Atgyweirio a Chynnal Tai'r
Safon Ansawdd Tai Cymru
Cyfeiriwch at y ddolen ganlynol ar gyfer gwefan Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi manylion ychwanegol am Safon Ansawdd Tai Cymru/y Lwfans Atgyweiriadau Mawr
Safon ansawdd tai Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Yn 2024/25, bydd Cyngor Sir Penfro yn cael £4m gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei wario ar Gynlluniau Gwella Safon Ansawdd Tai Cymru.
Yn 2024/25, bydd Cyngor Sir Penfro yn gwario cyfanswm o £13.463m ar welliannau Safon Ansawdd Tai Cymru
Gwaith Mawr – Rhaglen Gyfalaf
Pob blwyddyn mae Cyngor Sir Penfro yn cyflawni gwaith mawr i wella cartrefi’r Cyngor. Dyma rai o’r gwelliannau yr ydym wedi eu gwneud yn y blynyddoedd diweddar:
- Moderneiddio’r tu fas i dai yn gyfan gwbl a’u hadnewyddu
- Gosod ffenestri newydd
- Adnewyddu / gwella ceginau
- Gwella a diweddaru systemau gwres canolog a bwyleri sydd yno eisoes
- Ailweirio trydanol
Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i barhau i wella cyflwr cartrefi’r Cyngor.
Nawr, mae gwaith sy’n cael ei wneud trwy waith atgyweirio wedi ei gynllunio a’r rhaglen gyfalaf, yn dilyn y gofynion y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi eu gosod. Gelwir y gofynion hyn yn Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru?
Mae’r Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn ganllawiau a osodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nid yw’r ddogfen wedi’i darparu yn Gymraeg
Mae’r SATC yn datgan bod rhaid i holl dai’r Cyngor fod:
- Mewn cyflwr da
- Yn ddiogel a sicr
- Wedi eu gwresogi’n ddigonol, yn effeithlon gyda thanwydd ac wedi eu hinswleiddio’n dda
- Gyda cheginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
- Mewn amgylchedd deniadol
- Yn addas i anghenion penodol y tyaid
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i sicrhau bod pob un o'i dai yn cyrraedd y safon ofynnol.
Beth mae’r Cyngor wedi ei wneud i gyflawni’r Safon Ansawdd Tai Cymru?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gofyn i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru lunio rhaglen waith i ddangos y modd y maent yn bwriadu cyflawni’r safon. Maent wedi gofyn hefyd am gynlluniau busnes sy’n dangos y modd y bydd y Cyngor yn trefnu’r gyllideb ar gyfer gwneud y gwaith y mae’r safon yn gofyn amdano.
Yn 2002, gwnaeth syrfewyr annibynnol arolwg o gyflwr ein tai. Yn sgil hyn lluniwyd cynllun busnes i gadarnhau’r modd y bydd y Cyngor yn gallu fforddio dod â’u tai lan i’r safon ofynnol erbyn 2012.
Mae’r Cyngor eisoes wedi cwblhau llawer o’r gwaith sy’n ofynnol i gyflawni’r safon, fel gosod gwres canolog nwy, cawodydd, ceginau newydd mewn eiddo a gwelliannau ar y tu fas. Mae cartrefi’n cael eu gwella’n gyson gyda blaenoriaeth i’r rhai gyda’r angen mwyaf.