Banc Ieuenctid Sir Benfro

Banc Ieuenctid Sir Benfro

Pwy ydym ni?

Rydym ni’n grŵp o bobl ifanc 14 - 25 oed sy’n byw yn Sir Benfro. Rydym ni’n aelodau o banel grantiau’r Banc Ieuenctid, ac yn gyfrifol am asesu ceisiadau grant sy’n cael eu harwain a’u cyflawni gan bobl ifanc o ystod o grwpiau neu brosiectau cymunedol.

Rydym ni’n rhan o Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc Sir Benfro

Gall grwpiau ieuenctid 11-25 oed wneud cais i Fanc Ieuenctid Sir Benfro am arian i'w helpu i arwain a datblygu eu syniadau prosiect. Rhaid i’r cais gael ei ysgrifennu gan berson ifanc a’i gefnogi gan oedolyn.

Rydym yn cyfarfod unwaith y mis, ac yn agor cyfnodau cyflwyno ceisiadau am grantiau ddwy neu dair gwaith y flwyddyn.

 

Eisiau gwneud cais?

Ydych chi'n glwb/grŵp neu'n unigolyn ifanc rhwng 11 a 25 oed, gyda syniad gwych ar gyfer prosiect lleol? A yw'n bodloni ein meini prawf? 

Os mai ‘ydym / ydw ac ydy !' yw eich atebion, beth am wneud cais am grant gennym ni am hyd at £1,000 i’w wneud yn bosibl?

I wneud cais, anfonwch e-bost CYPRO@pembrokeshire.gov.uk am fwy o wybodaeth.

 

ID: 10641, adolygwyd 24/10/2023