfwng

Ar gyfer atgyweiriadau cyffredinol ar gyfer ardal gymunol neu garej 

Rhoi gwybod am atgyweiriad



Ar gyfer atgyweiriadau mewn argyfwng

 

Os ydych chi'n pryderu am nwy neu garbon monocsid yn gollwng 

Ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol, sydd ar gael 24 awr y dydd am ddim, ar 0800 111 999 ar unwaith. 

 

Problem gyda'ch cyflenwad dŵr? 

Mae hyn yn cynnwys problemau fel pwysedd dŵr isel, dim dŵr, draeniau a rennir sydd wedi'u blocio ac ati…  

Cysylltwch â Dŵr Cymru

 

Atgyweiriadau argyfwng 

Os oes angen atgyweiriad mewn argyfwng arnoch: 

 

Ffoniwch ni yn ystod oriau gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm): 
📞 01437 764551 

Ffoniwch ni y tu allan i oriau 
📞 03456 015522 

 

Gwiriwch beth sy'n cyfrif fel atgyweiriad mewn argyfwng cyn i chi ffonio.  

 

Sylwer: 

Nid ydych chi'n gallu archebu atgyweiriad mewn argyfwng ar-lein 

 



Ar gyfer atgyweiriadau cyffredinol ar gyfer ardal gymunol neu garej 

Ffoniwch ni yn ystod oriau gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm): 
📞 01437 764551 

 



Cyn i chi roi gwybod am atgyweiriad

Gwiriwch a yw'r atgyweiriad yn gyfrifoldeb arnom ni (y cyngor) neu'n gyfrifoldeb arnoch chi (y tenant).

Bydd ein tîm ymroddedig yn gwirio eich adroddiad i wneud yn siŵr mai ein cyfrifoldeb ni yw'r atgyweiriad.

 

Chi (y tenant) sy'n gyfrifol am y canlynol:

Diogelwch

Eitemau ystafell ymolchi a chegin

Eitemau trydanol

Tanau a gwresogi

Y tu mewn i'ch eiddo

Y tu allan i'ch eiddo

 



Diogelwch
  • allweddi coll

 

Eitemau ystafell ymolchi a chegin
  • seddau a chaeadau toiled
  • plygiau a chadwyni

 

Trydanol
  • switshis golau, socedi, ffiwsiau, a ffitiadau trydanol (os nad y cyngor sydd wedi'u gosod)
  • offer fel tegelli, tostwyr ac ati…
  • bylbiau golau, tiwbiau fflwroleuol, a chychwynwyr

 

Tanau a gwresogi
  • glanhau padelli lludw a gyddfblatiau (rhan o'r lle tân)

 

Y tu mewn i'ch eiddo
  • addasu drysau e.e. ar ôl gosod lloriau newydd
  • rheiliau llenni, silffoedd, bachau,
  • addurno tu mewn i'ch eiddo
  • craciau bach a diffygion addurnol e.e. craciau bach mewn plastr, crafiadau bach ar arwynebau ac ati…

 

Y tu allan i'ch eiddo
  • cynnal a chadw tiroedd e.e. torri'r lawnt, cadw'r ardd yn daclus, cynnal a chadw gwrychoedd, chwynnu patios a llwybrau ac ati…

 

 

Rydym ni (y cyngor) yn gyfrifol am:

Y tu allan i'ch eiddo

Y tu mewn i'ch eiddo

Ardaloedd allanol eraill

Gwasanaethau a ffitiadau

 



Y tu allan i'ch eiddo
  • toeau
  • simneiau (gan gynnwys ysgubo)
  • gwteri a phibellau dŵr glaw
  • waliau allanol
  • drysau allanol a'u fframiau
  • ffenestri - gan gynnwys gwydr
  • peintio tu allan eich eiddo

 

Y tu mewn i'ch eiddo
  • cypyrddau gosod
  • nenfydau
  • waliau mewnol (ond nid eu haddurno)
 
Ardaloedd allanol eraill
  • grisiau a llwybrau
  • draeniau
  • muriau ffiniol
  • garejys ac unrhyw dai allan
 
Gwasanaethau a ffitiadau
  • gwifrau a ffitiadau trydanol (os darparwyd hwy gan y cyngor)
  • gosodiadau nwy (os darparodd y cyngor neu os cytunodd i'w cynnal a'u cadw)
  • offer gwresogi (os darparwyd hwy gan y cyngor)
  • systemau plymio

 

Methu dod o hyd i'ch problem atgyweirio ar y rhestr?

Ffoniwch ni yn ystod oriau gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm):
📞 01437 764551

 

 Rhoi gwybod am atgyweiriad

ID: 13633, adolygwyd 01/07/2025